– Senedd Cymru am 4:51 pm ar 22 Mehefin 2021.
Y datganiad nesaf, felly, yw'r un gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar adolygiad o ffyrdd, a dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad. Lee Waters.
Diolch, Llywydd. Mae gwyddonwyr y byd yn dweud wrthym mewn termau clir iawn fod angen inni leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ar frys. Er 1990, mae allyriadau Cymru wedi gostwng 31 y cant, ond er mwyn cyrraedd ein targed statudol o sero net erbyn 2050 mae angen inni wneud llawer mwy. Fel yr atgoffodd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU ni yr wythnos diwethaf, os ydym ni am gadw'r cynnydd mewn tymheredd o fewn terfynau diogel, mae angen i ni, yn ystod y 10 mlynedd nesaf, fwy na dyblu'r holl doriadau yr ydym wedi llwyddo i'w cyflawni dros y 30 mlynedd diwethaf.
Er mwyn cyrraedd targed 2050, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi dweud wrthym fod angen inni leihau allyriadau yn y degawd nesaf 63 y cant, ac erbyn 2040 mae angen iddyn nhw ostwng 89 y cant. Ar ein llwybr presennol, ni fyddwn yn cyflawni sero net tan tua 2090. Mae'r her yn amlwg a bydd angen i bawb, gan gynnwys y Llywodraeth, ystyried effaith eu dewisiadau.
Trafnidiaeth yw tua 17 y cant o gyfanswm ein hallyriadau ac felly mae'n rhaid iddi chwarae ei rhan. Yn gynharach eleni cyhoeddais strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, 'Llwybr Newydd'. Mae'n nodi gweledigaeth feiddgar ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf. Yr oedd yn cynnwys, am y tro cyntaf, darged newid dulliau teithio, sy'n ei gwneud yn ofynnol inni anelu at 45 y cant o deithiau i fod drwy ddulliau cynaliadwy o deithio erbyn 2045, i fyny o 32 y cant ar hyn o bryd. Er mwyn cyflawni'r targedau hyn mae angen inni symud oddi wrth wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru, a buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn sy'n rhoi dewis ystyrlon i bobl.
Mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i gyflwyno Bil bysiau pellgyrhaeddol yn nhymor y Senedd hon i'w gwneud yn haws integreiddio amserlenni bysiau a threnau. Mae gweithredwyr bysiau wedi dweud mai'r prif rwystr i gynyddu nawdd yw dibynadwyedd ac amseroedd teithio, felly byddwn yn cymryd camau i roi mwy o flaenoriaeth i fysiau ar ein ffyrdd a byddwn yn edrych hefyd ar docynnau bws.
Eleni byddwn ni'n gwario mwy nag unrhyw ran arall o'r DU y pen ar fuddsoddiad teithio llesol i annog pobl i gerdded neu feicio ar gyfer teithiau lleol. Mae dwy o bob tair taith yng Nghymru o dan bum milltir o hyd. Gyda'r buddsoddiad cywir, a gydag anogaeth, mae potensial enfawr i gael y rhan fwyaf o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau bob dydd—nid pob taith, nid pawb, ond y mwyafrif. Mae'n rhywbeth y gallwn ni ei wneud, ac mae llawer o wledydd lle mae eisoes yn cael ei wneud.
Mae deall y data yn gysylltiedig â thrafnidiaeth hefyd yn rhoi cyfle i ni wneud dewisiadau, ac, wrth i'r data a'r wyddoniaeth newid, bydd y dewisiadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud yn newid. Mae'n rhaid inni ddefnyddio'r cyfle sydd gennym yn ddoeth os ydym am gyrraedd ein targedau newid hinsawdd. I'r perwyl hwn, rydym yn cyhoeddi oedi ar bob cynllun ffordd newydd wrth i ni adolygu ein hymrwymiadau presennol.
