Part of the debate – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 16 Mehefin 2021.
Diolch yn fawr, Lywydd. Heddiw, cyhoeddodd y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd ei drydydd asesiad annibynnol ar risg hinsawdd y DU. Mae'n ddeunydd darllen heriol iawn. Mae'n nodi 61 o risgiau a chyfleoedd yn sgil newid hinsawdd i Gymru, gan gynnwys i seilwaith busnes, tai, yr amgylchedd naturiol ac iechyd. Roedd 26 o'r 61 o risgiau wedi cynyddu o ran eu difrifoldeb dros y pum mlynedd diwethaf. Gallwn weld hyn drosom ein hunain. Yn 2018, gwelsom yr haf poethaf ers dechrau cadw cofnodion. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cofnododd Cymru ein mis Chwefror gwlypaf a'n llifogydd gwaethaf mewn 40 mlynedd. Nid yw'r rhain yn ddigwyddiadau anarferol mwyach; mae'r tywydd anrhagweladwy ac eithafol hwn yn rhywbeth y bydd yn rhaid inni ddod i arfer ag ef.
O fewn oes ein plant, mae'r adroddiad yn rhybuddio am aeafau gwlypach, hafau sychach a phoethach a chynnydd yn lefel y môr o hyd at ddwy droedfedd a hanner ar hyd arfordir Cymru. Gallai'r rhain gael effeithiau dinistriol. Ym mhob categori a astudiwyd gan yr adroddiad, ceir llu o risgiau gyda'r sgôr brys uchaf posibl. Mae'r cyngor hwn yn amserol iawn. Mae sefydlu gweinidog newid hinsawdd newydd yn ei gwneud yn haws trefnu prif feysydd Llywodraeth ddatganoledig sy'n cael yr effaith fwyaf ar ein hallyriadau: tai, trafnidiaeth, ynni, cynllunio, polisi amgylcheddol a ffyrdd digidol o weithio.
Mae'r newid sefydliadol hwn yn ein galluogi i adeiladu ar sylfeini gwaith polisi hanfodol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae ein cynllun addasu, 'Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd', ar yr ail flwyddyn o'i gyflawniad bellach. Mae ein strategaeth llifogydd genedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020, yn nodi sut y byddwn yn rheoli perygl llifogydd dros y degawd nesaf. Ac eleni rydym yn buddsoddi £65 miliwn ar gyfer rheoli perygl llifogydd, y swm mwyaf a fuddsoddwyd yng Nghymru mewn un flwyddyn. Yn fwy na hynny, mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i ariannu mesurau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer mwy na 45,000 o gartrefi ledled Cymru, a darparu system rheoli llifogydd ar sail natur ym mhob prif dalgylch afon i ehangu cynefinoedd gwlyptir a choetir.
Rydym yn gwneud llawer yng Nghymru. Astudir ein fframwaith cyfreithiol ar ddeddfu ar gyfer anghenion cenedlaethau'r dyfodol ledled y byd. Mae ein gweithredu ymarferol ar ailgylchu yn agos at frig y tabl yn fyd-eang. Dilynwyd ein treth ar fagiau siopa untro yn eang ac mae wedi llwyddo i leihau'r defnydd o blastig yn sylweddol.
Ers 1990, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru wedi gostwng 31 y cant. Ond Lywydd, mae maint ein her yn fawr. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf, bydd angen inni fwy na dyblu'r holl doriadau y llwyddasom i'w gwneud dros y 30 mlynedd diwethaf. Os na wnawn fwy na dal ati ar ein cyflymder presennol, ni lwyddwn i gyflawni sero-net tan tua 2090. Rydym wedi ymrwymo i'w gyrraedd erbyn 2050, ond o ystyried difrifoldeb y cyngor newydd heddiw gan y pwyllgor ymaddasu, ni allwn fod yn hunanfodlon, ac ni allwn dybio ychwaith y bydd y targed hwn yn aros yn sefydlog.
Dros yr 16 mis diwethaf rydym i gyd wedi dod i arfer â pholisi cyhoeddus sy'n seiliedig ar y wyddoniaeth. Rydym i gyd wedi dod yn gyfarwydd â'r Prif Weinidog yn dweud wrthym fod y data'n rhoi lle inni wneud dewisiadau, ac wrth i'r data a'r wyddoniaeth newid, mae'r dewisiadau sydd gennym i'w gwneud yn newid. Rydym wedi dilyn y dull hwn o fynd i'r afael â'r coronafeirws. Rhaid inni ddilyn yr un dull ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Bydd y Llywodraeth hon yn arwain, ond ni allwn ei wneud ar ein pen ein hunain—ni all yr un Lywodraeth wneud hynny. Mae'n rhaid i bob busnes a sefydliad, a phob un ohonom ni, ystyried ein cyfrifoldebau ein hunain, ystyried effaith y dewisiadau a wnawn, y ffordd rydym yn gwresogi ein cartrefi, pam a sut y teithiwn, beth rydym yn ei fwyta, ble rydym yn siopa, sut rydym yn ymlacio, y ffordd rydym yn gweithio, a ble rydym yn gweithio.
Bydd hyn yn creu tensiynau i bob un ohonom. Dylem gydnabod hynny. Nid cyfaddawdau syml yw'r rhain. Rhaid inni weithio drwyddynt gyda'n gilydd. Ond ni ddylem ychwaith dybio y bydd y dewisiadau hyn yn gwneud ein bywydau'n waeth. Bydd llawer o'r pethau y mae angen inni eu gwneud i ymateb i'r wyddoniaeth ar newid hinsawdd yn creu manteision: swyddi newydd, datblygiadau technolegol newydd, aer glanach, strydoedd tawelach a llai o ddamweiniau, llai o amser yn cymudo, ymdeimlad cryfach o gymuned, natur yn ffynnu ar garreg ein drws, yn meithrin a gwella ein lles. Mae'r rhain i gyd yn bethau rydym eisoes wedi'u gweld yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwelwyd bod pethau a oedd yn ymddangos yn amhosibl yn bosibl, ac weithiau'n well.
Nid oes dim o hyn yn hawdd, ond fel y noda adroddiad heddiw gan y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd eto, mae pris peidio â'i wneud yn rhy fawr. Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein hymateb i adroddiad cynnydd y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd fis Rhagfyr diwethaf. Rydym wedi gwneud cynnydd teilwng ac rydym ar y trywydd iawn ar gyfer targed 2020. Byddwn yn amlinellu ymateb llawn y Llywodraeth i adroddiad heddiw i'r Senedd maes o law, ynghyd â'n cynllun lleihau allyriadau nesaf, Cymru sero-net, wrth inni edrych tuag at COP26 a COP Cymru.
Mae'n bwysig fod y Senedd hon yn cyfrannu'n llawn at ddatblygu ymateb Cymru. Rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan, a rhaid inni brofi syniadau ein gilydd i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau Cymru decach, werddach a chryfach. Diolch.