Blaenoriaethau Economaidd ar gyfer Gogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 22 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:05, 22 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Nawr yw'r amser i'r Llywodraeth a etholwyd gan bobl Cymru gyflawni'r maniffesto y cawsom ein hethol arno. Roedd y cynnig i archwilio treth dwristiaeth yno yn llwyr ac yn bendant yn ein maniffesto ac fe'i trafodwyd yn ystod ymgyrch yr etholiad. Fe wnaeth pobl Cymru eu penderfyniad; byddan nhw yn cael y blaid y gwnaethon nhw bleidleisio drosti a'r cynigion y gwnaethom ni roi ger eu bron.