Mae swyddogion yng nghamau olaf sefydlu panel adolygu ffyrdd, a fydd yn cynnwys rhai o brif arbenigwyr y DU ar drafnidiaeth a newid hinsawdd. Bydd y panel yn ystyried gosod profion ar gyfer penderfynu pryd mai ffyrdd newydd yw'r atebion cywir ar gyfer problemau trafnidiaeth, yn unol â strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru. Ac rwyf yn dymuno i'r adolygiad ystyried sut y gallwn ni symud gwariant tuag at gynnal a chadw ein ffyrdd presennol yn well, yn hytrach nag adeiladu rhai newydd, fel yr argymhellwyd gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau trawsbleidiol yn y Senedd ddiwethaf.
Byddwn ni'n cyhoeddi cylch gorchwyl llawn yr adolygiad a'r aelodaeth lawn maes o law. Mater i'r panel fydd adolygu ein holl fuddsoddiadau arfaethedig mewn ffyrdd, boed hynny'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar y rhwydwaith ffyrdd strategol, neu'n anuniongyrchol, drwy grantiau, ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, fel bod pob prosiect yn y dyfodol yn cyd-fynd â thair blaenoriaeth y strategaeth drafnidiaeth newydd: lleihau'r angen i deithio, caniatáu i bobl a nwyddau symud yn haws o ddrws i ddrws drwy fathau cynaliadwy o drafnidiaeth, ac annog pobl i wneud y newid.
Mae strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru yn ymgorffori'r defnydd o hierarchaeth cynllunio trafnidiaeth gynaliadwy, a bydd y panel yn defnyddio hyn i sicrhau ein bod yn annog teithio drwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus cyn cerbydau modur preifat. Er mwyn sicrhau bod y dull hwn wedi'i ymgorffori'n llawn yn ein penderfyniadau buddsoddi a'r rhai a wneir gan bartneriaid cyflawni eraill, rydym hefyd yn adolygu canllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru, ein fframwaith gwneud penderfyniadau ar gyfer prosiectau trafnidiaeth, fel ei fod yn gyson â 'Llwybr Newydd' ac yn defnyddio'r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd yr adolygiad yn darparu adroddiad cychwynnol i'r Gweinidogion o fewn tri mis i'w benodi, gan nodi sut y bydd yn mynd ati i gyflawni ei dasg, a darperir yr adroddiad terfynol o fewn naw mis i hynny, gan nodi canfyddiadau'r adolygiad.
Mae pob plaid yn y Senedd hon wedi ymrwymo i gymryd y bygythiad a achosir gan newid hinsawdd o ddifrif, ac mae hynny'n golygu gweithredu nawr i leihau allyriadau. Ni fydd hyn bob amser yn gyfforddus nac yn hawdd, Llywydd, ond dyna y mae'r wyddoniaeth yn gofyn i ni ei wneud a dyna y mae cenedlaethau'r dyfodol yn ei fynnu gennym. Diolch.
Dirprwy Weinidog, bydd y datganiad hwn heddiw yn digalonni ac yn siomi busnesau a defnyddwyr ffyrdd fel ei gilydd. Mae'n ffaith bod Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru, ar ôl 22 mlynedd mewn grym, wedi methu ag adeiladu rhwydwaith ffyrdd digonol. Rhwng 2000 a 2019, mae rhwydwaith ffyrdd Cymru wedi cynyddu llai na 3 y cant, er gwaethaf y ffaith bod nifer y cerbydau ar y ffyrdd wedi cynyddu bron 30 y cant dros yr un cyfnod. Ond rydych chi heddiw wedi cadarnhau nad oes gan Lafur Cymru unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â'r traffig sy'n cynyddu ar ein ffyrdd.
Gwnaethoch chi dorri ymrwymiad maniffesto i fynd i'r afael â'r broblem o dagfeydd ar yr M4 drwy adeiladu ffordd liniaru, gan wastraffu £157 miliwn yn y broses, ac rydych wedi siomi defnyddwyr ffyrdd eto heddiw. Coridorau trafnidiaeth ffyrdd yw rhydwelïau masnach ddomestig a rhyngwladol ac maen nhw'n hybu cystadleurwydd cyffredinol economi Cymru. Yn 2017, roedd dros 30,000 o dagfeydd traffig ar ffyrdd Cymru, a gostiodd bron i £278 miliwn i economi Cymru. Dylai polisi priodol ar gyfer ffyrdd gynnwys cynlluniau uchelgeisiol i wella ein seilwaith ffyrdd drwy ddarparu ffordd liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 yn y gogledd, a symud ymlaen â deuoli'r A40 i Abergwaun. Dylai gynnwys y ffordd osgoi ar gyfer Cas-gwent ac—rwy'n ymddiheuro am fy ynganiad ymlaen llaw—Llandeilo y mae trigolion wedi bod yn galw amdani. Yn hytrach, mae'r materion hyn wedi'u hoedi am y tro.
