Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 22 Mehefin 2021.
Diolch am y cwestiwn. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg. Ond mae gosod y sylfeini i ehangu mynediad at addysg Gymraeg yn ymgyrch tymor hir. Rydyn ni’n torri tir newydd gyda’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd ac rwy’n edrych ymlaen at weld ffrwyth y llafur hynny.