– Senedd Cymru am 4:21 pm ar 22 Mehefin 2021.
Mae'r datganiad nesaf, felly, gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gymwysterau yn 2021. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Yn fy natganiad ar 'Adnewyddu a diwygio’, cadarnheais y byddem ni'n rhoi dysgwyr yn gyntaf, gan gefnogi eu lles a'u hyder a rhoi cyfleoedd iddyn nhw i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau allweddol i'w galluogi i wneud cynnydd. Mae'r rhain yn egwyddorion sydd wedi llywio ein trefniadau ar gyfer cymwysterau yr haf hwn. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'r athrawon a'r darlithwyr sydd wedi cefnogi eu dysgwyr trwy ddull newydd, dan amserlen dynn, i'w galluogi i symud ymlaen. Rwy'n deall i hyn fod yn heriol iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i'r grŵp cynghori dylunio a chyflawni, dan gadeiryddiaeth Geraint Rees, a ddaeth â phenaethiaid ysgol a cholegau ledled Cymru at ei gilydd. Maent wedi dod at ei gilydd yn wythnosol i gydlunio dull gweithredu, gan ymateb yn ystwyth i heriau newydd. Maent wedi canolbwyntio'n ddi-baid ar anghenion dysgwyr, eu lles a'u cynnydd. Heddiw, fe gyhoeddais lythyr gan gadeirydd y grŵp dylunio, sy'n tynnu sylw at rôl y sector addysg gyfan, yn darparu system lle gall dysgwyr deimlo eu bod yn llwyr haeddu’r cymwysterau y maent yn eu cael. Mae'r dull gweithredu ar gyfer 2021 yn rhoi ymddiriedaeth ym marn gyfannol canolfannau. Bydd dysgwyr yn derbyn gradd sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'u dysgu a fydd ond wedi'i asesu ar y cynnwys a gwmpaswyd gan eu hysgol neu goleg. Gofynnwyd i ganolfannau ystyried materion cydraddoldeb fel rhan o'u trefniadau. Gallant ddefnyddio ystod o dystiolaeth asesu, gan adlewyrchu'r amrywiaeth o brofiad ar lefel dysgwyr a lefel leol, ac mae dull wedi'i ddatblygu hefyd i sicrhau bod gan ymgeiswyr preifat lwybr clir i gyflawni eu cymwysterau.
Er mwyn hyrwyddo tegwch a chysondeb, mae'r hyblygrwydd hwn wedi ei gefnogi gan ganllawiau, gan ddeunyddiau enghreifftiol a gan ddysgu proffesiynol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £9 miliwn i gefnogi ysgolion a cholegau yn ogystal â dyrannu diwrnod hyfforddiant mewn swydd cenedlaethol. Mae yna ddulliau sicrhau ansawdd mewnol ac allanol, gan gynnwys deialog broffesiynol gyda CBAC ynghylch deilliannau graddau ar lefel canolfan, nodwedd y gofynnwyd amdani gan y sector yn 2020. Gallaf sicrhau'r Aelodau na fydd CBAC yn newid unrhyw ddeilliannau o ganlyniad i'r ddeialog hon; penderfyniadau'r canolfannau ydyn nhw o hyd. Gan adlewyrchu'r model cyflawni gwahanol eleni, mae CBAC wedi gallu gostwng ei ffioedd 42 y cant, gan ryddhau £8 miliwn arall i ysgolion a cholegau. I gydnabod swyddogaeth canolfannau, rwy'n darparu £1.6 miliwn arall i allu gostwng ffioedd i 50 y cant.