A allwch chi ddweud wrthyf, Gweinidog, a fydd y gwelliannau i'r A40 rhwng Llanddewi Felffre a Phenblewin, sydd i fod i ddechrau yr wythnos hon, yn digwydd yn awr neu a fydd oedi oherwydd yr adolygiad hwn? Dylai'r adolygiad o ffyrdd hefyd fynd i'r afael â'r gwrth-ddweud yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at liniaru lefelau llygredd aer. Mae gan Gymru rywfaint o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Mae'n ffaith. Mae gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau PM10 uwch na Birmingham a Manceinion, a Hafodyrynys sydd â'r ffordd fwyaf llygredig yn y DU y tu allan i Lundain.
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i adolygu terfynau cyflymder ar brif ffyrdd yng Nghymru. Bydd llif cyson o draffig nid yn unig yn lleihau faint o ronynnau sy'n cael eu rhyddhau wrth i frêcs gael eu defnyddio a'u treulio, ond hefyd yn lleihau faint o garbon deuocsid y mae ceir yn ei gynhyrchu wrth gyflymu. Er bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu parthau 50 mya mewn rhai rhannau o Gymru i gadw traffig i lifo, a lleihau terfynau nitrogen deuocsid, mae rhai arbenigwyr diogelwch traffig wedi dweud y gallai terfynau parhaol o 50 mya roi modurwyr mewn perygl. Ceir tystiolaeth bod mwy o dagfeydd yn arwain at rwystredigaeth i yrwyr a'i fod yn lleihau eu hymwybyddiaeth a'u gallu i ganolbwyntio. A wnewch chi gytuno i fynd i'r afael â'r mater hwn, Dirprwy Weinidog? Oherwydd mae'n ymddangos eich bod yn benderfynol o adael i'n ffyrdd ddirywio a gorfodi pawb i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, er gwaethaf amheuon mawr ynghylch gallu'r rhwydwaith yng Nghymru i ymdopi ar ôl blynyddoedd o reolaeth wael a thanfuddsoddi. Mae angen mwy o wybodaeth ar weithwyr a busnesau Cymru ar frys am gwmpas yr adolygiad a'ch bwriad yn yr hirdymor ar gyfer ein seilwaith trafnidiaeth, ac mae angen mwy o wybodaeth arnom ninnau hefyd. Diolch.
Wel, rwy'n anghytuno'n llwyr â'r dadansoddiad yna o'r broblem. Mae Natasha Asghar wedi nodi'r dull rhagweld a darparu traddodiadol o adeiladu ffyrdd: rhagwelir y bydd traffig yn cynyddu, felly fe wnawn ni gynyddu'r cyflenwad o ffyrdd. Rydym wedi dilyn y llwybr hwnnw ers 50 mlynedd ac mae hynny wedi cynhyrchu mwy o draffig, teithiau hirach, pobl yn gweithio ymhellach oddi cartref, lefelau uwch o lygredd aer a lefelau uwch o ordewdra, lle mae gennym y plant mwyaf gordew yn Ewrop. Dyna y mae'r dull hwnnw wedi'i gynhyrchu. Nid yw'n gweithio, ac nid wyf i'n bwriadu parhau i wneud yr un peth dro ar ôl tro. Efallai ei fod yn gwneud pennawd hawdd, ond mae'n anghywir ar sail y dystiolaeth, ac yn sicr nid yw'n cyd-fynd â'r hyn yr oedd hi yn ei ddweud yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r angen i gymryd newid yn yr hinsawdd o ddifrif. Dywedodd hi a Janet Finch-Saunders yn y Siambr yr wythnos diwethaf, 'Mae angen ichi gymryd camau beiddgar', ac roedden nhw yn gwbl gefnogol i'r targed o gyflawni newid hinsawdd, ac mae hi wedi nodi ffordd o wneud y gwrthwyneb yn union.
