– Senedd Cymru ar 16 Mehefin 2021.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar bolisi tai. Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i wneud y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydyn ni'n byw mewn oes o argyfyngau, ac mae’r argyfyngau yma yn cydblethu. Mae yna argyfwng amgylcheddol a newid hinsawdd—rydyn ni wedi clywed amdano heddiw yn barod; mae yna argyfwng iechyd cyhoeddus; ac mae yna argyfwng economaidd.
Rŵan, pam fy mod i’n sôn am yr argyfyngau yma mewn dadl am argyfwng tai? Oherwydd bod tai yn ffactor cyffredin sy'n perthyn i bob un o’r argyfyngau yma yn ogystal â rhai eraill. Ystyriwch yr argyfwng newid hinsawdd. Daw tua 14 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr y Deyrnas Gyfunol o’r stoc dai, ac mae gan Gymru y stoc dai hynaf yn Ewrop, yn llai effeithiol wrth ddefnyddio ynni ac angen mwy o gynnal a chadw.
O ran yr argyfwng COVID presennol, bellach gallwn wneud cyswllt uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng effaith COVID ar rai dioddefwyr ac ansawdd eu tai. Neu, os edrychwn ni ar yr argyfwng economaidd, mae mwy o gyfoeth yn cael ei gronni yn nwylo nifer fach o bobl, sydd yn prynu nifer fwy o eiddo, tra bod y tlawd yn mynd yn dlotach a digartrefedd ar gynnydd. Ydy, mae’r argyfwng tai yn drawsadrannol. Ond, o ddechrau datrys yr argyfwng yma, yna fe allwn sicrhau gwell ansawdd byw i ddegau o filoedd o bobl.
Wrth gwrs, roedd yna argyfwng tai cyn y coronafeirws, ond mae’r pandemig yma wedi ei waethygu, ac wedi amlygu’r graddau y mae'r ansicrwydd tai yn effeithio’n anghymesur ar yr ifanc, y mwyaf bregus a phobl ar incwm isel. Does dim gwadu, bellach, fod gan ein cymdeithas ni berthynas gwyrdroëdig ag eiddo erbyn hyn. Mae eiddo, a ddylai fod yn annedd fyw, bellach yn cael ei weld fel buddsoddiad ariannol er mwyn budd economaidd personol, nid fel rhan hanfodol o fywyd—yr hawl i do uwch ein pen a’r hawl i fyw adref.
Rŵan, rhan ganolog o’r ddadl am yr argyfwng tai ydy fforddiadwyedd. Mae tai bellach yn anfforddiadwy i’r rhan fwyaf o bobl ym mhob cornel o Gymru, a dwi’n siŵr y clywn ni fwy am hynny gan fy nghyfaill, Peredur Owen Griffiths.
Dywed rhai mai creu mwy o swyddi sydd ei angen i ddatrys hyn. Ydy, wrth gwrs, mae gwasgaru cyfoeth a swyddi ar draws Cymru yn rhan o’r ateb, ond dydy o ddim yn ateb ynddo’i hun, oherwydd fel y saif pethau, a heb ymyrraeth bellgyrhaeddol, byddai angen i gyflogau ddyblu neu i werth tai haneri er mwyn dod â balans yn ôl i’r farchnad. Yn syml, mae angen ymyrraeth, a dod â rheolaeth i’r farchnad dai, er mwyn rhoi cyfle teg i bawb gael cartref, oherwydd mae’r farchnad yn gweithio yn erbyn gormod o bobl Cymru.
Rŵan, bydd y frawddeg olaf yna yn pryderu'r Aelodau ar y meinciau Ceidwadol, oherwydd eu bod nhw’n credu yng ngrym y farchnad—mae'n rhan sylfaenol o'u hideoleg nhw fel plaid. Ond y diffyg ymyrraeth yma, y polisïau laissez faire yma, sydd wedi gadael ein pobl a'n cymunedau i lawr dro ar ôl tro. Eu hateb nhw ydy i adeiladu mwy o dai, ond dydy hynny ddim yn ateb cyflawn i’r broblem chwaith. Mae’r briodas yma rhwng y farchnad rydd a chyfalafiaeth yn golygu mai tai mawr moethus sy'n cael eu hadeiladu gan ddatblygwyr, oherwydd mai dyna ble y mae’r elw, er bod yna alw anferthol am fyngalos bach neu dai cychwynnol un neu ddwy lofft.
Yn ogystal â hyn, mae nifer o'n cymunedau yn dioddef diboblogi, ond eto, er hynny, yn parhau i weld tai mawr moethus yn cael eu codi yn eu plith. Yn sicr, felly, dydy'r farchnad yma ddim yn ateb galw lleol. Os ydy’r farchnad rydd yn ateb y galw, yna pam fod yna 67,000 o bobl ar restrau aros am dai cymdeithasol yng Nghymru? Mae’r farchnad rydd yn gweithio yn erbyn pobl Cymru—dyna'r gwir amdani.
Rŵan, tra bod y Ceidwadwyr yn hyrwyddo ideoleg laissez faire, y blaid laissez faire go iawn yng Nghymru, y blaid sydd yn gweithredu'r ideoleg, ydy’r Blaid Lafur, sydd wedi gwneud nemor ddim i ymyrryd yn y farchnad dros yr 20 mlynedd diwethaf. Dyma waddol New Labour a'u 'light-touch regulation', yn parhau yn fyw ac yn iach yma yng Nghymru.
Rŵan, yr enghraifft fwyaf amlwg o’r diffyg ymyrraeth yma yn fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd, ac mewn cymunedau ar draws Cymru, ydy'r mater o ail dai a’r cynnydd yn y nifer o letyau gwyliau tymor byr fel Airbnb. Bellach, mae’r rhan fwyaf o bobl a fagwyd yn y cymunedau yma, fel y Mwmbwls neu Ddinbych y Pysgod neu Aberhonddu neu yng Nghapel Curig, wedi cael eu prisio allan o’r farchnad dai leol. Yn wir, mae hanner pobl cymunedau ôl-diwydiannol fel Blaenau Ffestiniog wedi cael eu prisio allan o'r farchnad dai leol.
Yn ôl ymchwil y Dr Simon Brooks, tra bod y pandemig wedi gwneud pethau yn waeth, mae yna beryg go iawn y gall gadael yr Undeb Ewropeaidd wneud pethau hyd yn oed yn waeth fyth, ac mae o'n rhybuddio y gall canran o'r 70,000 o berchnogion ail dai yn Ffrainc, neu'r 66,000 o berchnogion ail dai yn Sbaen, edrych i brynu eiddo yma. Yn ôl ystadegau trafodion tir y flwyddyn ddiwethaf, roedd ychydig o dan hanner o'r tai a werthwyd yn fy etholaeth i yn Nwyfor Meirionnydd yn dai cyfradd uwch. Rŵan, tra bod yna sawl diffiniad o beth ydy tŷ cyfradd uwch, yn achos Dwyfor Meirionnydd, mae'n golygu ail dai yn bennaf. Dyma lefel yr her sy'n wynebu ein cymunedau ni a'n pobl ni heddiw.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi gweld prynwyr ariannog yn talu ymhell dros y pris gofyn gydag arian parod, gan wthio gwerth eiddo i fyny a sicrhau nad oes gan bobl leol sydd, ar y cyfan, ar gyflogau isel, unrhyw gyfle i brynu yn eu cynefin. Cymru, yn wir, welodd y cynnydd fwyaf mewn gwerth eiddo dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda gwerth tai yn saethu i fyny 13 y cant ar gyfartaledd, gyda rhai ardaloedd, fel sir Gâr, yn gweld cynnydd o 23 y cant, neu sir Fôn yn gweld 16 y cant o gynnydd. Mae hyn yn gwbl anghynaliadwy.
Wrth gwrs, hefyd, wrth drafod y broblem yma yng Nghymru, mae'n rhaid inni gydnabod ei fod e'n broblem ar draws y byd gorllewinol. Yn wir, mae Aotearoa wedi cymryd camau i atal pobl nad yw’n ddinasyddion yno rhag prynu eiddo yn y wlad. Felly hefyd yn Denmarc ac Awstria, sydd â rheolau llym am bwy all brynu eiddo yn y gwledydd yna. Mae deddfwrfeydd rhanbarthol yn Awstralia, yng Nghanada a'r Eidal wedi gweithredu ar ail dai, tra bod llywodraethau lleol yn Amsterdam, ym Mharis, ym Merlin, ac eraill, wedi cymryd camau i weithredu ar letyau gwyliau tymor byr fel Airbnb. Ond dydyn ni ddim wedi gweld dim yn cael ei wneud yma yng Nghymru.
