Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 16 Mehefin 2021.
Nodaf y gwelliannau a gynigiwyd gan y Torïaid ac rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr. Mae llawer o'r cyfraniadau yma heddiw wedi bod yn ddiddorol iawn. Nid oes ond raid inni edrych dros y ffin ar Loegr ac ar weithredoedd Llywodraeth y DU i weld y gwrthgyferbyniad llwyr rhwng agweddau at bolisi tai. Datgelwyd yr wythnos hon fod y teicŵn eiddo a'r biliwnydd John Bloor wedi rhoi £150,000 i'r blaid Dorïaidd—yn uniongyrchol i'r blaid Geidwadol—gwta 48 awr ar ôl i un o Weinidogion y Llywodraeth gymeradwyo cynllun tai dadleuol ganddo a oedd yn mynd yn erbyn y cyngor tref a etholwyd yn ddemocrataidd ger Ledbury a oedd wedi'i wrthod.
Yng Nghymru, rydym yn ceisio cartrefu'r digartref, cefnogi perchnogion tai a helpu rhentwyr, a pheidio â rhyngu bodd datblygwyr sy'n gorelwa. Yng Nghymru, rydym yn dewis gwella cartrefi sy'n bodoli'n barod, brwydro i ymladd tlodi tanwydd a chreu swyddi mawr eu hangen, cyfleoedd hyfforddi newydd a chadwyni cyflenwi, a hynny ar sylfaen polisi gwyrdd carbon niwtral. Am y tro cyntaf ers degawdau, mae awdurdodau lleol yn adeiladu tai cyngor eto, a chyflawnwyd hyn drwy ddod â'r hawl i brynu i ben yng Nghymru, fel y dehonglodd Jane Dodds yn gywir, a hynny er mwyn diogelu tai rhent cymdeithasol i'r rhai sydd eu hangen, a chodi'r cap ar fenthyca gan awdurdodau lleol.
Yn y pumed Senedd, rhagorodd Llywodraeth Lafur Cymru ar ei tharged o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy o ansawdd uchel sy'n effeithlon o ran eu defnydd o ynni. Mae'r cynnydd hwn yn nifer y tai fforddiadwy—ie, tai y gallwn eu fforddio—yn ganlyniad uniongyrchol i'r buddsoddiad mwyaf erioed o £2 biliwn mewn tai dros y pum mlynedd diwethaf. Yn y chweched Senedd hon, bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu'n gymdeithasol. Ar ôl pandemig, ni fu erioed cymaint o'u hangen.
Ddirprwy Lywydd, rydym am weld pobl yn berchen ar eu cartrefi eu hunain os ydynt yn dymuno gwneud hynny, a dyna pam y mae prynu tŷ wedi'i wneud yn llawer mwy fforddiadwy drwy'r cynllun Cymorth i Brynu, sydd bellach yn rhagori ar ei darged o 6,000. Fodd bynnag, tai cymdeithasol i'w rhentu, fel y dywedodd Mike Hedges—rhent fforddiadwy—sy'n darparu asgwrn cefn i bob cymdeithas fwy cyfartal, ac yn awr, yng Nghymru, diolch i newid strategol, mae awdurdodau lleol bellach yn gallu adeiladu eto, a byddwn yn ehangu hyn. Mae Mike Hedges yn iawn eto ynghylch tai cydweithredol: mae angen inni ehangu'r maes hwn. Mae'r pandemig wedi datgelu ymhellach pa mor benderfynol yw Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd, gan na ddylid gorfodi neb byth i fyw ar strydoedd peryglus ac afiach ym mhob tywydd. Ac ers y cyfyngiadau symud, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi llety i 7,000 o bobl ac wedi sicrhau bod £50 miliwn ar gael i ddechrau trawsnewid gwasanaethau digartrefedd, gan gynnwys galluogi cymorth cyson gwirioneddol bwysig, i gefnogi'r symud ymlaen i gartrefi parhaol. Yn syml, mae gan Lywodraeth Cymru hanes balch ym maes tai ac mae'n un rwy'n ei gefnogi'n llawn ac yn llwyr. Diolch.