Mae'n gwbl anghywir dweud nad ydym ni'n cynnal ffyrdd. Yn wir, holl bwynt y cyhoeddiad hwn yw ailddyrannu adnoddau tuag at gynnal a chadw ffyrdd fel yr argymhellwyd, fel y dywedais, gan benderfyniad unfrydol y pwyllgor trawsbleidiol ar yr economi yn y Senedd ddiwethaf, a argymhellodd ein bod yn rhoi'r gorau i adeiladu ffyrdd newydd a'n bod yn blaenoriaethu arian ar gyfer cynnal y rhai sydd gennym—dan Gadeirydd Ceidwadol, os caf i ychwanegu.
O ran y cwestiwn penodol am gynllun Llanddewi Felffre i Groesffordd Maencoch, fel yr ydym wedi'i ddweud, bydd pob cynllun lle mae peiriannau cloddio yn y ddaear ar hyn o bryd yn parhau, ac mae hwnnw'n un ohonyn nhw. Felly, dyna un peth o leiaf rwy'n gobeithio y gallwn ni gytuno ar y ffeithiau.
Gweinidog, diolch am eich datganiad. Mae gennym gyfle ar ôl y pandemig i adeiladu cenedl a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol, a bydd buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, active travel ac isadeiledd gwyrdd yn rhan allweddol o hyn. Fodd bynnag, bydd yn hanfodol bwysig sicrhau nad yw cymunedau sydd wedi bod yn aros am amser hir am fuddsoddiad mewn isadeiledd yn cael eu gadael ar ôl.
Fe wnaethoch chi ddweud bod angen i ni symud i ffwrdd o wario arian ar brosiectau sy’n annog mwy o bobl i yrru a gwario mwy ar gynnal a chadw ein ffyrdd a buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn sy’n rhoi dewis ystyrlon i bobl. Gaf i ofyn ichi pa ddewisiadau amgen mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio buddsoddi ynddynt? Byddwn i'n gwerthfawrogi mwy o eglurder a manylder ar y pwynt hwn.
Ac, o ran trafnidiaeth drydan, sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod gan bob ardal yng Nghymru gyfran deg o bwyntiau gwefru ceir trydan?
Gweinidog, bydd newid dulliau teithio yn sylweddol bwysig yn hyn i gyd, felly pa swyddogaeth fydd gan feysydd fel lonydd cyflym ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau trydan ar ffyrdd y dyfodol—pa mor bwysig fydd y swyddogaeth honno?
Ac i gyfeirio at eich pwynt ar gynnal ffyrdd sy'n bodoli eisoes, hoffwn dynnu'ch sylw at yr asesiad risg newid hinsawdd diweddaraf yn y DU. Mae'n cyfeirio at nifer o heriau sy'n wynebu seilwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys mwy o risg o fethiant llethrau oherwydd mwy o law, a'r risgiau cysylltiedig gydag ymsuddiant tir a chwalfa cafnau sy'n bodoli eisoes yn y ddaear o newidiadau yng nghynnwys dŵr y pridd oherwydd newid hinsawdd. Felly, a gawn i ofyn ichi beth y bydd eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod seilwaith ffyrdd yng Nghymru yn rhan o hyn, ac y bydd yn gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd?
A'r peth olaf y byddwn i'n ei ofyn i chi, Gweinidog, yw sut y byddwch yn cael cymeradwyaeth a chefnogaeth gan gymunedau y bydd hyn yn effeithio'n arbennig arnyn nhw. Unwaith eto, meddyliwch eto am gymunedau sydd wedi bod yn aros yn hir am fuddsoddiad mewn seilwaith. Pa ymgysylltu y byddwch chi'n ei gael gyda'r cymunedau hynny y bydd y penderfyniadau hyn yn debygol o effeithio arnyn nhw, os gwelwch yn dda?