Bellach, ysgolion a cholegau sy'n rheoli adolygiadau canolfannau o raddau y mae dysgwyr yn gofyn amdanyn nhw yn rhan o'r broses apelio. Rwy'n hyderus y bydd gan ddysgwyr fynediad at lwybr apelio teg ac ymarferol. Pan fo adolygiad canolfan wedi ei gynnal, os yw'r dysgwr yn dymuno parhau â'r mater ymhellach, mae ail lwybr ar gael drwy CBAC. Mae'r dull hwn yn unigryw i Gymru ac fe'i datblygwyd i leihau'r baich ar ysgolion a cholegau yn ystod y gwyliau. Heddiw rwyf i'n cadarnhau y bydd apeliadau am ddim.
Mae eleni yn wahanol i flynyddoedd blaenorol. Mae'n well gan rai dysgwyr arholiadau, a bydd rhai yn gwneud yn well mewn asesiadau parhaus. Mae'r dysgwyr hyn wedi bod yn destun aflonyddwch sylweddol yn ogystal ag addasu i ddull newydd o asesu. Rwyf i'n hyderus ein bod wedi datblygu system sy'n dryloyw, yn deg, yn gydradd ac yn gredadwy. Gall dysgwyr fod â hyder yn y graddau a ddyfarnwyd, ac felly hefyd y system addysg ehangach a chyflogwyr, yng Nghymru a thu hwnt. Rydym ni wedi cefnogi ysgolion, colegau a sefydliadau addysg uwch i gefnogi dysgwyr i drosglwyddo i'w camau nesaf.
Cymru, wrth gwrs, oedd y cyntaf i ganslo arholiadau'r haf, ond mae pob un o bedair gwlad y DU bellach ar lwybr tebyg yn fras. Rydym yn parhau i ymgysylltu'n agos â'n cymheiriaid i sicrhau chwarae teg i ddysgwyr ledled y DU, ac mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer derbyniadau i addysg uwch. Mae prifysgolion yng Nghymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cydweithio o dan arweinyddiaeth y Brifysgol Agored i gyflwyno University Ready, llwyfan ar-lein o adnoddau sy'n amrywio o sgiliau astudio i gefnogi iechyd meddwl a lles.
Yn olaf, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gymwysterau galwedigaethol sy'n cael eu rheoleiddio ar y cyd â gweinyddiaethau eraill. Ar gyfer cymwysterau tebyg i TGAU a Safon Uwch, er enghraifft BTEC, bydd graddau yn cael eu pennu gan ysgolion a cholegau mewn ffordd debyg i gymwysterau cyffredinol, a byddan nhw'n cael eu dyfarnu heb fod yn hwyrach na TGAU a Safon Uwch. Ar gyfer cymwysterau galwedigaethol eraill a ddefnyddir ar gyfer dilyniant neu drwydded i ymarfer, mae'r cymwysterau wedi eu haddasu a gall asesiadau barhau pan fo'n ddiogel gwneud hynny. Mae £26 miliwn wedi ei ddyfarnu i sefydliadau addysg bellach i ganiatáu i ddysgwyr ddychwelyd yn ddiogel er mwyn sicrhau bod rhaglenni galwedigaethol yn cael eu cwblhau.
Wrth gloi, hoffwn i ailddatgan fy niolch i athrawon a darlithwyr, y grŵp dylunio, Cymwysterau Cymru, CBAC a phartneriaid ar draws y system addysg am eu hymdrech ar y cyd i sicrhau y dyfernir cymwysterau i genhedlaeth o ddysgwyr, gan nodi eu gwaith caled a'u cyrhaeddiad yn ystod cyfnod o darfu digynsail. Mae'r ymdrechion hyn wedi galw am gyfraniad sylweddol gan ein gweithlu ac arweinyddiaeth gref a moesegol gan arweinwyr ein hysgolion a'n colegau. Rwy'n diolch iddyn nhw am eu hymdrechion. Hoffwn i hefyd longyfarch dysgwyr am eu cadernid a'u hymrwymiad yn ystod blwyddyn wirioneddol heriol.
