Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 22 Mehefin 2021.
Dwi'n falch iawn o weld y datganiad heddiw ac eich bod chi wedi gwrando ar yr awgrym wnes i yn y Senedd yr wythnos diwethaf, sef lleihau ffioedd arholiadau i ysgolion. Fel cyn-gadeirydd llywodraethwyr, dwi'n ymwybodol iawn fod talu am arholiadau yn elfen bwysig o gyllideb ysgol. Doedd hi ddim yn ymddangos yn deg fod ysgolion yn wynebu biliau tebyg i'r rhai oedd yn arferol cyn COVID, o gofio fod llawer o'r baich o gynnal yr asesiadau eleni wedi disgyn ar ein hathrawon a'n hysgolion ni.
Wythnos diwethaf, fe wnes i ddyfynnu un ysgol a oedd yn wynebu bil o £100,000 am arholiadau, felly fe fyddan nhw'n croesawu'r newyddion yma bod y bil yn cael ei haneru. Ond mae'r rhan fwyaf o arweinwyr ysgolion yng Nghymru yn credu y dylid lleihau'r ffioedd arholiadau yn fwy sylweddol na hynny. Dwi ddim yn credu i chi ateb y cwestiwn a godwyd yn gynharach ynglŷn â hynny—oes yna fwy o newyddion da yn mynd i ddod i ysgolion? Oes yna le i leihau y ffioedd yma yn fwy eto? Dwi'n meddwl mai 25 y cant eto y byddai undeb yr arweinwyr ysgolion yn galw amdano fo.
Y gobaith ydy, wrth gwrs, y bydd yr arian sy'n cael ei ryddhau o'r llinell arholiadau yn y gyllideb yn aros yn yr ysgolion at ddefnydd yr ysgol. Felly, wnewch chi sicrhau bod yr arian ychwanegol yma yn aros yn yr ysgolion? Ac a fyddwch chi'n rhoi arweiniad i ysgolion ddefnyddio'r arian yma yn uniongyrchol fel taliadau bonws i staff? Dyna ydy'r bwriad yn yr Alban, ac mi fyddai'n dda rhoi cydnabyddiaeth uniongyrchol i athrawon sydd wedi cymryd ymlaen y tasgau ychwanegol yma oherwydd y newid yn y dulliau asesu. Mi fyddai rhoi bonws o gannoedd o bunnoedd yn arwydd clir ac yn troi geiriau o ddiolch yn weithred o ddiolch i'r proffesiwn dysgu, sydd wedi rhoi cymaint yn ystod y cyfnod yma ac wedi mynd y filltir ychwanegol dros ein plant ni a'n pobl ifanc ni.
Mae'r drefn wedi creu heriau mawr, wrth gwrs, a baich gwaith trymach na'r un arferol. Buaswn i'n licio gwybod, felly, pa gymorth lles ac iechyd meddwl fydd ar gael i athrawon sydd wedi ysgwyddo'r baich gwaith ychwanegol yma ar ben y biwrocratiaeth sydd yn ofynnol iddyn nhw ymhél â fo fel arfer.
O ran y disgyblion, sef y bobl bwysig yn fan hyn, mae yna ansicrwydd o ganlyniad i'r hyn sydd yn digwydd eleni, ac mi fydd y rheini sydd yn gobeithio mynd i'r brifysgol yn gorfod disgwyl tan ddiwrnod canlyniadau safon uwch swyddogol ar 10 Awst tan gwybod yn iawn yn union beth yw eu tynged nhw. Dwi'n clywed beth rydych chi'n ei ddweud, ond buaswn i yn licio sicrwydd bod eich Llywodraeth chi yn mynd i arwain ar hyn a bod yna ddigon o wybodaeth a chefnogaeth angenrheidiol ar gael i ddarparu i'n disgyblion ni. Ac felly, hoffwn i ychydig o fanylion pellach ynglŷn â hynny os gwelwch yn dda.
Un pwynt olaf gen i: mi fydd yna rai disgyblion angen aileistedd arholiadau. Mae yna rai yn dal wrthi'n cymryd yr asesiadau, wrth gwrs—dydy'r broses heb orffen eto, naddo? Yn anffodus, mi fydd yna nifer cynyddol yn cael eu haflonyddu oherwydd y drydedd don, sydd yn digwydd o'n cwmpas ni ar hyn o bryd o ran COVID. Felly, pa gefnogaeth ydych chi, rŵan, yn mynd i'w rhoi i'r garfan benodol hon o ddisgyblion? Diolch.