Diolch am y sylwadau, a byddwn i'n gobeithio bod llawer iawn o dir cyffredin rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar y mater hwn. Rwy'n sylwi yn ystod ymgyrch yr etholiad inni gael ein beirniadu am beidio â bod yn ddigon eofn, am beidio â symud yn ddigon cyflym ar newid hinsawdd. Rwy'n credu y bu gan eich plaid chi ymrwymiad i gyflawni sero net erbyn 2035 ac y gwnaethoch chi ddweud ein bod ni'n rhy araf wrth fynd am 2050. Nawr, er mwyn cyflawni heriau 2050, fel y dywedais yn fy natganiad, ceir heriau sylweddol eisoes inni weithredu ymhellach ac yn gyflymach nag yr ydym wedi bod yn ei wneud. Felly, gan eich bod yn credu y dylem ni fynd yn gyflymach na hynny eto, byddwn i wedi gobeithio y byddech chi ar yr un ochr â ni o leiaf yn cydnabod beth yw'r broblem a beth yw rhai o'r atebion. Felly, gobeithio y gallwn ni gydweithio mor adeiladol â phosibl ar yr agenda honno.
Nid yw'r rhain yn faterion hawdd ac maen nhw yn achosi tensiynau, a bydd rhai o'r pethau'n anodd ac yn amhoblogaidd, ac nid wyf yn cilio o hynny; rwy'n credu bod yn rhaid inni wynebu hynny. Ni allwn ni gael cefnogaeth pobl oni bai ein bod ni'n dangos i bobl fod dewis gwell. Ym mhob deinameg newid ymddygiad, bydd pobl yn gwneud y peth hawsaf ei wneud, ac mae angen inni wneud y peth iawn i'w wneud y peth hawsaf ei wneud. Rydym ni wedi gweld hynny ym maes ailgylchu, wedi'i weld ym maes ysmygu mewn mannau cyhoeddus, ac yfed a gyrru. Mae cynsail ar gyfer sut y gallwn ni wneud hyn, ond nid yw'n mynd i fod yn hawdd.
Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â'r mater addasu, o'r allyriadau carbon sydd eisoes ar waith, ac rydym eisoes yn gweld, yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, effaith gaeafau gwlypach a hafau sychach. Felly, bydd effaith ar ein seilwaith presennol, ac, fel yr ydych yn ei ddweud, nododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd hynny'n eithaf manwl. Rydym wedi neilltuo arian eleni a'r llynedd ar gyfer rhaglen ffyrdd gadarn i geisio mynd i'r afael â lle mae seilwaith yn chwalu. Fel y dywedais i yn y datganiad, rwyf eisiau inni symud arian tuag at gynnal a chadw'r ffyrdd sydd gennym ni, ac, wrth inni eu cynnal, eu gwella, rhoi mesurau ar waith sy'n annog defnyddio bysiau, gosod lonydd bysiau, gosod lonydd beicio ar wahân, uwchraddio'r seilwaith i annog trafnidiaeth gynaliadwy. Mae hynny'n rhan o'r agenda sydd gennym.
Rwy'n credu bod angen i ni weithio drwy hyn yn systematig. Mae Bil bysiau yr ydym wedi ymrwymo i'w gyflwyno; rwyf eisiau gwneud y Bil bysiau hwnnw mor uchelgeisiol â phosibl. Yr her sydd gennym ni, rwy'n credu, os ydym ni i gyd yn onest am hyn, yw cyflymder y newid y mae gwyddoniaeth yn ei fynnu, mae tensiwn yn hynny a pha mor gyflym y gallwn ni sicrhau newid, o ystyried pa mor gymhleth yw'r dirwedd a pha mor hir y mae'n ei gymryd i gael prosiectau seilwaith drwy'r broses. Felly, nid yw hyn yn hawdd.