A gaf i ddechrau hefyd drwy dalu teyrnged i'n hysgolion, ein colegau a'n hathrawon ledled Cymru am bopeth y maen nhw wedi ei wneud i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc drwy'r 15 mis eithriadol o anodd hyn, dan bwysau aruthrol? Hoffwn innau hefyd ddymuno pob lwc i'n dysgwyr, sydd wedi dangos dealltwriaeth a chadernid rhyfeddol, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, Gweinidog, yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf.
Llywydd, rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog ac yn cydnabod gwaith caled pawb sy'n gysylltiedig, o ddylunio, darparu ac asesu i geisio sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn cael y graddau tecaf posibl eleni yn dilyn traed moch annerbyniol y llynedd. Roedd gweithio'n galed i gynllunio system gan ddefnyddio asesiadau i gefnogi a dangos tystiolaeth yn well o'r graddau a roddwyd i'r dysgwyr yn gam angenrheidiol i sicrhau nad yw carfan eleni yn rhannu'r un profiadau â charfan y llynedd. Fy ngobaith diffuant i yw bod y darpar raddau hyn a bennir gan y ganolfan, sy'n dechrau cael eu cyflwyno i'r dysgwyr eisoes, yn adlewyrchu'n deg waith caled a photensial ein pobl ifanc, a bod y broses apelio yn gadarn ac yn addas i'r diben.
Llynedd, yr oedd chwyddiant graddau yn enfawr, Gweinidog, ac yn gwbl anghynaliadwy. Heb os bydd rhywfaint o chwyddiant graddau eleni, Gweinidog, oherwydd natur y broses sydd ar waith. Ond pa gyfran o fyfyrwyr fyddech chi'n disgwyl eu gweld yn ennill graddau A* i C eleni, Gweinidog? Mae'n ymddangos bod y darpar raddau sy'n cael eu darparu rhwng nawr a 2 Gorffennaf yn addasiad synhwyrol y mae Cymru wedi ei fabwysiadu, sydd yn wahanol i weddill y DU, gan roi'r amser hynny i ddysgwyr apelio cyn y toriad, a chyn i'r canlyniad swyddogol aros. Mae hyn, wrth gwrs, i'w groesawu, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr, fel y gall myfyrwyr ddathlu eu gwaith caled ar y diwrnodau canlyniadau hynny. Rwyf i hefyd yn croesawu'r ffaith bod y broses am ddim, fel yr ydych wedi ei gyhoeddi heddiw.
Yn amlwg, roedd rhywfaint o bryder dealladwy, Gweinidog, ynghylch cam 1 y broses apelio. Y peth olaf y mae unrhyw un ohonom ni yn ei ddymuno yw rhoi baich ychwanegol sylweddol ar athrawon ac ysgolion ar ôl yr hyn y maen nhw wedi bod drwyddo gyda'r pandemig, pan fo nhw wedi mynd y tu hwnt ar ein cyfer. Fodd bynnag, mae yn ymddangos—os nad yw wedi ei orlwytho—yn gam cyntaf naturiol a synhwyrol i apelio i ysgol y dysgwr ei hun cyn CBAC. Mae'n ymddangos, trwy arwyddion cynnar, wrth siarad â rhanddeiliaid, Gweinidog, fod popeth yn dda hyd yn hyn o ran nifer yr apeliadau sy'n cael eu cyflwyno, ond mae'n amlwg bod cryn dipyn o ffordd i fynd eto. Gweinidog, a gaf i ofyn i chi gyhoeddi diweddariad treigl ar nifer yr apeliadau? Ac a wnewch chi hefyd rannu â'r Siambr hon heddiw, Gweinidog, yr hyn y byddwch chi'n ei wneud i gynorthwyo dysgwyr sy'n defnyddio bwrdd arholi yn Lloegr, i dynnu sylw at y broses wahanol sydd ganddyn nhw ar waith, o'i chymharu â phroses CBAC fel yr ydych wedi ei hamlinellu, gan sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru ledled Cymru yn cael y gefnogaeth lawn sydd ei hangen arnyn nhw gennym ni?
