Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 16 Mehefin 2021.
Yn gyntaf, fel eraill, hoffwn adleisio'r sylwadau a wnaed gan yr Aelodau, heddiw a ddoe, wrth fyfyrio ar y golygfeydd gwirioneddol frawychus ym mhencampwriaeth Ewrop gyda Christian Eriksen dros y penwythnos. Mae'r hyn y gwnaethom dystio iddo ddydd Sadwrn diwethaf yn tynnu sylw at bwysigrwydd diffibrilwyr a'r angen am swyddogion wedi'u hyfforddi'n briodol. Rwy'n siŵr y bydd y Siambr gyfan yn ymuno â mi i ddymuno gwellhad llawn iddo. Er ein bod am annog pawb i gymryd rhan mewn chwaraeon a bod yn egnïol, mae angen inni sicrhau bod hynny'n cael ei wneud mewn ffordd mor ddiogel â phosibl.
Lywydd, rwy'n falch iawn o'r ffaith ein bod ni, a ninnau'n genedl fach, yn gwneud yn llawer gwell na'r disgwyl ar lwyfan y byd o ran digwyddiadau chwaraeon. Y dystiolaeth economaidd ac iechyd y cyfeiriwyd ati gan Tom Giffard a Heledd Fychan yw'r ffynonellau tystiolaeth a fu'n sail ar gyfer asesu cyllid ychwanegol ar gyfer chwaraeon, er mwyn cefnogi'r sector drwy gydol y pandemig a pharatoi ar gyfer y cyfnod ar ôl COVID.
Mae gennym enw da o'r radd flaenaf, a hynny'n haeddiannol, am ddenu digwyddiadau chwaraeon, digwyddiadau diwylliannol a digwyddiadau busnes rhyngwladol fel Cwpan Ryder, gemau prawf y Lludw, Ras Fôr Volvo, rowndiau terfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, uwchgynhadledd NATO, Womex a datblygu digwyddiadau cartref, gan gynnwys Focus Cymru, Gŵyl Gomedi Aberystwyth, a digwyddiadau canmlwyddiant Dylan Thomas a Roald Dahl dros y 10 mlynedd diwethaf. Nid dyheadau yw'r rhain; dyma sydd wedi digwydd yng Nghymru. Mae'r digwyddiadau mawr hyn yn parhau. Mae'n wych gweld Canwr y Byd Caerdydd y BBC ar y gweill ac yn ennyn darllediadau rhyngwladol, ac edrychwn ymlaen at groesawu tîm criced Lloegr i Gaerdydd cyn bo hir.
Ond nid dyma ben draw ein huchelgais. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru a thu hwnt i sicrhau ceisiadau llwyddiannus, er enghraifft gyda Chyngor Sir Ynys Môn i gynnal Gemau'r Ynysoedd yn 2027. Yn ddi-os, mae digwyddiadau wedi bod yn rhan allweddol o'r economi ymwelwyr yma yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf, ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y llwyddiant rydym wedi'i gael hyd yma. Ac os caf ymateb yn fyr i Sam Kurtz, ar ddigwyddiadau, rydym yn parhau i weithio gyda'r sector i agor cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny, a sicrhau bod y rheolau'n gyson ac wedi'u deall yn dda, ond rhaid inni ystyried sefyllfa iechyd y cyhoedd ar unrhyw adeg benodol pan fyddwn yn edrych ar ddigwyddiadau a llacio rheolau.
Gan droi yn awr at y cynnig, sylwaf ei fod ond yn ailadrodd yr hyn a glywsom gan y Blaid Geidwadol yn ei maniffesto ar gyfer yr etholiad y mis diwethaf. Yn yr un modd, mae'r gwelliannau gan Blaid Cymru yn ailddatgan yr hyn a welsom yn eu maniffesto hwythau. Collodd y ddwy blaid yr etholiad hwnnw, felly efallai ei bod yn fwy perthnasol i ni siarad am yr hyn sydd ym maniffesto Llafur Cymru a'n rhaglen lywodraethu. Mae'n werth nodi hefyd fod y cynnig a'r gwelliannau'n sôn am amrywiaeth o syniadau a mentrau sydd eisoes yn digwydd. Er enghraifft, mae Llywodraeth y DU eisoes yn gweithio gyda ni fel rhan o bartneriaeth rhwng y pum gwlad i ystyried dichonoldeb cais gan y DU ac Iwerddon i gynnal Cwpan y Byd FIFA 2030.
