Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 22 Mehefin 2021.
Er mwyn hyrwyddo tegwch a chysondeb, mae'r hyblygrwydd hwn wedi ei gefnogi gan ganllawiau, gan ddeunyddiau enghreifftiol a gan ddysgu proffesiynol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £9 miliwn i gefnogi ysgolion a cholegau yn ogystal â dyrannu diwrnod hyfforddiant mewn swydd cenedlaethol. Mae yna ddulliau sicrhau ansawdd mewnol ac allanol, gan gynnwys deialog broffesiynol gyda CBAC ynghylch deilliannau graddau ar lefel canolfan, nodwedd y gofynnwyd amdani gan y sector yn 2020. Gallaf sicrhau'r Aelodau na fydd CBAC yn newid unrhyw ddeilliannau o ganlyniad i'r ddeialog hon; penderfyniadau'r canolfannau ydyn nhw o hyd. Gan adlewyrchu'r model cyflawni gwahanol eleni, mae CBAC wedi gallu gostwng ei ffioedd 42 y cant, gan ryddhau £8 miliwn arall i ysgolion a cholegau. I gydnabod swyddogaeth canolfannau, rwy'n darparu £1.6 miliwn arall i allu gostwng ffioedd i 50 y cant.
Bellach, ysgolion a cholegau sy'n rheoli adolygiadau canolfannau o raddau y mae dysgwyr yn gofyn amdanyn nhw yn rhan o'r broses apelio. Rwy'n hyderus y bydd gan ddysgwyr fynediad at lwybr apelio teg ac ymarferol. Pan fo adolygiad canolfan wedi ei gynnal, os yw'r dysgwr yn dymuno parhau â'r mater ymhellach, mae ail lwybr ar gael drwy CBAC. Mae'r dull hwn yn unigryw i Gymru ac fe'i datblygwyd i leihau'r baich ar ysgolion a cholegau yn ystod y gwyliau. Heddiw rwyf i'n cadarnhau y bydd apeliadau am ddim.
Mae eleni yn wahanol i flynyddoedd blaenorol. Mae'n well gan rai dysgwyr arholiadau, a bydd rhai yn gwneud yn well mewn asesiadau parhaus. Mae'r dysgwyr hyn wedi bod yn destun aflonyddwch sylweddol yn ogystal ag addasu i ddull newydd o asesu. Rwyf i'n hyderus ein bod wedi datblygu system sy'n dryloyw, yn deg, yn gydradd ac yn gredadwy. Gall dysgwyr fod â hyder yn y graddau a ddyfarnwyd, ac felly hefyd y system addysg ehangach a chyflogwyr, yng Nghymru a thu hwnt. Rydym ni wedi cefnogi ysgolion, colegau a sefydliadau addysg uwch i gefnogi dysgwyr i drosglwyddo i'w camau nesaf.
Cymru, wrth gwrs, oedd y cyntaf i ganslo arholiadau'r haf, ond mae pob un o bedair gwlad y DU bellach ar lwybr tebyg yn fras. Rydym yn parhau i ymgysylltu'n agos â'n cymheiriaid i sicrhau chwarae teg i ddysgwyr ledled y DU, ac mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer derbyniadau i addysg uwch. Mae prifysgolion yng Nghymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cydweithio o dan arweinyddiaeth y Brifysgol Agored i gyflwyno University Ready, llwyfan ar-lein o adnoddau sy'n amrywio o sgiliau astudio i gefnogi iechyd meddwl a lles.
Yn olaf, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gymwysterau galwedigaethol sy'n cael eu rheoleiddio ar y cyd â gweinyddiaethau eraill. Ar gyfer cymwysterau tebyg i TGAU a Safon Uwch, er enghraifft BTEC, bydd graddau yn cael eu pennu gan ysgolion a cholegau mewn ffordd debyg i gymwysterau cyffredinol, a byddan nhw'n cael eu dyfarnu heb fod yn hwyrach na TGAU a Safon Uwch. Ar gyfer cymwysterau galwedigaethol eraill a ddefnyddir ar gyfer dilyniant neu drwydded i ymarfer, mae'r cymwysterau wedi eu haddasu a gall asesiadau barhau pan fo'n ddiogel gwneud hynny. Mae £26 miliwn wedi ei ddyfarnu i sefydliadau addysg bellach i ganiatáu i ddysgwyr ddychwelyd yn ddiogel er mwyn sicrhau bod rhaglenni galwedigaethol yn cael eu cwblhau.
Wrth gloi, hoffwn i ailddatgan fy niolch i athrawon a darlithwyr, y grŵp dylunio, Cymwysterau Cymru, CBAC a phartneriaid ar draws y system addysg am eu hymdrech ar y cyd i sicrhau y dyfernir cymwysterau i genhedlaeth o ddysgwyr, gan nodi eu gwaith caled a'u cyrhaeddiad yn ystod cyfnod o darfu digynsail. Mae'r ymdrechion hyn wedi galw am gyfraniad sylweddol gan ein gweithlu ac arweinyddiaeth gref a moesegol gan arweinwyr ein hysgolion a'n colegau. Rwy'n diolch iddyn nhw am eu hymdrechion. Hoffwn i hefyd longyfarch dysgwyr am eu cadernid a'u hymrwymiad yn ystod blwyddyn wirioneddol heriol.