Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 22 Mehefin 2021.
Prif Weinidog, mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y coronafeirws yng Nghymru yn datgelu'r gwrthgyferbyniad llwyr rhwng nifer yr achosion mewn gwahanol rannau o'r wlad. Mae'r ffigurau'n amrywio o 91.3 o achosion ym mhob 100,000 o bobl yng Nghonwy, 77.3 yn sir Ddinbych a 73.7 yn sir y Fflint i ddim ond 6.6 ym Merthyr Tudful a 7.2 ym Mlaenau Gwent. O ystyried y gwahaniaethau rhanbarthol hyn, a wnewch chi, Prif Weinidog, egluro ymagwedd eich Llywodraeth tuag at gyfyngiadau symud lleol, ac ai eich polisi o hyd yw codi cyfyngiadau ar sail Cymru gyfan?