Rŵan, rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi sôn am gamau y dylid eu hystyried. Yn ddiweddar, fe ysgrifennodd cynghorau sir Gwynedd, Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin at y Prif Weinidog yn galw am newid adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 fel bod unrhyw dŷ annedd yn cael ei ddiffinio fel tŷ annedd ac felly yn talu treth gyngor lawn. Rydym hefyd wedi galw am ddiwygio'r Gorchymyn cynllunio gwlad a thref er mwyn cynnwys dosbarth defnydd ychwanegol ar gyfer llety gwyliau tymor byr, fel Airbnb, a hefyd wedi galw am gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer llety gwyliau tymor byr, a fyddai'n gyfrifoldeb ar yr awdurdod leol i'w weithredu. Mae'r rhain yn fesurau y gellir eu gweithredu yn sydyn, a hynny drwy ddeddfwriaeth eilradd.
Mi ydym ni yn y Blaid hefyd wedi sôn am yr angen i dreblu'r dreth trafodiadau tir ar brynu ail dai. Mae'r cam yma wedi cael ei gymryd mewn gwledydd eraill. Rydym ni hefyd wedi sôn am yr angen i dreialu creu dosbarth newydd cynllunio ar gyfer ail dai, a fyddai'n rhoi'r grym i'r awdurdod lleol reoli'r nifer o ail dai a rhoi cap ar y niferoedd o ail dai mewn cymunedau sydd o dan bwysau. Dim ond rhai argymhellion i fynd i'r afael â rhan o'r broblem ehangach ydy'r rhain, ac mae'n rhaid i ni dderbyn ei bod yn broblem llawer iawn mwy na phroblem ail dai yn unig.
Yn ôl prif economegydd presennol Banc Lloegr, Andy Haldane, mae'r prif declynnau i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn nwylo'r Llywodraeth. Mae'n sôn am y cyfraddau treth, am reolau cynllunio, ynghyd â mesurau hyrwyddo adeiladu tai. All ein Llywodraeth ni yma yng Nghymru ddim cuddio y tu ôl i fethiannau San Steffan yn yr achos yma, oherwydd bod y tri pheth yma o fewn eu cymhwysedd nhw ac mae ganddyn nhw y gallu i weithredu. Y cwestiwn ydy: a wnawn nhw weithredu cyn ei fod o'n rhy hwyr? Diolch yn fawr iawn.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Janet.
Gwelliant 1—Darren Millar
Ar ôl 'tai' mewnosoder:
'gan gynnwys cymryd camau i:
a) sichrau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto;
b) adfer yr hawl i brynu yng Nghymru;
c) cael gwared ar y dreth trafodiadau tir ar gyfer prynwyr tro cyntaf;
d) gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae landlordiaid cofrestredig cyfrifol yn ei wneud i ddarparu llety addas i denantiaid; ac
e) cyflwyno deddfwriaeth ar ddiogelwch adeiladau.'
Diolch. Rwy'n codi i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar AoS.
Nawr, prawf gwych o allu'r Senedd hon a Llywodraeth Cymru i newid bywydau pobl er gwell ledled Cymru yw'r angen i fynd i'r afael â'r argyfwng tai presennol. Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf ym mhrisiau tai yn y DU, cynnydd o 11 y cant ar gyfartaledd yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae cynigion yn cael eu gwneud yn awr cyn cynnal ymweliadau, a gwyddom i gyd fod llawer o bobl leol yn methu rhentu neu brynu cartrefi yn eu cymuned eu hunain. Un ffactor allweddol yn hyn wrth gwrs—er gwaethaf yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod ym Mhlaid Cymru—yw'r angen am gyflenwad tai newydd. Amcangyfrifir bod angen cymaint â 1,400 o gartrefi ychwanegol ar ogledd Cymru bob blwyddyn dros y pum mlynedd nesaf, ond mae'r data diweddaraf yn dangos mai dim ond 1,284 a gafodd eu darparu mewn gwirionedd. Mae angen cymaint â 2,000 ar ganolbarth a de-orllewin Cymru, ac eto dim ond tua 1,300 y flwyddyn a gyflawnir. Ac er y gallai de-ddwyrain Cymru fod angen bron i 5,000 y flwyddyn, mae'r gyfradd gyflenwi ddiweddaraf ychydig dros 3,100. Felly, mae'r dystiolaeth yn arwydd nad oes digon o dai newydd yn cael eu hadeiladu ar draws y wlad.
Mae angen inni greu amgylchedd mwy deniadol i adeiladwyr fuddsoddi yma, ond wrth wneud hynny, mae angen inni barchu cymunedau a democratiaeth drwy sicrhau bod yr holl safleoedd a ddyrennir mewn CDLlau yn cael eu hadeiladu mewn gwirionedd cyn ystyried unrhyw leoliadau wrth gefn neu leoliadau eraill ar gyfer ceisiadau cynllunio. Cam arall y gallwn ei gymryd ar unwaith yw adeiladu tai cymdeithasol mewn cymunedau lle mae'r argyfwng ar ei waethaf, ac adfer yr hawl i brynu yng Nghymru, gan rymuso pobl leol i fod yn berchen ar gartref yn eu cymuned eu hunain. Byddai hyn yn gwneud rhywfaint i fynd i'r afael yn gadarnhaol â'r ffaith bod nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd wedi gostwng draean ers dechrau'r Senedd hon ym 1999.
Fel y dywedodd Sefydliad Tai Siartredig Cymru:
'Mae tai cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol yn lleddfu'r broblem i'r rhai sy'n dioddef waethaf yn yr argyfwng tai'.
Mae gan y sector rhentu preifat ran i'w chwarae hefyd. Mae'r mwyafrif helaeth o'n landlordiaid yn cydymffurfio, yn gydwybodol ac yn gyfrifol. Canfu Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl fod 90 y cant o landlordiaid y gofynnwyd iddynt yn cytuno bod angen rhyw raddau o gymorth rhent. Roedd hynny'n ychwanegol at fesurau sy'n dod i'r amlwg fel cyfnodau rhybudd estynedig a'r gwaharddiad ar feddiannu sydd wedi peri i rai landlordiaid wynebu trafferthion ariannol enbyd. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru wedi rhoi system ar waith yn awr sy'n caniatáu i denantiaid gwael fanteisio drwy wrthod talu eu rhent hyd yn oed pan fyddant mewn sefyllfa i wneud hynny. Felly, nid yw'n syndod fod traean o landlordiaid bellach wedi dweud eu bod yn fwy tebygol o adael y farchnad yn gyfan gwbl. A byddai hynny'n creu sefyllfa drychinebus, gan y bydd llai o stoc dai yn ei gwneud hyd yn oed yn anos i bobl ddod o hyd i gartrefi. Rhaid mynd i'r afael â mater ôl-ddyledion, felly rwy'n cefnogi galwadau gan Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl i lacio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer benthyciad arbed tenantiaeth. Y gwir amdani yw, os byddwch yn ei gwneud yn fwy deniadol i landlord preifat symud i'r sector gosod tai gwyliau, bydd gennych lai o ddarpariaeth barhaol.
Fel y soniwyd, gall perchnogion osod eiddo ar rent drwy Airbnb yn rhwydd a bod yn gymwys wedyn i gael rhyddhad ardrethi busnes. Mae angen edrych ar y bwlch hwn yn y gyfraith a'i gau fel mai ein busnesau gwyliau hirdymor go iawn sy'n gallu elwa. Fel y dywedodd Dr Simon Brooks, ceir cymunedau sydd â phroblem ail gartrefi lle mae darparu cyflenwad digonol o dai rhent yn bwysicach na chyfyngu ar nifer yr ail gartrefi, felly dylech fod yn ceisio cymell ein landlordiaid preifat fel eu bod yn dymuno parhau i osod eu heiddo ar rent i'r rhai sydd angen hynny ac i helpu i sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto, megis drwy becyn cyfannol o gymhellion y dreth gyngor.
Mae'n argyfwng fod cyfanswm yr eiddo gwag hirdymor trethadwy wedi aros ar oddeutu 25,000 y flwyddyn drwy gydol y Senedd ddiwethaf. Rydym i gyd yn cytuno bod angen i'r rhain gael eu defnyddio eto. Felly, ffordd arall y gallwch wneud hyn yw drwy ymestyn Cymorth i Brynu i gynnwys adeiladau y mae angen eu hadnewyddu. Fel y mae, mae Cymorth i Brynu ar lwybr tuag i lawr, felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn annog dyhead, a gallwch wneud hyn yn sicr drwy ddileu'r dreth trafodiadau tir i brynwyr tro cyntaf. Gobeithio bod y pwyntiau a amlinellais heddiw yn fan cychwyn trawsbleidiol ar gyfer cydweithredu ar yr argyfwng hwn. Diolch.
A gaf fi ddweud mor falch wyf fi fod tai'n cael eu trafod mor gynnar yn nhymor y Cynulliad hwn? I lawer o fy etholwyr, mae tai'n eithriadol o bwysig. Mae llawer ohonynt heb fod wedi'u cartrefu'n addas, mewn llety dros dro neu'n ddigartref. Gwyddom hefyd fod maint aelwydydd wedi lleihau, gyda mwy o bobl ar aelwydydd un person, ac mae'n duedd sy'n debygol o barhau.