Hefyd, a gaf i eich holi ynghylch costau dyfarnu cymwysterau yr ydych wedi eu crybwyll bellach heddiw yn eich datganiad? Mae ysgolion yn dal i dalu 50 y cant o'u ffioedd arholiadau arferol er nad ydyn nhw'n cael unrhyw arholiadau gan CBAC, a'u bod yn gorfod pennu a chymedroli graddau yn fewnol eu hunain. Mae'r llwyth gwaith ar gyfer staff ysgol yn llawer mwy nag mewn blwyddyn arferol, ac mae gan CBAC swyddogaeth lai. Felly, siawns, Gweinidog, y dylai Llywodraeth Cymru fod yn talu'r rhan fwyaf o'r costau eleni, os nad yr holl gostau, o ystyried y pwysau y mae ysgolion yn eu hwynebu. Hefyd, hoffwn i sôn am yr amgylchiadau penodol y mae ymgeiswyr addysg breifat ac addysg gartref yn eu hwynebu, ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi'n gallu rhoi iddyn nhw y sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw ar ddechrau'r haf.
Ac yn gyffredinol, beth mae'r Llywodraeth hon wedi ei wneud i sicrhau bod dysgwyr, rhieni a gofalwyr 100 y cant yn glir ynglŷn â'r broses apelio, os ydyn nhw o'r farn bod angen apelio yn erbyn eu gradd? A ydych chi'n fodlon bod canllawiau clir wedi eu rhoi i'r dysgwyr hyn a rhwydweithiau cymorth?
Yn alwedigaethol, rwy'n croesawu'r arian ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw a fydd yn mynd i sefydliadau addysg bellach i'w galluogi i addasu i alluogi dysgwyr i ddychwelyd yn ddiogel, ond rwyf i hefyd yn rhannu rhai o bryderon colegau ynglŷn â'r oedi mewn rhai asesiadau ymarferol ar gyfer cyrsiau galwedigaethol, fel iechyd a gofal cymdeithasol a chyrsiau gofal plant. Wrth ychwanegu at yr oedi a gafwyd eisoes y llynedd, mae'r oedi hyd yn hyn wedi rhoi hyd yn oed mwy o straen ar y system, gan greu nifer o dagfeydd y mae angen mynd i'r afael â nhw bellach, yn enwedig yn y meysydd hanfodol y mae angen i ni gynyddu cyflogaeth ynddyn nhw, fel iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n gwybod bod colegau wedi gweithio'n galed gan eu bod wedi ailagor i flaenoriaethu asesiadau ymarferol yn y meysydd hyn, nad oedden nhw'n bosibl yn ystod y pandemig, ac mae yna elfen o ennill tir erbyn hyn. A bydd yr arian a gyhoeddwyd heddiw yn cael rhyw fath o effaith. Ond beth yw'r niferoedd yr ydym yn sôn amdanyn nhw, Gweinidog? A wnewch chi ddatganiad am nifer y bobl sy'n dal i aros i wneud asesiadau ar hyn o bryd os gwelwch yn dda, er mwyn i ni allu monitro'r broses?
Yn olaf, Gweinidog, er ein bod yn trafod cymwysterau eleni, mae hefyd yn bwysig dechrau edrych ymlaen at asesiadau'r flwyddyn nesaf. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod angen eglurder ar ysgolion, athrawon a phobl ifanc ynghylch trefniadau yn y dyfodol, er mwyn iddyn nhw allu cynllunio â rhywfaint o hyder. Ac er eu bod yn angenrheidiol yn ystod y pandemig, nid yw trefniadau eleni yn gynaliadwy gyda chynifer o newidynnau yn y tymor hir. Felly, Gweinidog, a allwch chi gadarnhau a yw'n fwriad gennych ddychwelyd i system decach a chyson sy'n seiliedig ar arholiadau y flwyddyn nesaf? Diolch.