O ran cymunedau sydd wedi bod yn aros yn hir am welliannau, rwy'n credu bod honno'n her deg iawn, ac rwy'n credu bod yn rhaid inni gael sgwrs onest am sut olwg sydd ar newid. Oherwydd rwy'n credu ein bod wedi dweud wrth bobl bod gosod priffyrdd yn cael gwared ar y broblem, pan mai'r gwir yw ei fod yn symud y broblem, ac mae'n creu problem wahanol. Yr un peth yr ydym ni'n gofyn i'r adolygiad hwn ei wneud yw llunio cyfres o reolau i ni ynghylch pryd y bydd priffyrdd y peth iawn i'w wneud, oherwydd nid ydym ni'n dweud nad ydym ni'n mynd i adeiladu ffyrdd eto, ond rydym ni'n dweud y bydd angen iddyn nhw fod mewn amgylchiadau penodol—y cysyniad hwn o'r cyfle: mae'n gyfyngedig, ac mae'n rhaid i ni ei wario'n ddoeth. Felly, byddwn i'n rhagweld y byddwn ni'n ystyried cynlluniau sydd â phwyslais penodol ar ddiogelwch neu bwyslais ar ansawdd aer, neu ar gyfer mynediad i ystadau diwydiannol neu dai newydd, er enghraifft, bydd achos dros ddweud bod adeiladu ffyrdd yn rhan o'r ateb. O ran dim ond mynd i'r afael â thagfeydd ac adeiladu ar y model rhagweld a darparu a glywsom gan y Ceidwadwyr, nid wyf yn credu bod y dystiolaeth yn cefnogi hynny fel ateb hirdymor, ac mae'n rhaid i bob un ohonom ni ganolbwyntio ar anawsterau tymor byr o'u cymharu â gwneud y peth iawn i genedlaethau'r dyfodol.
Gweinidog, gyda chynnydd yn nifer y bobl sy'n cerdded, rhedeg a beicio'n nes at gartref drwy gydol y pandemig, a gyda'r anawsterau i rieni o ran cadw pellter cymdeithasol y tu allan i gatiau'r ysgol, roeddwn yn falch iawn o weld cyllid i gyflwyno mwy o barthau 20 mya yn fy etholaeth i, y Rhondda, i gadw trigolion yn ddiogel. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn adeiladu ar y gwaith hwn, yn ogystal â'r gwaith llwybrau teithio llesol sydd eisoes ar y gweill gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, dros dymor nesaf y Senedd.
Un maes yr hoffwn i ei drafod ymhellach gyda'r Gweinidog yw'r Rhondda Fach. Ar hyn o bryd mae gennym ffordd osgoi sy'n mynd o'r Porth i Bontygwaith, gan adael trigolion Tylorstown, Glynrhedynog, Blaenllechau a Maerdy mewn ciwiau hir o draffig ar adegau teithio brig. Mae llygredd aer yn fygythiad gwirioneddol i ni a chenedlaethau'r dyfodol, felly a wnaiff y Gweinidog gyfarfod â mi i drafod atebion teithio posibl i drigolion y Rhondda Fach, gan ymgorffori trafnidiaeth gyhoeddus a man teithio diogel i feicwyr a cherddwyr?
Diolch. Byddwn i, wrth gwrs, yn hapus i gyfarfod, ac mae honno'n enghraifft ddiddorol o ble yr adeiladwyd ffordd osgoi, beth, 10 mlynedd yn ôl nawr—rwy'n cofio mynd i'r seremoni agoriadol—lle mae honno wedi creu cyfres o atebion, ond yn ychwanegu pwysau ymhellach i lawr y rhwydwaith ffyrdd, gan arwain at alwadau am ragor o ffyrdd osgoi. Dyna'r math o ateb rhagweld a darparu yr oeddwn i'n ei ddisgrifio'n gynharach na allwn ni barhau i wneud y dull hwnnw o ymdrin â thrafnidiaeth os ydym o ddifrif ynghylch cyrraedd ein targedau newid hinsawdd.
Wedi dweud hynny, mae'n amlwg bod problem yn ei hetholaeth hi sy'n un go iawn i iechyd pobl ac am eu gallu i symud o gwmpas yn rhydd, a dyna'r cyfyng-gyngor yr ydym yn ei wynebu. Dod o hyd i ffordd drwy hynny fydd her tymor y Senedd hon, ac rwy'n gobeithio y bydd y panel yr ydym wedi'i sefydlu yn ein helpu i wneud hynny.