Mae llawer gormod o dai'n wag, nid oes digon o dai cyngor yn cael eu hadeiladu, rydym wedi gweld lesddaliad a thaliadau cynnal a chadw uchel yn dychwelyd, ac rydym yn gweld ystadau'n cael eu hadeiladu gyda'u ffyrdd a'u palmentydd nad ydynt yn cyrraedd safon y gellir eu mabwysiadu. Yn ôl data a gafwyd gan newyddion ITN yn 2018, roedd 43,000 o gartrefi gwag yng Nghymru, gydag o leiaf 18,000 wedi bod yn wag am fwy na chwe mis. Mae'r rhain yn cynnwys pob math o eiddo, gan gynnwys rhai yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd. Nid oes gennyf reswm i gredu bod y nifer hwn wedi gostwng dros y tair blynedd diwethaf.
Mae cartrefi gwag yn adnodd gwastraffus ar adeg pan fo galw sylweddol am dai. Gallant hefyd achosi amrywiaeth o broblemau cymdeithasol ac amgylcheddol. Gallant arwain at fandaliaeth, troseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio cyffuriau, yn ogystal â phroblemau eraill, megis gerddi wedi gordyfu, ffensys terfyn ansefydlog a lleithder. Yn fwy pwysig, maent hefyd yn adnodd tai posibl nad yw'n cael ei ddefnyddio'n ddigonol ar hyn o bryd. Gall sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto helpu i fynd i'r afael â nifer o broblemau tai a phroblemau cymdeithasol drwy gynyddu'r cyflenwad mewn ardaloedd lle ceir prinder tai.
Ceir dwy ffordd o gynyddu'r gwaith o adeiladu tai newydd yng Nghymru. Un yw rhoi'r gorau i'r holl reolaeth gynllunio a gadael i'r farchnad benderfynu ble y gellir adeiladu tai, sef yr hyn a ddigwyddai i bob pwrpas cyn Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947. Bydd hyn yn arwain at adeiladu mewn ardaloedd sydd wedi'u diogelu ar hyn o bryd. Yr ail ffordd yw adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr, fel y gwnaethom yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel cyn 1979. Gweithiodd y ddwy strategaeth yn flaenorol; nid oes unrhyw reswm pam na fyddai'r strategaethau hyn yn gweithio eto. Credaf fod yr ail strategaeth yn strategaeth well o lawer na'r gyntaf.
Mae arnom angen mwy o dai cymdeithasol. Dylai tai fforddiadwy olygu tai cyngor a thai cymdeithasau tai. Yn hytrach na tharged ar gyfer Cymru gyfan, mae angen inni gael targedau ar gyfer pob ardal awdurdod lleol fel y gellir diwallu anghenion lleol. Yr unig adeg ers yr ail ryfel byd pan oedd digon o dai'n cael eu hadeiladu oedd pan oedd ystadau tai cyngor mawr yn cael eu hadeiladu ar hyd a lled Cymru. Rhaid inni adeiladu digon o dai fforddiadwy i ddiwallu'r angen rhagamcanol am dai yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf. Dylid cyflawni hyn drwy rymuso cynghorau lleol i wneud defnydd llawn o'u pwerau benthyca a'u gallu benthyca i adeiladu cartrefi a sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto ar gyfer rhent cymdeithasol.
Dylai fod gan gymdeithasau tai a chynghorau sydd heb stoc wedi'i throsglwyddo restr aros gyffredin a hefyd system drosglwyddo rhyngddynt. Byddai hyn yn helpu pobl i symud o dai mawr i dai llai wrth iddynt fynd yn hŷn, heb orfod wynebu'r broblem o fethu trosglwyddo a gorfod ailymgeisio. Yn sicr, mae hyn yn rhywbeth a fyddai'n gweithio. Mae llawer o bobl—mae cartref y teulu yno, mae'r teulu wedi gadael, mae un person ar ôl ynddo, mae'n dŷ tair neu bedair ystafell wely, mae'n gwbl anaddas, maent eisiau symud, ond mae dod o hyd i rywle iddynt symud iddo'n anodd iawn ac o ganlyniad, mae gennym sefyllfa lle mae gennym deuluoedd yn byw mewn cartref gwael iawn a phobl sydd eisiau symud yn methu symud i gartref llai.
Rhaid inni gapio rhent cymdeithasol yn ôl mynegai prisiau defnyddwyr o chwyddiant, fel nad yw rhenti'n codi'n gyflymach na chyflogau neu fudd-daliadau. Ac mae'n bwysig gwneud y pwynt fod yn rhaid cysylltu polisi tai a pholisi sgiliau adeiladu yn well yng Nghymru, neu fel arall ni fydd neb ar gael i adeiladu neu roi at ei gilydd y cartrefi rydym am eu cael nac i ôl-osod y rhai sydd gennym yn barod. Mae llawer o waith i'w wneud ym maes tai. Rydym angen y sgiliau i'w wneud. Rydym angen polisi integredig cydlynol ar gyfer tai, gan sicrhau bod gennym weithwyr medrus i adeiladu'r tai.
Ymrwymiad cynghorau i adeiladu tai: cyllid ar gyfer datblygu tai cyngor, gan gynnwys defnyddio benthyca darbodus a benthyca yn erbyn gwerth stoc cynghorau. Datblygu tai cydweithredol: rwyf wedi ysgrifennu am hyn yn fanwl iawn, ond rydym ymhell ar ôl gweddill y byd ar gynhyrchu tai cydweithredol. Yn bwysicach na hynny, yr ewyllys wleidyddol i fynd i'r afael â'r prinder tai. Mae pawb yn haeddu cartref gweddus; ein lle ni yw sicrhau bod gan bawb gartref gweddus, a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu strategaeth sy'n cael pobl i mewn i dai. Ac mae un effaith arall i adeiladu tai cyngor: mae'n adfer rhai o'r tai rhent preifat i berchen-feddiannaeth. Felly, mae pawb ar eu hennill.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi clywed lot am yr argyfwng tai yng Nghymru a'r ffocws gan y cyfryngau yn benodol ar effaith ail gartrefi mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae pwysigrwydd y mater hwn yn amlwg, ond rhaid mynd i'r afael â'r broblem ehangach sydd gennym yng Nghymru.
Er nad oes cymaint o gartrefi gwyliau yn Nwyrain De Cymru ag sydd mewn rhannau eraill o'r wlad, mae craidd y mater yma yr un fath: ni all pobl fforddio prynu cartrefi yn y lle maent yn ei ystyried yn gartref. Mae prisiau eiddo a chyflogau cyfartalog yn codi, ond pan fydd y cyntaf yn codi'n gyflymach na'r ail, mae gennym broblem. Ni all pobl leol fforddio tai yn eu cymdogaethau. Nid yw'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli yn eithriadau.
Felly, pa mor ddrwg yw hi yn y de-ddwyrain? Wel, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cododd pris eiddo cyfartalog yng Nghaerffili 10 y cant. Mae'r darlun yn debyg ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Merthyr Tudful. Cymharwch hynny â'r cyflog wythnosol cyfartalog yng Nghymru, sydd ond wedi codi £1.71. Yr hyn y mae'n ei olygu yw bod pobl yn rhai o rannau mwyaf difreintiedig Cymru yn cael eu prisio allan o'u cymunedau. A yw hyn yn swnio'n gyfarwydd?
Mae'r argyfwng tai yn effeithio ar bob rhan o Gymru. Yn aml, rhaid i'r rhai sy'n ddigon ffodus i gael troed ar yr ysgol eiddo ddibynnu ar fanc mam a dad. I'r rheini sydd heb gymorth teuluol, rhaid iddynt droi at y sector rhentu, lle mae llety'n llai diogel a digartrefedd yn fwy o fygythiad. Mae'r elusen Shelter yn dweud wrthym fod pobl iau wedi cael eu heffeithio'n fwy gan faich economaidd argyfwng COVID. Oni fydd y Llywodraeth yn gweithredu ar frys, bydd mwy o ofid ynghylch incwm ac opsiynau tai cenhedlaeth arall eto.
Rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, cysylltodd dros 31,000 o bobl â'u hawdurdod lleol am gymorth gyda phroblemau tai. Yn fwy pryderus, mae cyfradd yr aelwydydd sy'n wynebu bygythiad digartrefedd wedi bod yn cynyddu'n gyflym o un flwyddyn i'r llall, gyda bron i 12,000 o aelwydydd wedi eu gwneud yn ddigartref yn 2018-19, y gyfradd uchaf ers cyflwyno Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae digartrefedd yn broblem genedlaethol sy'n effeithio'n ddinistriol ar bobl a chymunedau bob dydd. Mae'n broblem rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi dweud ers blynyddoedd lawer y gellid ei datrys gyda'r ewyllys wleidyddol gywir. Yn y gorffennol, bu'n rhaid i ni ddefnyddio enghreifftiau rhyngwladol i wneud y pwynt hwn, ond nid oes rhaid i ni wneud hynny mwyach. Mae'r pandemig wedi newid pethau. Mae wedi dangos inni y gellir dileu digartrefedd yng Nghymru gyda'r lefelau cywir o fuddsoddiad ac awydd i wneud rhywbeth yn ei gylch. Bellach mae gennym brawf cadarn nad oes dim sy'n anochel am ddigartrefedd yng Nghymru. Mae'r ymateb i'r coronafeirws wedi dangos beth y gellir ei gyflawni.