Diolch am y croeso a roddodd yr Aelod i'r datganiad yna. Mae hi wedi gofyn cyfres o gwestiynau; byddaf i'n gwneud fy ngorau i geisio rhedeg drwyddyn nhw mewn modd mor gynhwysfawr ond byr ag y gallaf. Nid wyf i'n credu ei bod yn ddefnyddiol siarad am chwyddiant graddau. Byddwn yn gweld bod yn well gan rai dysgwyr arholiadau a'u bod yn perfformio'n well ynddyn nhw, a bydd rhai yn gwneud yn well mewn asesiadau parhaus. Mae lens cydraddoldeb wedi ei gymhwyso i ddyluniad asesiadau ar lefel canolfan. Yr hyn y gallaf ei ddweud â sicrwydd yw y bydd dysgwyr eleni wedi darparu tystiolaeth o gyrhaeddiad, a'n bod wedi cefnogi ysgolion i ddarparu dull cyson, teg sydd wedi ei gymhwyso mewn modd teg fel y gall dysgwyr fod â hyder yn y graddau sy'n cael eu dyfarnu iddyn nhw.
O ran y cam cyntaf, fel y mae hi'n ei alw, rwyf i'n credu bod hynny yn gam pwysig mewn gwirionedd gan ei fod yn rhoi syniad cynnar i'r dysgwyr o'u graddau arfaethedig, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw geisio adolygiad, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw fwrw ymlaen â hynny i apelio os nad ydyn nhw'n fodlon â hynny. Ac rwy'n credu bod y ffaith bod y cam cyntaf hwnnw yn digwydd yn ystod y tymor yn golygu yng Nghymru—yn unigryw rwy'n credu—y bydd y gwaith hwnnw yn cael ei wneud yn ystod y tymor yn hytrach nag yn ystod gwyliau'r haf, ac yn rhoi sicrwydd i fyfyrwyr o'r cyfeiriad y maen nhw'n mynd iddo. Os rhoddir graddau i'r myfyrwyr yn awr ac maen nhw'n fodlon arnyn nhw, dyna fydd y graddau y byddan nhw'n eu cael, i fod yn glir. Rwyf i wedi darllen damcaniaethu yn y wasg y bydd ymdeimlad o limbo. Os yw dysgwyr wedi cael y graddau a'u bod yn dymuno eu hadolygu, mater iddyn nhw yw hynny ac yn amlwg mae ganddyn nhw hawl i wneud hynny, ond os ydyn nhw'n fodlon â'u graddau, dyna yw eu graddau.
O ran myfyrwyr sy'n gwneud arholiadau drwy fyrddau yn Lloegr, ceir trefniadau cyfatebol, ac o ran ymgeiswyr preifat, byddan nhw naill ai yn cael eu hasesu gyda chanolfannau y mae ganddyn nhw berthynas â nhw eisoes, neu gan CBAC mewn canolfannau sydd wedi cytuno i'w cynnal.
O ran y ffioedd, mae gostyngiad o 50 y cant yn ostyngiad sylweddol. Mae athrawon wedi gweithio'n eithriadol o galed i gyflwyno'r asesiadau sy'n ofynnol ar gyfer yr haf hwn, ond mae CBAC hefyd wedi chwarae rhan bwysig iawn o ran darparu arweiniad ac adnoddau a sicrwydd ansawdd a deunyddiau er mwyn galluogi hynny i ddigwydd. Maen nhw eu hunain yn elusen ac felly mae angen iddyn nhw sicrhau bod eu costau yn cael eu hadlewyrchu yn hynny. Bydd y cyhoeddiad yr wyf i wedi ei wneud heddiw yn rhyddhau rhagor o arian sylweddol i'r system.
O ran canllawiau i ddysgwyr, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi canllaw i ddysgwyr am y broses apelio.
