Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 22 Mehefin 2021.
Ie, Llywydd. Polisi Llywodraeth Cymru o hyd yw mai atebion i Gymru sy'n berthnasol i bob rhan o Gymru yw'r ffordd orau o ymdrin â chyflwr presennol y feirws. Mae'r Aelod yn gywir, fodd bynnag, i dynnu sylw at y gwahaniaethau rhanbarthol hynny. Mae'n amlwg iawn erbyn hyn fod y gogledd wedi bod yn arbennig o agored i ledaeniad mawr iawn y feirws yng ngogledd-orllewin Lloegr. Serch hynny, er ein bod yn parhau i ddysgu mwy am y ffordd y mae'r amrywiolyn delta yn debygol o ledaenu a'i effaith ar dderbyniadau i'r ysbyty, nid ydym yn gweld yr angen i gael lefel wahanol o gyfyngiadau ar hyn o bryd mewn unrhyw ran o Gymru.