Rhaid inni ymdrin â rhai gwirioneddau sylfaenol. Mae tai fforddiadwy yn wahanol i dai y gallwn eu fforddio. Mae un yn derm a ddefnyddir gan adeiladwyr i weithio o gwmpas rheoliadau cynllunio, a'r llall yn fater sylfaenol i'n teuluoedd, ein ffrindiau, ein cymdogion a'n hetholwyr. Gellir gwneud mwy gyda'r ddeddfwriaeth bresennol i fynd i'r afael â'r argyfwng tai. Gellir defnyddio adran 106 i liniaru effaith datblygiadau newydd ar y gymuned, a gellir defnyddio adran 157 hefyd i atal datblygiad rhag cael ei adeiladu fel llety gwyliau, ond hefyd, yn hollbwysig, gall atal cartref rhag cael ei werthu fel pryniant i'w osod o fewn cyfnod rhagnodedig o amser, neu gyfuniad o'r ddau beth efallai. Rhaid cynyddu'r gyfran o dai fforddiadwy—a'r hyn a olygaf yw tai y gallwn eu fforddio—mewn datblygiadau newydd. Beth am fewnosod cymal sy'n ei gwneud yn orfodol i adeiladu tai fforddiadwy cyn i'r stoc gael ei hadeiladu? Ac rwy'n defnyddio'r gair 'datblygiad', ac efallai eich bod yn meddwl bod hynny'n awgrymu cynnydd, ond o ran tai y gallwn eu fforddio, mae'n ymddangos ein bod yn mynd tuag yn ôl.
Mae hanes yn dweud wrthym nad yw hyn yn newydd. Bron i 20 mlynedd yn ôl, cafwyd straeon am brisiau eiddo yn Abertyleri yn saethu i fyny o ganlyniad i fewnlifiad o bobl o Fryste yn chwilio am fargen eiddo am bris gostyngol. Heddiw mae gennyf etholwr nad yw'n gallu fforddio prynu tŷ ym Mryn Mawr am yr un rheswm yn union. Nid o ble y dônt yw'r pwynt, ond yr effaith ganlyniadol ar ein cymunedau. Nid cartrefi gwyliau ynddynt eu hunain yw'r pwynt, ond yr effaith ganlyniadol ar ein cymunedau. Y pwynt yw bod gennym argyfwng tai yng Nghymru ac mae'n effeithio ar ein cymunedau—ein holl gymunedau. Mae'r effaith ganlyniadol honno eisoes wedi cyrraedd rhai o'r cymunedau tlotaf a rhaid gofyn i ble y byddant yn mynd, os nad i ddigartrefedd. Mae gan y Llywodraeth hon ddyletswydd i weithredu a gweithredu yn awr. Os achosir digartrefedd—
Dewch i gasgliad, os gwelwch yn dda.
—gan ddiffyg ewyllys wleidyddol, sut y caiff Llywodraeth ei barnu os byddant yn methu gweithredu yn wyneb argyfwng tai? Diolch.
Jane Dodds.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n ddiolchgar iawn.
Rwy'n mynd i fod yn fyr iawn oherwydd rwy'n ymwybodol fod yna bwysau, yn amlwg, ond roeddwn i wir eisiau dweud ychydig eiriau ar fater tai. Mae gan lawer ohonom atebion gwych, a dylem fod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn cynnwys y rheini mewn strategaeth gydlynol glir iawn.
Hoffwn sôn am ddau beth: y cyntaf yw fy nryswch gwirioneddol yma ynghylch safbwynt y Ceidwadwyr sy'n dweud ar y naill law eu bod am gael mwy o dai cymdeithasol, ac eto ar y llaw arall, maent am gael hawl i brynu. Oherwydd i mi yn fy ymennydd bach, mae hynny'n golygu eich bod yn mynd â thai o'r cyflenwad cymdeithasol ac nid ydych yn caniatáu i deuluoedd lleol allu eu cael. Credaf yn gryf y dylai pobl fod yn glir iawn nad yw hon yn strategaeth gydlynol, a diolch byth nad dyna'r ateb i Gymru.
Yr ail beth rwy'n awyddus i wneud sylw yn ei gylch yw'r broblem gydag ail gartrefi, mater y gwn ei fod wedi'i godi. Mae hyn mor bwysig ac mae'n fater y mae'n rhaid inni wneud rhywbeth yn ei gylch ar frys. Yng Ngwynedd, mae 10 y cant o'r cartrefi yn ail gartrefi. Ac os gwelwn y ffordd y mae ail gartrefi'n mynd ar draws ardaloedd arfordirol a'r effaith a gaiff hynny ar y cymunedau ac ar y Gymraeg hefyd, mae angen inni wneud rhywbeth yn gyflym iawn. Ni wyddom beth yw hynny; ni cheir ateb unigol sy'n ein gadael mewn lle gwell. A yw'n fater o wneud mwy na dyblu'r dreth gyngor, efallai ei wneud yn ddeg gwaith cymaint, fel ein bod yn defnyddio'r arian hwnnw i'w roi i bobl ifanc a theuluoedd yn flaendal ar gyfer prynu tŷ? Gallai hwnnw fod yn un ateb. Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych arno ac nad ydym yn ei ddiystyru. Tybed a ddylem edrych ar fater rhyddhad ardrethi ac edrych ar rywbeth a fyddai'n datrys hynny mewn gwirionedd? Tybed a ddylem edrych ar y sefyllfa yn ein cymunedau? Ac mewn gwirionedd, rwyf am weld rhywbeth sy'n golygu ein bod yn gwrando ar ein cymunedau, a'n bod yn gwrando hefyd ar dwristiaeth, oherwydd mae angen inni fod yn glir fod ail gartrefi a chartrefi gwyliau yn effeithio ar ein diwydiant twristiaeth a'n diwydiant lletygarwch.
Hoffwn orffen gydag apêl ar Lywodraeth Cymru: gwnewch rywbeth ar frys ynglŷn ag ail gartrefi. Dewch â'r asiantaethau a'r diwydiannau sy'n gysylltiedig â'r mater at ei gilydd a gadewch inni gael rhywbeth sy'n wirioneddol radical a blaengar yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Cyn imi ddechrau, nid wyf yn derbyn unrhyw bregeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar ail gartrefi pan fo gan rai ohonynt gartrefi yn Ffrainc, ac rwy'n credu bod gan y Democrat Rhyddfrydol yma ddau gartref hyd yn oed, ond dyna ni; gadawaf hynny yno.
Fel y gŵyr y Gweinidog, mae tai'n agos iawn at fy nghalon, a gan fy mod yn aelod cabinet llywodraeth leol dros dai, gwn yn iawn am y problemau y mae'r sector yn eu hwynebu. Oherwydd ar hyn o bryd mae'r farchnad eiddo yn anghytbwys, gyda dyheadau'r mwyafrif helaeth o bobl ifanc i fod yn berchen ar eu cartref yng Nghymru yn mynd ar chwâl. Mae pobl, yn enwedig pobl ifanc, yn cael eu cloi allan o'r farchnad dai. Mae pobl sy'n gweithio ac ar gyflogau da yn ei chael hi'n anodd codi'r arian i dalu'r blaendaliadau enfawr sydd eu hangen i fodloni'r meini prawf ar gyfer cael morgais.
Mae'n ymddangos bod y freuddwyd o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain yn atgof pell i fy nghenhedlaeth i. Y pris cyfartalog am dŷ yng Nghymru yw chwe gwaith y cyflog blynyddol, ac mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r blaendal angenrheidiol ar gyfer prynu tai—fel y clywsom gan Aelodau eraill, hyd yn oed y rheini sydd â banc mam a dad. Nid yw benthycwyr morgeisi wedi cadw i fyny â'r newid yn y marchnadoedd swyddi, ac mae'n anos yn awr nag erioed o'r blaen i fodloni meini prawf y prif fenthycwyr morgeisi. Rydym mewn sefyllfa o brinder yn y farchnad dai, a chaiff prisiau eu gwthio i fyny fwyfwy, gyda rhai ardaloedd yng Nghymru'n gweld cynnydd o 50 y cant yn y cynnydd cyfartalog ym mhrisiau tai.
Yn fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed, rydym yn profi prinder difrifol o eiddo ar rent, a phwysau chwyddiant bron yn wythnosol ar brisiau tai, a rhyfeloedd bidio rhwng prynwyr, a diwedd yn awr ar ddatblygu oherwydd y rheoliadau ffosffad newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, mae datblygiadau cartrefi newydd yn fy etholaeth wedi dod i ben yn ddisymwth.
Mae tai bellach allan o gyrraedd cyfran fawr o fy nghenhedlaeth i ac eraill. Mae'r argyfwng tai hwn yng Nghymru yn gwbl annerbyniol. Mae gwleidyddion yn y Siambr hon ac yn ehangach yn siarad llawer am yr argyfwng tai, ond rydym yn methu mynd i'r afael â'r broblem.