O ran trefniadau galwedigaethol, mae rhai cymwysterau, oherwydd eu natur, y gallan nhw fod yn gymwysterau mewn sectorau, er enghraifft, sydd wedi bod o dan gyfyngiadau oherwydd COVID. Byddai gofal cymdeithasol yn enghraifft dda o hynny. Rydym ni wedi buddsoddi £26 miliwn yn y sector i gefnogi'r sector i fynd i'r afael â hynny, a £41.5 miliwn arall i gefnogi dysgwyr sy'n pontio trwy'r cymwysterau hynny, ond bydd enghreifftiau lle na fu hynny mor syml, yn amlwg, yn anffodus.
O ran 2022, mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi nodi y bydd angen addasu'r asesiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf fel bod cynnwys y cwrs yn adlewyrchu'r tarfu sydd eisoes wedi digwydd yn y system. Mae CBAC yn ymgynghori ar hynny, ac rwyf i ar ddeall mai eu bwriad yw gwneud cyhoeddiad cyn diwedd tymor yr haf.
Dwi'n falch iawn o weld y datganiad heddiw ac eich bod chi wedi gwrando ar yr awgrym wnes i yn y Senedd yr wythnos diwethaf, sef lleihau ffioedd arholiadau i ysgolion. Fel cyn-gadeirydd llywodraethwyr, dwi'n ymwybodol iawn fod talu am arholiadau yn elfen bwysig o gyllideb ysgol. Doedd hi ddim yn ymddangos yn deg fod ysgolion yn wynebu biliau tebyg i'r rhai oedd yn arferol cyn COVID, o gofio fod llawer o'r baich o gynnal yr asesiadau eleni wedi disgyn ar ein hathrawon a'n hysgolion ni.
Wythnos diwethaf, fe wnes i ddyfynnu un ysgol a oedd yn wynebu bil o £100,000 am arholiadau, felly fe fyddan nhw'n croesawu'r newyddion yma bod y bil yn cael ei haneru. Ond mae'r rhan fwyaf o arweinwyr ysgolion yng Nghymru yn credu y dylid lleihau'r ffioedd arholiadau yn fwy sylweddol na hynny. Dwi ddim yn credu i chi ateb y cwestiwn a godwyd yn gynharach ynglŷn â hynny—oes yna fwy o newyddion da yn mynd i ddod i ysgolion? Oes yna le i leihau y ffioedd yma yn fwy eto? Dwi'n meddwl mai 25 y cant eto y byddai undeb yr arweinwyr ysgolion yn galw amdano fo.
Y gobaith ydy, wrth gwrs, y bydd yr arian sy'n cael ei ryddhau o'r llinell arholiadau yn y gyllideb yn aros yn yr ysgolion at ddefnydd yr ysgol. Felly, wnewch chi sicrhau bod yr arian ychwanegol yma yn aros yn yr ysgolion? Ac a fyddwch chi'n rhoi arweiniad i ysgolion ddefnyddio'r arian yma yn uniongyrchol fel taliadau bonws i staff? Dyna ydy'r bwriad yn yr Alban, ac mi fyddai'n dda rhoi cydnabyddiaeth uniongyrchol i athrawon sydd wedi cymryd ymlaen y tasgau ychwanegol yma oherwydd y newid yn y dulliau asesu. Mi fyddai rhoi bonws o gannoedd o bunnoedd yn arwydd clir ac yn troi geiriau o ddiolch yn weithred o ddiolch i'r proffesiwn dysgu, sydd wedi rhoi cymaint yn ystod y cyfnod yma ac wedi mynd y filltir ychwanegol dros ein plant ni a'n pobl ifanc ni.
Mae'r drefn wedi creu heriau mawr, wrth gwrs, a baich gwaith trymach na'r un arferol. Buaswn i'n licio gwybod, felly, pa gymorth lles ac iechyd meddwl fydd ar gael i athrawon sydd wedi ysgwyddo'r baich gwaith ychwanegol yma ar ben y biwrocratiaeth sydd yn ofynnol iddyn nhw ymhél â fo fel arfer.