Mae Chwaraeon Cymru eisoes yn cynnal rhwydwaith o lysgenhadon chwaraeon drwy'r rhaglen Llysgenhadon Ifanc, sy'n cynnwys datblygu syniadau a chreu cyfleoedd chwaraeon fel bod mwy o bobl ifanc yn cael cyfle i brofi manteision ffordd o fyw egnïol, gan roi hyder a sgiliau i bobl ifanc fod yn arweinwyr chwaraeon y dyfodol. Nod partneriaethau rhanbarthol Chwaraeon Cymru fydd cael dull strategol hirdymor o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sydd i'w gweld ar hyn o bryd yn y ddarpariaeth chwaraeon. Byddant hefyd yn ymdrin â'r galw cudd am weithgaredd chwaraeon tra'n mynd i'r afael ag anghysondeb yn y cyfraddau sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ar draws y cymunedau yng Nghymru. Gallaf sicrhau Huw Irranca-Davies mai uchelgais y Llywodraeth hon ar gyfer chwaraeon yng Nghymru yw adeiladu ar ein cyflawniadau chwaraeon ac ymdrechu'n barhaus i gael mwy o gyfleoedd i bawb ledled Cymru gymryd rhan mewn chwaraeon, a bod yn gorfforol egnïol, waeth beth fo'u cefndir, ac nid dim ond ailddyfeisio'r olwyn a dod o hyd i'r Lynn the Leap nesaf.
Dyna pam ein bod yn buddsoddi mewn mwy o gyfleusterau cyfalaf, gan gynnwys y caeau 3G y cyfeiriodd Jack Sargeant atynt. A gaf fi ddweud, Lywydd, nad oes y fath beth â chae 4G mewn gwirionedd? Strategaeth farchnata gan y gweithgynhyrchwyr yn unig yw cae 4G; 3G yw'r hyn sydd gennym a dyma sy'n cael ei ddefnyddio, a dyna sydd gennym yn Nhref Merthyr. Mae'n gyfleuster cymunedol gwych, a hoffwn annog unrhyw glybiau i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu caeau artiffisial at ddefnydd y gymuned.
Fel y dywedodd Hefin David, pan fyddwn yn edrych ar chwaraeon unigol a chymunedau'n cefnogi chwaraeon ac yn cyflawni ein gweledigaeth a'n strategaeth ar gyfer chwaraeon, dylem edrych ar fwy na chwaraeon wedi'u trefnu a chwaraeon tîm yn unig. Dylem edrych ar gael pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau, boed yn gamp ddynodedig fel y dywedais neu'n gamp tîm. Rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud i annog ein holl gymunedau i fod yn fwy egnïol ac i gymryd rhan mewn mwy o gyfleoedd chwaraeon. Dyna pam y bydd ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a'n cynllun gweithredu LGBTQ+ yn cynnwys camau wedi'u hanelu at wella cyfleoedd chwaraeon i'r grwpiau hynny.
Ar y pwyntiau a gododd Hefin David a Delyth Jewell am benderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar bêl-droed menywod—a gwn fod Laura wedi bod yn awyddus iawn i fynd ar drywydd y mater hwn hefyd—ysgrifennais at Gymdeithas Bêl-droed Cymru, fel y dywedodd Hefin, ac rwy'n gobeithio gwneud datganiad yn fuan am y trafodaethau gyda hwy. Ond rwy'n glir fy mod am weld gêm y menywod yng Nghymru yn ffynnu, ac fe wnaf beth bynnag y gallaf i sicrhau bod hynny'n digwydd.
I gloi, Lywydd, credaf y byddai pob Aelod yn cytuno bod gan chwaraeon a gweithgarwch corfforol bŵer mawr i'n huno ac i'n helpu i ymadfer yn gryf o'r pandemig. Mae'r Llywodraeth hon a Chwaraeon Cymru eisoes yn gweithio i sicrhau bod pawb yn cael cyfleoedd i gymryd rhan ac elwa o chwaraeon ar bob lefel. Dyna pam rwy'n gofyn i'r Aelodau wrthod y cynnig, a gwelliannau Plaid Cymru, a chefnogi gwelliant y Llywodraeth yn lle hynny. Gyda'ch amynedd, Lywydd, gobeithio y gwnaiff bawb ymuno â mi i gefnogi tîm Cymru, nid yn unig heno, ond dros weddill gemau'r Ewros. Rwy'n gobeithio y gallwn fynd un cam ymhellach nag y gwnaethom yn 2016. Diolch.