Mae llawer o bobl yn y genhedlaeth hŷn yn berchnogion cartrefi sy'n elwa o'r degawdau o brisiau cynyddol yn y farchnad dai. Ond i'r rheini ohonom sydd eto i gael troed ar yr ysgol dai mae'n teimlo fel her anorchfygol. Nid yw'r tai fforddiadwy yno yn y niferoedd sydd eu hangen arnom, ac ni allwn gyflawni oni bai bod Llywodraeth Cymru yn dangos gwir uchelgais i adeiladu mwy o gartrefi a neilltuo buddsoddiad ar raddfa fawr, llacio ceisiadau cynllunio, a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen yn ein sector sgiliau i adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen arnom mewn gwirionedd.
Felly, Weinidog, beth y mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud o ddifrif i helpu fy nghenhedlaeth i ac eraill i gael troed ar yr ysgol dai, yn hytrach na pharhau i wthio pobl i dai cymdeithasol neu'r sector rhentu preifat, nad yw ar gyfer pawb? Fe weithiaf gydag unrhyw un ar draws y Senedd hon i gyflwyno'r polisïau sydd eu hangen arnom i reoli'r sefyllfa hon, oherwydd nid yw'r strategaeth bresennol yn gweithio. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Dwi eisiau canolbwyntio heddiw ar amodau tai, ac mae'n briodol, fel gwnaeth Janet ein hatgoffa ni gynnau heddiw, mae'n briodol wrth feddwl ei bod hi'n bedair blynedd ar ôl trychineb Grenfell. Mae’n glir o’m cyfarfodydd a’r negeseuon dwi wedi'u cael gan thrigolion fflatiau uchel yng Nghaerdydd fod yna ddryswch mawr ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am sicrhau bod y fflatiau yna yn ddiogel, a phwy sy'n gyfrifol am dalu'r costau i wneud y fflatiau yna yn ddiogel.
Heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, maent yn wynebu costau yswiriant enfawr, taliadau gwasanaeth a biliau i ymdrin â phroblem cladin, yn ogystal â gorfod ymdopi â'r straen feddyliol o wybod eu bod yn byw mewn adeilad anniogel ac na allant symud. Rhowch eich hun yn eu sefyllfa hwy, Weinidog; dychmygwch sut deimlad yw gorwedd yn y gwely yn y nos yn poeni am gostau ariannol parlysol, a mwy na hynny, am ddiogelwch eu teulu eu hunain. Mae'r preswylwyr yn teimlo fel cymunedau sydd wedi eu hanghofio, er bod llawer ohonynt yn gallu edrych allan drwy eu ffenestri ar ein Senedd. Maent yn teimlo eu bod wedi eu hanghofio ac maent yn aros i Lywodraethau o'r ddau liw, yn las ac yn goch, roi'r cymorth y maent ei angen iddynt.
Dywed Shelter Cymru na ddylai unrhyw breswylydd orfod talu am ddiffygion nad ydynt wedi'u creu eu hunain, ac rwy'n cytuno 100 y cant. Ni ddylai'r preswylwyr hyn dalu am ddiffygion pobl eraill. Weinidog, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r arian sydd ei angen i sicrhau diogelwch tân a diogelwch yr adeiladau uchel hyn?
Oherwydd dyw'r cyllid eleni ddim yn ddigonol o bell ffordd. Mae'r gwaith hyd yn hyn yn araf iawn, a dyw'r gwaith, dyw'r costau hyd yn hyn, ddim yn cyfrif costau llogi scaffolding, llogi hoists ac ati, heb sôn am gost y cladin ei hun. Sut y bydd y Gweinidog yn gallu ein sicrhau ni a sicrhau trigolion y fflatiau fod y gwaith yn mynd i gael ei gwblhau cyn gynted â phosib? Mae trychineb Grenfell wedi dod â lot o bethau i'r fei, nid yn unig diogelwch y ffordd rŷm ni'n dylunio, adeiladu a rheoli adeiladau preswyl, ond hefyd y ffordd rŷm ni'n gwrando ar ac, yn bwysicach fyth, yn parchu'r bobl sy'n galw'r adeiladau yna yn gartref. Mae'n rhaid inni werthfawrogi'r pwysau aruthrol mae'r bobl yma oddi tano. Mae ganddynt lawer o gwestiynau y mae'n rhaid i'r Gweinidog eu hateb cyn gynted â phosibl, a dyma ychydig ohonyn nhw.
Yn gyntaf, nid oes modd gwerthu'r eiddo, Weinidog, ac mae eu gwerth bron yn sero gan na allant ennill ardystiad EWS1. Yna ni all darpar brynwyr gael morgais, felly ni allant werthu. Ac eto, mae eu treth gyngor yn parhau'n uchel iawn, rhai mor uchel â grŵp G. Gan fod y dreth gyngor yn seiliedig ar werth yr eiddo, a chan mai cynghorau sy'n gyfrifol am gymeradwyo'r adeiladau hyn a rhoi rheoliadau adeiladu i'r adeiladau hyn, a chaniatáu i adeiladau diffygiol gael achrediad wedyn, a ddylai cynghorau ostwng neu hyd yn oed gael gwared ar y dreth gyngor ar gyfer yr eiddo yr effeithir arnynt?
Yn ail, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r gronfa unioni ar gyfer adeiladau y mae'r sgandal cladin yn effeithio arnynt? Deallwn fod y gyfran gyntaf gan Lywodraeth San Steffan wedi'i defnyddio i fynd i'r afael â COVID, ond mae wedi bod yn bedair blynedd ac nid yw'r gronfa wedi'i sefydlu eto. Prynodd y perchnogion eu fflatiau gyda phob ewyllys da. A all Llywodraeth Cymru warantu y bydd y gronfa, pan gaiff ei sefydlu, yn cynnwys adeiladau sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus ac adeiladau sy'n eiddo i unigolion preifat?
Yn drydydd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd ar drywydd y datblygwyr y gwnaeth eu gwaith eilradd a'u hagwedd 'dim mwy na'r safon sy'n ofynnol yn gyfreithiol' ganiatáu i'r sgandal hon ddigwydd? A allant warantu y byddant yn dilyn dull Awstralia, a roddodd arian i'r lesddeiliaid yn gyntaf cyn mynd ar drywydd y datblygwr wedyn?
Yn bedwerydd, a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried estyn y dyddiad cau ar gyfer ad-daliadau treth trafodiadau tir? Byddai hon yn ffynhonnell enfawr i leddfu straen y preswylwyr. Ac yn olaf, a wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gyda Phlaid Cymru i geisio'r pwerau i gyflwyno treth ar elw datblygiadau mawr? Mae pobl mewn limbo. Cânt eu parlysu gan ofn a chânt eu llyffetheirio gan bwysau ariannol. Mae pobl yn methu ailnegodi morgeisi, mae pobl yn methu gwerthu eu fflatiau, mae gan bobl deuluoedd i'w magu, ac mae'r cof am drasiedïau fel tŵr Grenfell yn hunllef iddynt ddydd a nos. Maent angen gweld gweithredu ar frys, maent angen atebion gan Lywodraeth Cymru. Diolch yn fawr.
Nodaf y gwelliannau a gynigiwyd gan y Torïaid ac rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr. Mae llawer o'r cyfraniadau yma heddiw wedi bod yn ddiddorol iawn. Nid oes ond raid inni edrych dros y ffin ar Loegr ac ar weithredoedd Llywodraeth y DU i weld y gwrthgyferbyniad llwyr rhwng agweddau at bolisi tai. Datgelwyd yr wythnos hon fod y teicŵn eiddo a'r biliwnydd John Bloor wedi rhoi £150,000 i'r blaid Dorïaidd—yn uniongyrchol i'r blaid Geidwadol—gwta 48 awr ar ôl i un o Weinidogion y Llywodraeth gymeradwyo cynllun tai dadleuol ganddo a oedd yn mynd yn erbyn y cyngor tref a etholwyd yn ddemocrataidd ger Ledbury a oedd wedi'i wrthod.
Yng Nghymru, rydym yn ceisio cartrefu'r digartref, cefnogi perchnogion tai a helpu rhentwyr, a pheidio â rhyngu bodd datblygwyr sy'n gorelwa. Yng Nghymru, rydym yn dewis gwella cartrefi sy'n bodoli'n barod, brwydro i ymladd tlodi tanwydd a chreu swyddi mawr eu hangen, cyfleoedd hyfforddi newydd a chadwyni cyflenwi, a hynny ar sylfaen polisi gwyrdd carbon niwtral. Am y tro cyntaf ers degawdau, mae awdurdodau lleol yn adeiladu tai cyngor eto, a chyflawnwyd hyn drwy ddod â'r hawl i brynu i ben yng Nghymru, fel y dehonglodd Jane Dodds yn gywir, a hynny er mwyn diogelu tai rhent cymdeithasol i'r rhai sydd eu hangen, a chodi'r cap ar fenthyca gan awdurdodau lleol.
