Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 22 Mehefin 2021.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd, a chafodd y model a ffefrir gennym ei nodi yn yr ymgynghoriad diweddar. Ochr yn ochr â'r gwaith o adolygu'r ymatebion i'r ymgynghoriad, mae treial ar y gweill yng Nghonwy ar hyn o bryd i arbrofi â chyflwyno cynllun dychwelyd ernes yn ddigidol.