Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 16 Mehefin 2021.
Cyfarfûm ag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yr wythnos diwethaf, ac maent wedi bod yn cynnal arolygon ymysg myfyrwyr prifysgol sy'n dangos bod 60 y cant o'u haelodau'n dweud bod eu hiechyd meddwl yn waeth na'r hyn ydoedd cyn y pandemig a'i fod wedi gwaethygu pwysau cymdeithasol, pwysau ariannol a'r gwaith academaidd y maent yn ei wynebu. O ganlyniad, mae myfyrwyr mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl. Gwelais fod—. Wel, y llynedd, y tymor diwethaf, fe wnaethom groesawu'r ffaith bod Llywodraeth ddiwethaf Cymru wedi buddsoddi £10 miliwn mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig, buddsoddiad a gafodd effaith fawr ar fyfyrwyr prifysgol. Gwelais eich datganiad ysgrifenedig y bore yma, fel y nodoch chi yn awr, lle roeddech chi'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu—ac rwy'n dyfynnu—
'dysgwyr ôl-16 i symud ymlaen at gamau nesaf eu taith,' ac yn darparu amlinelliad o sut y câi hynny ei gyflawni. Ond a gaf fi ofyn am ychydig mwy o fanylion felly ynglŷn â sut yr eir i'r afael ag iechyd meddwl ôl-16 fel rhan o'r strategaeth honno?