Yn y pumed Senedd, rhagorodd Llywodraeth Lafur Cymru ar ei tharged o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy o ansawdd uchel sy'n effeithlon o ran eu defnydd o ynni. Mae'r cynnydd hwn yn nifer y tai fforddiadwy—ie, tai y gallwn eu fforddio—yn ganlyniad uniongyrchol i'r buddsoddiad mwyaf erioed o £2 biliwn mewn tai dros y pum mlynedd diwethaf. Yn y chweched Senedd hon, bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu'n gymdeithasol. Ar ôl pandemig, ni fu erioed cymaint o'u hangen.
Ddirprwy Lywydd, rydym am weld pobl yn berchen ar eu cartrefi eu hunain os ydynt yn dymuno gwneud hynny, a dyna pam y mae prynu tŷ wedi'i wneud yn llawer mwy fforddiadwy drwy'r cynllun Cymorth i Brynu, sydd bellach yn rhagori ar ei darged o 6,000. Fodd bynnag, tai cymdeithasol i'w rhentu, fel y dywedodd Mike Hedges—rhent fforddiadwy—sy'n darparu asgwrn cefn i bob cymdeithas fwy cyfartal, ac yn awr, yng Nghymru, diolch i newid strategol, mae awdurdodau lleol bellach yn gallu adeiladu eto, a byddwn yn ehangu hyn. Mae Mike Hedges yn iawn eto ynghylch tai cydweithredol: mae angen inni ehangu'r maes hwn. Mae'r pandemig wedi datgelu ymhellach pa mor benderfynol yw Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd, gan na ddylid gorfodi neb byth i fyw ar strydoedd peryglus ac afiach ym mhob tywydd. Ac ers y cyfyngiadau symud, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi llety i 7,000 o bobl ac wedi sicrhau bod £50 miliwn ar gael i ddechrau trawsnewid gwasanaethau digartrefedd, gan gynnwys galluogi cymorth cyson gwirioneddol bwysig, i gefnogi'r symud ymlaen i gartrefi parhaol. Yn syml, mae gan Lywodraeth Cymru hanes balch ym maes tai ac mae'n un rwy'n ei gefnogi'n llawn ac yn llwyr. Diolch.
Roedd y cyfraniad cyntaf a wneuthum yn y Siambr hon yn 2016 yn ymwneud â thai, ac roedd yn ymwneud yn benodol â chynllun datblygu lleol Caerffili. Fel cynghorydd yng Nghaerffili, roeddwn i'n un o leiafrif o gynghorwyr a bleidleisiodd yn erbyn cynllun datblygu lleol arfaethedig Caerffili yn 2016. Ar y pryd, awgrymodd fy nghyd-Aelod Pred wrthyf fy mod yn gwneud hynny am resymau gwleidyddol. Credwch fi, roeddwn yn ei wneud oherwydd fy mod o'r farn ei fod yn gynllun gwael iawn ac angen ei roi heibio. Credaf imi brofi fy hun, Pred, oherwydd pan ddeuthum i'r Siambr hon, un o'r pethau cyntaf a godais oedd yr angen i roi'r gorau i'r CDLl hwnnw, ac yn sicr ddigon cafodd CDLl Caerffili ei ddileu o fewn tri mis i fy ethol i'r lle hwn.
Y rheswm pam nad oedd y CDLl hwnnw'n gweithio oedd oherwydd ei fod yn gweithio tuag at y cyflenwad tir ar gyfer tai, nid fforddiadwyedd tai, a daeth pwysau gan Redrow a Persimmon i adeiladu yn ne Caerffili er mwyn tynnu pwysau oddi ar ardaloedd lle mae galw mawr yng Nghaerdydd—er mwyn i dde Caerffili ddod yn dref gymudo. Dyna pam y gwrthwynebasom y CDLl hwnnw. Yn anffodus, nid oedd yn diogelu ardal Gwern y Domen, a gafodd ei diogelu o ganlyniad i gael gwared ar y CDLl, ond roedd yna ardal yn y CDLl a gâi ei diogelu, sef Hendredenny, ac rydym yn gwybod onid ydym, Pred, fod adeiladu'n digwydd yn Hendredenny ar hyn o bryd, gan Redrow, a dyma ran o'r broblem.
Yr ateb a awgrymais yn 2016, Weinidog, oedd yr angen, fel y nodwyd yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015, am gynllun datblygu strategol—cynllun datblygu strategol ar gyfer de-ddwyrain Cymru. Nid ydym wedi gweld un eto. Prifddinas-ranbarth Caerdydd sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf ar gynllun datblygu strategol, ond os ydym am dynnu pwysau oddi ar ardaloedd lleol ac edrych ar ardal ehangach, rhaid inni gael cynlluniau datblygu strategol ar gyfer de-ddwyrain Cymru. Cyflwynwyd y Ddeddf yn 2015 i ganiatáu hynny. Rhaid eu gweithredu yn awr.
Y mater arall rwyf am ei godi—. Rwy'n mynd i fod yn fyr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae'r mater arall roeddwn am ei godi yn gysylltiedig â hynny. Lle mae Redrow yn adeiladu tai, maent wedyn yn trosglwyddo ardaloedd gwyrdd i berchnogaeth, nid yr awdurdod lleol, ond ceidwaid tir preifat a elwir yn gwmnïau rheoli ystadau, sy'n codi tâl ar breswylwyr rhydd-ddaliadol ar ben eu treth gyngor am gynnal a chadw'r mannau hynny. Nid oes terfyn ar ba mor uchel y gall y ffioedd hynny fod ac nid oes terfyn ar faint y gallant ei godi. Nid oes rhaid iddynt fod yn codi tâl am yr hyn a wnânt ar y tir hyd yn oed; gallant ddefnyddio gorbenion o fannau eraill yn eu cwmni. Pe bai pobl yn y Siambr hon am ddod at ei gilydd a chreu cwmni rheoli ystadau, gallent wneud hynny yn awr a dechrau codi tâl ar breswylwyr. Dyna'r broblem gyda 'gorllewin gwyllt' y diwydiant tai sydd angen ei reoli. Gwn fod y Gweinidog o ddifrif ynglŷn â hyn, oherwydd gwnaeth yn siŵr ei fod ym maniffesto'r Blaid Lafur. Mae hi eisoes wedi agor ymgynghoriad ac wedi galw am dystiolaeth. Mae'r dystiolaeth ger ei bron, felly edrychwn ymlaen at gynnydd ar hyn.
Felly, dyna ddau beth yr hoffwn weld cynnydd arnynt: cynlluniau datblygu strategol a thaliadau rheoli ystadau. Weinidog, hoffem weld gweithredu cyn gynted â phosibl.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, gadewch imi ddiolch yn ddiffuant i Blaid Cymru, a Siân Gwenllian, y gwnaed y cynnig yn ei henw, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon mor gynnar yn nhymor y Senedd. Rwy'n siŵr eich bod wedi sylwi nad ydym wedi diwygio'r cynnig a gyflwynwyd gennych. Ni wnaethom hynny oherwydd ein bod yn cytuno bod yna argyfwng tai. Bydd yr Aelodau o'r Senedd wedi gweld cyhoeddi ein rhaglen lywodraethu yn gynharach yr wythnos hon. Mae'n glir iawn ynglŷn â'n hymrwymiad i fod yn uchelgeisiol ac yn radical, i weithredu ac i fynd i'r afael â heriau yn uniongyrchol, ac i wella bywydau pawb ledled Cymru.
Mae'r pandemig wedi ffocysu meddyliau pawb ohonom ar yr angen i bawb gael mynediad at gartref diogel, fforddiadwy, ac wrth gwrs, mae wedi tynnu sylw at yr heriau enfawr y mae pobl heb gartref parhaol yn eu hwynebu. Efallai yn awr yn fwy nag erioed ein bod yn gwerthfawrogi'r hyn y mae'n ei olygu i gael to diogel dros ein pennau, rhywle i'w alw'n gartref, ac adlewyrchir hyn yn fawr yn ein rhaglen lywodraethu.
Ddirprwy Lywydd, yn sicr ni fydd gennyf amser i roi sylw priodol nac i ymdrin yn fanwl â'r holl faterion a godwyd gan yr Aelodau ar draws y Senedd heddiw. Byddai angen fy amser ar gyfer pob un o'r materion a godwyd yma i allu gwneud cyfiawnder ag ef. Felly, byddwn yn gobeithio'n fawr y gallwn gael nifer o ddadleuon ar draws y materion a godwyd heddiw ac y byddwn yn gallu cydweithio ar draws y Senedd i ddatrys rhai o'r problemau hyn, ac rwy'n credu bod rhywfaint o gonsensws ar hynny.
Gan adeiladu ar y sylfeini cryf a osodwyd gennym yn ystod tymor diwethaf y llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i adeiladu cartrefi ar gyfer y dyfodol—cartrefi wedi'u hadeiladu'n dda a diogel o ran yr hinsawdd y mae teuluoedd am eu cael ac y gallant eu fforddio. Gwnaethom ragori ar ein targed ar gyfer tai fforddiadwy yn nhymor diwethaf y Senedd; bydd y targed ar gyfer y tymor hwn yn fwy heriol eto, gan ganolbwyntio fel y mae ar 20,000 o gartrefi i'w rhentu yn y sector cymdeithasol. Felly, yn llawer mwy penodol na'r diffiniad o dai fforddiadwy y bydd yr Aelodau wedi'i weld ac wedi ei anghymeradwyo yn gynt. Soniodd nifer o bobl amdano yma heddiw.