O ran y disgyblion, sef y bobl bwysig yn fan hyn, mae yna ansicrwydd o ganlyniad i'r hyn sydd yn digwydd eleni, ac mi fydd y rheini sydd yn gobeithio mynd i'r brifysgol yn gorfod disgwyl tan ddiwrnod canlyniadau safon uwch swyddogol ar 10 Awst tan gwybod yn iawn yn union beth yw eu tynged nhw. Dwi'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud, ond buaswn i yn licio sicrwydd bod eich Llywodraeth chi yn mynd i arwain ar hyn a bod yna ddigon o wybodaeth a chefnogaeth angenrheidiol ar gael i ddarparu i'n disgyblion ni. Ac felly, hoffwn i ychydig o fanylion pellach ynglŷn â hynny os gwelwch yn dda.
Un pwynt olaf gen i: mi fydd yna rai disgyblion angen aileistedd arholiadau. Mae yna rai yn dal wrthi'n cymryd yr asesiadau, wrth gwrs—dydy'r broses heb orffen eto, naddo? Yn anffodus, mi fydd yna nifer cynyddol yn cael eu haflonyddu oherwydd y drydedd don, sydd yn digwydd o'n cwmpas ni ar hyn o bryd o ran COVID. Felly, pa gefnogaeth ydych chi, rŵan, yn mynd i'w rhoi i'r garfan benodol hon o ddisgyblion? Diolch.
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau hynny. O ran y cwestiwn ffioedd, wel, mae'r ddarpariaeth rŷn ni wedi'i sicrhau heddiw ynghyd â'r hyn y mae Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru wedi'i ddarparu, yn sicrhau bod costau'r arholiadau'n cael eu haneru. Rwyf i yn credu ei bod hi'n bwysig, fel y gwnes i eisoes, cydnabod y gwaith y mae athrawon yn ei wneud er mwyn sicrhau bod disgyblion a dysgwyr yn cael eu hasesu, ond ynghyd â hynny, mae rôl wedi bod gan y WJEC ei hunan i ddarparu adnoddau, cefnogaeth a chyngor yn y cyd-destun hwnnw hefyd, ac rwy'n credu bod yr hyn sydd wedi'i ddatgan heddiw'n adlewyrchu hynny hefyd.
O ran cyllideb, wrth gwrs, cyllideb yn yr ysgolion fydd hyn iddyn nhw ei defnyddio. Fel y gwnaeth fy rhagflaenydd ei ddatgan yn y pecyn cefnogaeth cyntaf i'r system addysg i ddelio gydag effaith yr haf hwn, mae'r gyllideb ar gael i gefnogi delio gyda'r asesiadau a'r apeliadau, gan gydnabod bod pwysau adnoddau ar ysgolion o ran amser athrawon, o ran adnoddau gweinyddol, ac ati. Felly, mae'r ddarpariaeth hon hefyd yn caniatáu i ysgolion wneud penderfyniadau i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion eu gweithlu nhw a'u hanghenion lleol nhw yn hynny o beth.
O ran cefnogaeth iechyd meddwl, fel rhan o'n fframwaith dull ysgol gyfan, fe wnaethon ni ddatgan bod cefnogaeth ar gael ar gyfer athrawon ac arweinwyr ysgol, ac mae mentora un-i-un wedi bod yn cael ei sefydlu eisoes i sicrhau bod capasiti yn y system i gefnogi athrawon gyda'u llesiant meddwl nhw eu hunain, ynghyd â'r gallu iddyn nhw i gefnogi'u disgyblion nhw, sydd wedi bod trwy gyfnod anodd iawn, wrth gwrs, dros y flwyddyn ddiwethaf.
