Part of the debate – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 16 Mehefin 2021.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Nawr, mae cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd yn rhybudd pwysig i Gymru, ac yn enwedig i chi fel Llywodraeth Cymru. Yn wir, tuag at ddiwedd y Senedd ddiwethaf, rhybuddiodd 'Adroddiad ar Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2021 y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
'Yn awr, rhaid troi’r rhethreg yn gamau beiddgar a phendant.'
Un peth yw bod eich rhaglen lywodraethu yn datgan bod gennych
'y weledigaeth a’r uchelgais i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur', ond nid yw eich cyflawniad yn y gorffennol ac adroddiad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd yn cefnogi hynny. O'r 61 o risgiau a chyfleoedd, mae angen rhoi mwy o gamau ar waith yng Nghymru yn awr i fynd i'r afael â 32 ohonynt. Yn wir, dim ond mewn pump ohonynt y bernir bod cynnal y gweithredu presennol yn briodol. Felly, Lywydd, rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Gweinidog fod yr adroddiad hwn yn ddeunydd darllen heriol.
Mae llawer ohonom yn gweld newid hinsawdd ar waith yn uniongyrchol yn ein hetholaethau ar ffurf llifogydd. Mae'r sefyllfa'n gwaethygu, ac eto nid yw ein cymunedau'n cael eu clywed. Ers 2019, bûm yn galw am ymchwiliad annibynnol i lifogydd yn nyffryn Conwy ac yn fwy diweddar, gwnaed cais tebyg gan y gymuned, ac Aelodau yma yn awr yn wir, yn Rhondda Cynon Taf. Wel, mae'n bryd i chi ailfeddwl, oherwydd mae adran H3 ar bobl, cymunedau ac adeiladau yn datgan bod angen mwy o weithredu, ac nad yw risgiau'n cael eu rheoli'n effeithiol. Felly, a wnewch chi ymrwymo i wneud mwy ar lifogydd na'r ddwy frawddeg bitw yn y rhaglen lywodraethu?
Mae angen rhoi camau ar waith ar frys i fynd i'r afael â'r risg i natur hefyd. Mae Adran N1 yn nodi maint y risgiau sy'n deillio o newid hinsawdd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ac ystyrir eu bod yn uchel oherwydd nifer y rhywogaethau yr effeithir arnynt mor andwyol ac sy'n fwy tebygol o gael eu heffeithio wrth symud ymlaen. Nid yw hyn yn syndod gan fod Llafur Cymru wedi llywyddu dros ddirywiad rhywogaethau Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Felly, byddaf yn falch o glywed pa dargedau y byddwch yn eu gosod mewn perthynas â chadwraeth bywyd gwyllt i fonitro ac ysbrydoli cynnydd.
Mae'r adroddiad hefyd yn manylu ar y camau brys sydd eu hangen i wella parodrwydd a gwyliadwriaeth rhag plâu, pathogenau a rhywogaethau goresgynnol, a chanfu'r adroddiad fod bylchau pwysig yn y wybodaeth o hyd am faterion yn ymwneud ag amaethyddiaeth a choedwigaeth. Felly, Weinidog, pa gamau brys a gymerir gennych i unioni'r bwlch hwn yn y wybodaeth? A allwch hefyd gadarnhau y bydd eich ymateb yn ceisio cynnwys manylion ynglŷn â sut y byddwch yn ariannu ac yn gweithredu'r strwythurau gwyliadwriaeth newydd angenrheidiol?
Mae mwy o risg hefyd yn sgil gwres. Gallai marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwres yng Nghymru gynyddu 2.4 ym mhob 100,000 o bobl y flwyddyn yn 2016 i 6.5 ym mhob 100,000 erbyn y 2050au. Felly, Weinidog neu Ddirprwy Weinidog, a allwch gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cynnwys y galw cynyddol am aerdymheru yn eich polisïau ynni yn y dyfodol, ac yn ystyried cyflwyno cynllun i gymell pobl i ddefnyddio dulliau aerdymheru goddefol?
Yn olaf, canfu'r astudiaeth hefyd nad oes gan y polisi presennol gamau gweithredu manwl a chanlyniadau penodol i'r sector morol a'r amgylchedd. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflwyno cynlluniau gweithredu manwl i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar bysgodfeydd o fewn amcan y sector pysgodfeydd, neu ar gyfer rhywogaethau morol? Mae angen inni drafod yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd yn fanylach o lawer, ond rwy'n falch ein bod wedi dechrau heddiw. Diolch.