Nodir manylion ein targed tai yn y datganiad gweinidogol a gyhoeddais yn gynharach yn yr wythnos. Mae'r datganiad yn ei gwneud yn glir, er mwyn cefnogi cymunedau gwirioneddol gynaliadwy, y byddwn yn sicrhau bod datblygiadau'n darparu tai gyda deiliadaeth wirioneddol gymysg ar draws y sbectrwm cyfan o ddeiliadaethau, o dai perchen-feddianwyr a rhanberchnogaeth i gartrefi i'w rhentu y gall pobl eu fforddio. Mae llawer o fanteision i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol a thai gwyrddach. Gall greu swyddi lleol, cyfrannu at ddatgarboneiddio, adeiladu'r economi sylfaenol, datblygu sgiliau, mynd i'r afael â thlodi tanwydd, a darparu cartrefi o ansawdd gwell wrth gwrs, gan helpu i wneud digartrefedd yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol.
Mae'n gwbl hanfodol fod ein ffocws ar dai cymdeithasol yn parhau, felly er inni ragori ar ein targed ar gyfer tai fforddiadwy yn nhymor diwethaf y Llywodraeth, mae ein hymrwymiad ar gyfer y tymor hwn yn codi'r bar mewn dwy ffordd arwyddocaol iawn. Yn gyntaf, byddant i gyd ar gyfer eu rhentu yn y sector cymdeithasol, ac yn ail, byddant i gyd yn gartrefi carbon isel, yn garedig i'r hinsawdd, yn gynnes ac yn fforddiadwy. Gadewch imi fod yn glir nad yw'r targed hwn yn ymwneud o gwbl â thai'r farchnad. Mae Cymorth i Brynu—Cymru yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r pecyn cymorth yma yng Nghymru i sicrhau y gall pobl a theuluoedd gael cartref sy'n iawn iddynt hwy, ond nid yw'n rhan o'r targed o 20,000 a osodwyd gennym i ni ein hunain.
Mae'r targed yn un heriol. Mae ein hamcangyfrifon o anghenion tai yn dangos, o dan amcangyfrifon canolog, fod angen tua 7,400 o gartrefi ychwanegol y flwyddyn am y pum mlynedd nesaf, ac mae hyn yn cynnwys angen am 3,500 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol bob blwyddyn. Mae'r targed yn mynd y tu hwnt i hynny ac rwy'n credu ei bod yn hollol briodol ei fod yn gwneud hynny. I gydnabod ein hymrwymiad parhaus i dai cymdeithasol, rydym eisoes wedi dyrannu £250 miliwn, sy'n ffigur uwch nag erioed, i'r grant tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol hon. Mae hyn yn fwy na dwbl y gyllideb a welwyd yn 2020-21. Ac wrth gwrs, mae cyflenwad o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy yn hanfodol i ddatrys digartrefedd. Fodd bynnag, mae arnom angen y systemau, y polisïau a'r arferion hefyd sy'n cynorthwyo pobl i ffynnu yn y cartrefi ar ôl iddynt eu cael.
Rwyf mor falch o'r sector tai cyfan a'r ffordd y daethant at ei gilydd yn ystod y pandemig. Roedd yn rhywbeth a wnaeth Cymru'n dda iawn ac rwy'n teimlo'n freintiedig ac yn falch imi fod yn rhan ohono. Byddwn yn gallu adeiladu ar y gwaith gwych a wnaethom yn ystod y pandemig i drawsnewid yn sylfaenol ein dull o ymdrin â digartrefedd, gan ei wneud yn wirioneddol ataliol, a lle na ellir ei atal, sicrhau bod dulliau ailgartrefu cyflym yn golygu ei fod yn ddigwyddiad prin, byr ac yn brofiad na chaiff ei ailadrodd. Yn ystod y pandemig, rydym wedi cynorthwyo ymhell dros 10,000 o bobl i gael llety dros dro. Profasom y gallwn ymateb i'r her o ailgartrefu pawb yn gyflym yn eu munud o angen, heb ddogni na blaenoriaethu. Mae'r buddsoddiadau a wnaethom hyd yma yn fwy nag ateb tymor byr yn unig i argyfwng uniongyrchol; mae'n ddechrau taith drawsnewidol tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru am byth. Bellach mae gennym gyfle unigryw i drawsnewid gwasanaethau digartrefedd a mabwysiadu dull gwirioneddol gynhwysol i sicrhau na chaiff neb ei adael heb lety neu gymorth. Rhaid inni symud o ddibynnu ar lety dros dro i system sy'n canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu cyflym. Mae argymhellion y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn cefnogi hyn ac yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Cymru, lle mae atal ac ailgartrefu'n greiddiol i'n polisïau a'n hymarfer ar ddigartrefedd.
Wrth gwrs, gall atal fod yn gymhleth. Mae atal yn greiddiol i'n grant cynnal tai. Fe'i cynlluniwyd i gefnogi pobl i fyw'n annibynnol a'u helpu i gynnal tenantiaethau ac atal digartrefedd. Dyna pam y gwneuthum sicrhau cynnydd o £40 miliwn ar gyfer y grant eleni—cynnydd o tua 32 y cant. Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd cymorth tai fel rhan o'r agenda ataliol honno. Ond rydym yn cydnabod y bydd trawsnewid digartrefedd yn cymryd nifer o flynyddoedd. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol eleni; rydym wedi rhyw fath o brofi'r cysyniad, os mynnwch, ac rydym yn sicr ar y trywydd bellach i wneud i hyn ddigwydd yng Nghymru.
Ochr yn ochr â hynny, mae'r Llywodraeth wedi dweud yn glir y bydd yr amgylchedd hefyd yn ganolog yn ein penderfyniadau. Wrth greu'r weinyddiaeth hon ar gyfer newid hinsawdd, rydym wedi dwyn ynghyd yr amgylchedd, ynni, tai ac adfywio, cynllunio a thrafnidiaeth, gan roi cyfle gwirioneddol i ni a'r holl ddulliau hanfodol i ddatblygu'r cymunedau cynaliadwy y mae pobl Cymru eu heisiau a'u hangen. Nid sedd wrth fwrdd y Cabinet yn unig sydd i'r amgylchedd; bydd yn ystyriaeth ym mhob dim a wnawn. Rydym yn awr yn datblygu safonau tai newydd yn y rhaglen grant tai cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar ansawdd, gofod, ynni a datgarboneiddio.
Bydd yr Aelodau a oedd yma o'r blaen yn gwybod ein bod eisoes wedi lansio'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio i ddechrau cyflawni ein huchelgeisiau datgarboneiddio ar gyfer y stoc dai bresennol yng Nghymru, gan gyflwyno cartrefi, swyddi a sgiliau gwell y dyfodol, yn ogystal â bwrw ymlaen i adeiladu o'r newydd. Rydym yn croesawu arloesedd a dulliau newydd o adeiladu tai ac ôl-osod tai drwy ein rhaglen tai arloesol a chefnogi dulliau adeiladu modern.
Nid yw ein hymrwymiad i sicrhau bod gan deuluoedd ac unigolion fynediad at dai sy'n eu galluogi i ffynnu wedi gwyro, ac nid yw ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r rhwystrau i bawb rhag cael lle gweddus i'w alw'n gartref yn dod i ben gyda'r rhai rwyf wedi'u hamlinellu y prynhawn yma. Rydym hefyd yn darparu atebion sy'n cael eu harwain gan dai i anghenion iechyd a gofal pobl, wedi'u llywio gan ein cronfa gofal integredig. Byddwn yn parhau i ymladd y rhwystrau a'r rhagfarn y mae tenantiaid yn eu hwynebu rhag cael mynediad a rhag cael aros yn eu cartref rhent preifat.
Roeddwn yn cytuno ag un peth a ddywedodd Janet: mae'n gywir i ddweud bod y mwyafrif llethol o landlordiaid yng Nghymru yn landlordiaid da a'n bod yn gweithio'n dda iawn gyda hwy. Mae Rhentu Doeth Cymru wedi bod yn arf ardderchog yn ystod y pandemig, oherwydd yn wahanol i Lywodraethau eraill y DU, rydym yn gwybod ble mae ein landlordiaid, rydym mewn cysylltiad â hwy ac rydym yn gallu cysylltu â hwy'n uniongyrchol.
Ond rydym hefyd am wneud gwelliannau sylweddol i'r diogelwch a roddwn i'n tenantiaid a'u gallu i dalu. Fel y gwyddom i gyd, pan fydd gennych flwyddyn o ôl-ddyled rhent, nid ydych yn mynd i allu ei had-dalu os ydych ar incwm isel, felly byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau cymorth i'r tenantiaid hynny er mwyn eu galluogi i aros yn eu cartrefi—gan alluogi'r landlordiaid hefyd wrth gwrs i elwa o'r rhent y gall y tenantiaid ei dalu wedyn—ac yn bwysig iawn, er mwyn atal y bobl hynny rhag dod yn ddigartref hefyd, ar ben yr argyfwng llety dros dro sydd gennym eisoes ac sy'n gwaethygu.