Gwnaethoch chi sôn am ansicrwydd. Gwnaf i jest ddweud un peth eto os caf i. Os ydy disgybl wedi cael y graddau sydd eu hangen ar gyfer y cynnig prifysgol sydd gyda nhw, wel, mae'r graddau hynny'n gyson nawr; maen nhw wedi'u datgan, ac os ydyn nhw'n hapus gyda'r graddau hynny, gwnaiff y graddau hynny ddim newid. Rwyf i eisiau bod yn glir am hynny, oherwydd dwi ddim yn moyn iddyn nhw deimlo ansicrwydd yn y cyd-destun hwnnw. O ran mynediad i brifysgol yn ehangach na hynny, rŷn ni'n gweithio gyda HEFCW, gyda UCAS a gyda phrifysgolion yng Nghymru i sicrhau bod y cyfathrebu gyda myfyrwyr yn glir ac yn gymwys. Ac mae Cymwysterau Cymru wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid addysg uwch hefyd er mwyn sicrhau bod pobl yn deall, yn y sector addysg uwch, y broses sydd yn mynd yn ei blaen yma yng Nghymru eleni.
Gweinidog, rwy'n cytuno yn llwyr â disgyblion yn cael asesiadau sy'n seiliedig ar athrawon drwy gydol y cyfnod anodd hwn. Ond ar ôl cyfarfod ag athrawon yn y Rhondda, mae'r system newydd wedi rhoi straen aruthrol ar yr alwedigaeth. Sut y bydd y Gweinidog yn cefnogi athrawon drwy'r flwyddyn academaidd nesaf? Hefyd, pa gymorth fydd ar gael i fyfyrwyr nad ydyn nhw'n cael y graddau yr oedden nhw'n eu disgwyl?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. O ran sut olwg fydd ar y flwyddyn academaidd nesaf, bydd hi'n ymwybodol o'r cyhoeddiadau a wnes i ddoe ynglŷn â chategoreiddio ac ynglŷn â mesurau perfformiad ysgolion a'u hatal dros dro ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22. Hefyd ynglŷn â'r dull y bydd Estyn yn ei ddefnyddio ar gyfer arolygiadau yn ystod y flwyddyn nesaf, a fydd, rwy'n gobeithio—ac yn sicr y bwriedir iddo—greu lle yn y system i alluogi athrawon, yn y ffordd y mae arni hi ei heisiau, i allu canolbwyntio eu hegni ar gefnogi myfyrwyr, wrth ymateb i COVID ac o ran eu dilyniant, a hefyd paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Yn ogystal â hynny, bydd cefnogaeth ar gael i gefnogi athrawon yn y broses honno, yn rhan o'r rhaglen Adnewyddu a Diwygio a gyhoeddais i ychydig wythnosau yn ôl.
O ran myfyrwyr nad ydyn nhw'n cael y graddau sydd eu hangen arnyn nhw, yn yr un modd â phob blwyddyn arall, bydd cymorth ar gael iddyn nhw i roi cyngor iddyn nhw ar eu hopsiynau o ganlyniad i'w canlyniadau. Ond rwyf i eisiau bod yn glir iawn fy mod i'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod bod y system sydd wedi ei rhoi ar waith, o dan amgylchiadau heriol iawn, yn un sydd wedi ei chynllunio i sicrhau tegwch, ond hefyd cysondeb, fel y gall dysgwyr a chyflogwyr a'r sector addysg yn gyffredinol fod â hyder ynddi.
Diolch i'r Gweinidog.
Mae'n ddrwg iawn gen i ddweud wrth y Siambr nad yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am wneud y datganiad nesaf yn bresennol, boed hynny ar Zoom neu yn y Siambr. Gwn fod nifer o Aelodau yn dymuno gofyn cwestiynau am y datganiad hwn y mae diddordeb mawr ynddo, ond nid yw'r Gweinidog yn bresennol ar hyn o bryd. Fe wnaf i oedi'r cyfarfod am ychydig funudau i weld a oes modd dod o hyd i'r Gweinidog.