Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 22 Mehefin 2021.
Mae'n ddrwg iawn gen i ddweud wrth y Siambr nad yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am wneud y datganiad nesaf yn bresennol, boed hynny ar Zoom neu yn y Siambr. Gwn fod nifer o Aelodau yn dymuno gofyn cwestiynau am y datganiad hwn y mae diddordeb mawr ynddo, ond nid yw'r Gweinidog yn bresennol ar hyn o bryd. Fe wnaf i oedi'r cyfarfod am ychydig funudau i weld a oes modd dod o hyd i'r Gweinidog.