Byddwn yn rhoi camau sylweddol ar waith i wella diogelwch adeiladau fel bod pobl yn ddiogel yn eu cartrefi, a chawsom i gyd ein hatgoffa o bwysigrwydd hynny yr wythnos hon a hithau'n bedair blynedd ers trychineb Tŵr Grenfell, mater y gwnaethom ddechrau trafodaeth arno yn gynharach heddiw. Nid oes gennyf amser yn awr i fanylu ar hynny i gyd, ond rwy'n eich sicrhau ein bod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â nifer o'r preswylwyr ac rydym yn gweithio'n galed iawn i ddatgloi rhai o'r cymhlethdodau hynny.
Ochr yn ochr â chreu lleoedd da, gan adfywio canol ein trefi i fod yn fwy hyblyg ac ystyriaethau ehangach fel teithio llesol, byddwn yn darparu safleoedd enghreifftiol fel rhai i arwain y ffordd ar gyfer y dyfodol.
Yn olaf, ond nid yn lleiaf wrth gwrs, rydym yn cydnabod y problemau difrifol iawn sy'n ymwneud â niferoedd uchel o ail gartrefi yn rhai o'n cymunedau ledled Cymru, ac yn enwedig cynaliadwyedd hirdymor ein cadarnleoedd Cymraeg eu hiaith. Mae ymdrin â'r materion hynny yn flaenoriaeth lwyr i ni, a bydd ein cynllun tai cymunedol Cymru yn ymdrechu i fynd i'r afael â'r pwysau a wynebir gan y cymunedau hynny. Mae grŵp gorchwyl gweinidogol traws-bortffolio eisoes wedi'i ffurfio ac yn gweithio.
Mae'n amlwg fodd bynnag nad oes ateb unigol a all ddatrys y materion cymhleth niferus dan sylw, fel y gwelwyd yn glir o nifer y cyfraniadau gyda nifer fawr o syniadau a roddwyd ar y llawr heddiw, syniadau rydym yn hapus i'w harchwilio. Ond mae ein nod yn glir ac yn un a rennir, rwy'n credu: rydym yn sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i allu fforddio byw yn y cymunedau y maent wedi tyfu i fyny ynddynt, yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd a bywiogrwydd hirdymor y cymunedau hynny.
Mae gennym ewyllys ac awydd i ymgysylltu'n eang er mwyn datblygu ein hymrwymiadau maniffesto. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn y rhaglen lywodraethu—
A wnaiff y Gweinidog ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
—un frawddeg arall—byddwn bob amser yn rhoi cydweithio o flaen cystadleuaeth. Gofynnaf i'r Aelodau wrthod y gwelliant a gyflwynwyd gan Darren Millar, ond rwy'n fodlon gweithio gydag Aelodau ar draws y Senedd i wireddu'r dibenion hynny. Diolch.
Galwaf yn awr ar yr Aelodau sydd wedi dweud eu bod yn dymuno siarad. Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn. Roeddwn i eisiau codi ychydig o bethau. Un ohonynt yw fy mod yn cytuno'n llwyr â'r Gweinidog fod angen i bawb gael lle gweddus y gallant ei alw'n gartref, ac mae hynny gymaint yn fwy braf na'r iaith a ddefnyddir gan James Evans, er enghraifft, sy'n sôn am yr ysgol dai. Cefais fy syfrdanu'n fwy byth o'i weld yn sesiwn friffio Shelter Cymru, sy'n sôn am yr ysgol eiddo.
Un o'r problemau mwyaf sydd gennym yn ein heconomi yw'r cymhellion negyddol i fuddsoddi cyfalaf dros ben mewn brics a morter yn hytrach na gweithgaredd cynhyrchiol. Rywsut, mae angen inni newid y ffordd o feddwl am gartrefi. Un ffordd yw edrych ar ddiddymu rhyddhad treth ar enillion cyfalaf ar gartrefi cyntaf, ond gallai hynny arwain, yn amlwg, at gymhellion negyddol eraill. Ond yn sicr mae angen inni edrych ar gartrefi, yn hytrach na thai fel buddsoddiad.
Galwaf ar Siân Gwenllian i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac dwi'n falch iawn o grynhoi'r drafodaeth bwysig, gynhwysfawr rydyn ni wedi'i gael ar faes tai y prynhawn yma. Rydyn ni wedi trafod prinder tai, ail gartrefi, diogelwch, cynllunio, ffioedd rheoli—mae'r rheini i gyd wedi cael sylw gennym ni. Beth sy'n hollol glir ydy'r angen am ymyrraeth, a hynny ar frys.
Mae'r prinder tai fforddiadwy i'w rhentu neu i'w prynu yn tanseilio cymunedau ledled Cymru, ac yn chwalu gobeithion pobl ifanc. Mae o'n broblem genedlaethol ym Mlaenau Gwent fel ag ym Meirion Dwyfor. Mae anghyfartaledd incwm yn golygu na all unigolion a theuluoedd gystadlu yn y farchnad. Yn siroedd y gorllewin, o benrhyn Gŵyr i Amlwch, mae diffyg cyfleon gwaith â chyflog teg a rhestrau aros hirfaith am dai, ynghyd â gormodedd o ail gartrefi yn creu sefyllfa argyfyngus mewn ardaloedd eang o gefn gwlad. Mae newidiadau pellgyrhaeddol yn digwydd yn arswydus o gyflym o'n cwmpas ni yn ein cymunedau.
Twf economaidd cyfartal ar draws Cymru ydy un rhan o'r ateb, ie; adeiladu tai addas yn y llefydd iawn—mae angen i hynny hefyd ddigwydd. Ond rydyn ni'n galw heddiw ar y Llywodraeth i weithredu ar frys yn y meysydd rheini lle mae modd symud arnyn nhw yn gyflym, a hynny er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n cymunedau ni. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi llywodraeth leol er mwyn iddyn nhw fedru gweithredu i fynd i'r afael efo'r broblem. Ac un enghraifft: mi fedrai Llywodraeth Cymru ariannu cynlluniau gweithredu tai cynhwysfawr a blaengar, fel sydd wedi cael ei ddatblygu gan Gyngor Gwynedd. A gaf fi ddweud wrth y Ceidwadwyr, ac mae Jane Dodds yn hollol iawn: nid adfer right to buy ydy'r ateb? Mae'r polisi yna wedi gwaethygu'r argyfwng tai ers blynyddoedd wrth i'r stoc tai cyhoeddus grebachu, a phobl fregus yn cael eu gadael ar ôl.
Er mwyn delio efo'r sefyllfa ail gartrefi—ac mae rhaid gwneud hyn ar fyrder, ac rwy'n falch o glywed y Gweinidog yn cydnabod hynny—mae yna nifer o gamau y gall y Llywodraeth eu cymryd. Dwi ddim yn mynd i fanylu arnyn nhw rŵan; rydyn ni fel plaid wedi manylu ar sawl maes lle medrid diwygio deddfwriaeth yn gyflym iawn er mwyn creu newid. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod o'n awyddus i gydweithio efo pleidiau eraill, ac mae o hefyd wedi dweud nad oes yna ddim un datrysiad syml i’r argyfwng ail gartrefi. Ac, wrth gwrs, dwi'n cytuno—rydyn ni ddim yn honni bod yna ateb syml i'r broblem, ond mae yna faterion cwbl ymarferol y gellid cychwyn eu rhoi ar waith tra rydym yn cael y drafodaeth ehangach yna o gwmpas beth sydd ei angen yn y tymor hir i greu cymunedau cynaliadwy.
Rydyn ni wedi gosod allan ein syniadau ni sawl gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydw i wedi sefyll yn y man yma ni wn i faint o weithiau yn sôn am faterion trethi, materion cynllunio, materion cyllidol y gellid mynd ati ar unwaith i weithredu arnyn nhw. So, dyna beth rydyn ni ei eisiau rŵan: gweithredu er mwyn sicrhau bod gan bawb yr hawl i fyw yn eu cymuned, bod gan bawb gartref, rhywle i fyw, lloches. Felly, gweithredwch, da chi. Gwnewch y pethau rydych chi'n medru o fewn eich gallu chi cyn ei bod hi'n mynd rhy hwyr. Ie, trafodwn yn y man yma eto, ond rydyn ni eisiau gweld arwyddion rŵan o weithredu. Mae'r trafod angen parhau; mae'r gweithredu angen digwydd. Mae ein cymunedau ni angen gweld hynny. Mae ein pobl ifanc ni angen gweld bod Llywodraeth eu gwlad nhw yn cymryd yr argyfwng yma o ddifrif ac yn barod i symud ac i roi materion ar waith sydd yn mynd i helpu dechrau datrys problem fawr yn ein hoes fodern ni yma yng Nghymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?
A glywais i un? Naddo.
Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ocê. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i gyfnod pleidleisio.