1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Mehefin 2021.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru? OQ56666
Mae ein blaenoriaethau economaidd ar gyfer pob rhan o Gymru, gan gynnwys y rhai hynny, wrth gwrs, ar gyfer y gogledd, fel y'u nodir yn ein rhaglen lywodraethu sydd newydd ei chyhoeddi.
Diolch am eich ymateb, Prif Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod mai un o'r cyflogwyr mwyaf yn y gogledd yw'r sector twristiaeth, sy'n cefnogi tua 46,000 o swyddi ac mewn amseroedd arferol yn cynhyrchu dros £3.5 biliwn bob blwyddyn i'r economi leol. Fodd bynnag, fel y gwnaethoch ei grybwyll yn gynharach, rydym ni'n ymwybodol o'ch cynlluniau i archwilio treth dwristiaeth ar ymwelwyr sy'n dod i Gymru ar wyliau. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi dweud y byddai hyn yn gwneud y diwydiant yn llai cystadleuol ac yn gwneud i Gymru ymddangos yn ddrutach. A fyddech chi'n cytuno â mi, yn hytrach na threulio amser, egni ac adnoddau ar geisio cyflwyno treth sydd wedi ei gwrthod gan yr arbenigwyr yn y maes, mai nawr yw'r amser i gefnogi'r sector i adfer o'r pandemig?
Nawr yw'r amser i'r Llywodraeth a etholwyd gan bobl Cymru gyflawni'r maniffesto y cawsom ein hethol arno. Roedd y cynnig i archwilio treth dwristiaeth yno yn llwyr ac yn bendant yn ein maniffesto ac fe'i trafodwyd yn ystod ymgyrch yr etholiad. Fe wnaeth pobl Cymru eu penderfyniad; byddan nhw yn cael y blaid y gwnaethon nhw bleidleisio drosti a'r cynigion y gwnaethom ni roi ger eu bron.
Prif Weinidog, mae gwaith caled Llywodraethau Llafur olynol wedi arwain at y gyfradd gyflogaeth yn y gogledd yn cyrraedd y lefel uchaf erioed, ac erbyn hyn mae gennym y nifer uchaf erioed o fusnesau yn bodoli yn y gogledd. Ond wrth gwrs, mae cydweithio trawsffiniol wedi bod yn allweddol wrth ysgogi llwyddiant economi'r gogledd, ac mae cysylltiadau arbennig o gryf mewn sectorau allweddol fel ynni gwyrdd a gweithgynhyrchu uwch, ac, yn wir, gwyddorau bywyd. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi fod cydweithio â'n cymheiriaid trawsffiniol yn ein gwneud yn gryfach, a'i fod yn gwbl angenrheidiol er mwyn osgoi cystadleuaeth a gwella cludiant trawsffiniol hefyd?
Diolchaf i Ken Skates am hynna, ac am dynnu sylw at gryfderau'r economi yn y gogledd, gyda'i lefelau cyflogaeth uchaf erioed, ac fel y bydd yr Aelodau wedi ei weld, gyda'r ffigurau mewnfuddsoddi uniongyrchol a gyhoeddwyd heddiw yn dangos cryfder parhaus yr economi yn y rhan honno o Gymru. Roeddwn i'n falch iawn yn ddiweddar o gyfarfod ag uwch aelodau bwrdd Airbus, a ddaeth i ddweud wrthyf am eu cynlluniau i barhau i fuddsoddi yn y gogledd wrth i'r sector hedfan hwnnw adfer, a pha mor benderfynol yr ydyn nhw y bydd y gweithlu medrus ac ymroddedig iawn sydd ganddyn nhw yn y rhan honno o Gymru yn parhau i fod yn rhan o ddyfodol y cwmni byd-eang hwnnw.
Roedd yr Aelod ei hun, Llywydd, pan oedd yn Weinidog yr economi, yn hyrwyddwr mawr dros weithio gydag eraill i sicrhau bod yr economi yn y gogledd-ddwyrain yn arbennig yn rhan o'r ecoleg a'r economi ehangach honno. Mae Cynghrair Mersi Dyfrdwy, y gwn ei fod wedi ei hyrwyddo—mae ein cyd-Aelod Vaughan Gething wedi bod i gyfarfod heddiw ar gyfer lansio cyfres o syniadau ar gyfer ysgogiad economaidd ac ariannol ar draws ardal Mersi Dyfrdwy—y Gynghrair Ynni ar y Môr, y posibiliadau ar gyfer economi dal a storio carbon drawsffiniol ym maes hydrogen, lle mae gennym ni fuddsoddiadau yn Ynys Môn ac yn sir y Fflint, a—ac rwy'n gwybod bod hwn yn faes yr oedd yr Aelod yn ei hyrwyddo yn arbennig—rhaglen metro lle'r ydym yn perswadio Llywodraeth y DU i wneud y buddsoddiadau angenrheidiol y mae'n rhaid iddyn nhw eu gwneud yn y seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd i sicrhau y gall economi'r gogledd barhau i ffynnu.