Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 12:38 pm ar 16 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Sarah. Mae'n hyfryd eich gweld yn y cnawd yma yn y Senedd. Ie, cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, fel y dywedais, oedd un o’r rhai cyntaf i adolygu proses y CDLl, ac mae datblygu cynaliadwy yn ganolog iawn i broses y cynllun datblygu hwnnw. Mae’n rhaid i'r holl gynlluniau datblygu gydymffurfio â gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac mae’n rhaid iddynt gyfrannu at gyflawni'r nodau llesiant diwylliannol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Felly, mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn nodi materion sy'n ymwneud â newid hinsawdd. Mae'n nodi egwyddorion datblygu cynaliadwy, ansawdd aer, cynhyrchu cymaint â phosibl o ynni adnewyddadwy a faint o gartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu ac ymhle, ac yna caiff y CDLlau eu profi yn erbyn y polisïau hynny drwy broses archwilio gyhoeddus. Felly, fel y dywedais wrth ateb cwestiwn arall, mae'r asesiadau o'r farchnad dai leol yn chwarae rhan yn hynny hefyd.
Ar yr un pryd, rydym hefyd yn cyflwyno adolygiad o'n rheoliadau adeiladu. Mae’r rheoliadau adeiladu newydd—cyhoeddwyd yr ymateb i’n cynllun effeithlonrwydd ynni ym mis Mawrth y llynedd—yn nodi penderfyniad i gyflwyno gostyngiad o 37 y cant mewn allyriadau carbon ar gyfer anheddau newydd ar draws pob sector, nid tai cymdeithasol yn unig, o gymharu â’r safonau cyfredol. Bydd y safonau newydd mewn grym o 2022, felly y flwyddyn nesaf, a chredwn y byddant yn arbed oddeutu £180 y flwyddyn ar gyfartaledd ar filiau ynni i berchnogion tai. Felly, maent yn gweithio tuag at dlodi tanwydd yn ogystal â gwarchod y blaned. Bydd angen i bob cartref newydd gael ei ddiogelu at y dyfodol gyda rheiddiaduron tymheredd isel a gwell safonau ffabrig i'w gwneud yn haws i ôl-osod systemau gwresogi carbon isel yn y dyfodol wrth iddynt ddod yn fwy cyffredin ac yn haws i’w gweithredu. Mae'r gostyngiad o 37 y cant, serch hynny, yn gam tuag at y newid nesaf mewn effeithlonrwydd ynni mewn rheoliadau adeiladu yn 2025, i gyfateb i'n targedau carbon, lle bydd angen i gartrefi newydd gynhyrchu o leiaf 75 y cant yn llai o allyriadau carbon deuocsid na'r rhai a adeiladwyd yn unol â’r gofynion cyfredol.
Felly, gallwch weld ein bod yn gwneud cynnydd cynyddrannol tuag at adeiladu'r cartrefi iawn yn y lle iawn, felly mae proses y CDLlau yn adlewyrchu hynny, a'u hadeiladu hefyd yn unol â’r safonau y mae cenedlaethau'r dyfodol yn eu haeddu ac yn eu disgwyl, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi mabwysiadu'r ddwy broses honno’n gynnar.