O ran y pwynt ar 20 mya, o ddwy flynedd o nawr, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya diofyn ar gyfer pob ardal breswyl, nid yn unig ar gyfer cynlluniau bach, ond ar gyfer ardal gyfan, oherwydd mae angen inni leihau cyflymder traffig er mwyn achub bywydau plant, ac yn rhan o'r holl newid yn yr amgylchedd, i symud y pŵer i ffwrdd o'r sefyllfa lle mae'r car yn frenin yn y gymuned i sefyllfa lle mae pobl yn frenin. A bydd hynny, rwy'n credu, yn gwella ansawdd bywyd pobl yn gyffredinol.
Dirprwy Weinidog, pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith economaidd peidio â bwrw ymlaen â chynlluniau a gynigiwyd eisoes ar gyfer adeiladu, y gadwyn gyflenwi a manteision economaidd lleol? Pa ddatblygiadau sy'n dibynnu ar ffyrdd, cyffyrdd neu bontydd newydd fydd yn cael eu hatal yn awr o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwn, yn arbennig, yr effaith ar y ganolfan ganser newydd arfaethedig yng Nghaerdydd, na ellir ond ei chyrraedd drwy gyfrwng ffyrdd a phontydd newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru? Ac yn fy rhanbarth i, mae datblygu'r fferm wynt ym mynydd Margam yn gofyn am atebion heblaw mynd drwy dref Maesteg.
Ym mis Mai, adroddodd y BBC fod Llywodraeth y DU yn adolygu ei rhaglen adeiladu ffyrdd oherwydd bod mwy o bobl yn gweithio gartref. Byddai'n ddiddorol gweld ai dyma'r sail ar gyfer gwneud y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru hefyd. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am gefnffyrdd a thraffyrdd, tra bo'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am ffyrdd lleol. Mae rhai cynlluniau eisoes ar y gweill ac wedi'u cynllunio ar gyfer datblygu; a allai'r adolygiad hwn ganslo unrhyw un o'r rhain? Mewn unrhyw adolygiad, roeddem am gael sicrwydd y byddai gan lywodraeth leol yr adnoddau priodol i gynnal a chadw a thrwsio ffyrdd presennol er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel a bod cynghorau'n cymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw. Diolch.
Wel, rwy'n credu bod cryn nifer o'r pwyntiau y soniodd Altaf Hussain amdanyn nhw wedi cael sylw yn fy natganiad, felly rhoddaf gyfle iddo fyfyrio ar hynny, ac os oes ganddo ragor o gwestiynau rwy'n hapus i'w hateb.
O ran y cwestiwn penodol ynghylch y ganolfan ganser, nid yw hynny wedi'i gynnwys yng nghwmpas yr adolygiad hwn, oherwydd cynllun yw hwnnw i roi mynediad i brosiect; nid yw'n gynllun priffyrdd awdurdod lleol na Llywodraeth Cymru. Ac yn yr un modd ffyrdd mynediad i ffermydd gwynt. Unwaith eto, nid ydym yn bod yn eithafol ynglŷn â hyn. Mae achos dros adeiladu ffyrdd, nid wyf yn gwrthddweud hynny, ond ni all fod yr ymateb diofyn i bob un broblem drafnidiaeth sydd gennym, sef yr hyn y mae wedi bod yn aml.
Soniodd yn ddiddorol am Lywodraeth y DU. Wrth gwrs, yn ogystal ag ymrwymo i gyrraedd sero net erbyn 2050, maen nhw wedi cyhoeddi rhaglen ffordd gwerth £27 biliwn. Maen nhw fel petaent yn credu bod y ddau beth hynny'n gydnaws. Dydw i ddim yn credu hynny. Ond maen nhw'n dangos bod yna rywfaint o newid meddwl, fel y soniodd, oherwydd y ffaith bod pobl yn cymudo llai i'r gwaith ac mae hynny'n debygol o barhau. Felly, byddwn yn croesawu'n fawr newid bwriad ar ran Llywodraeth y DU. Rwy'n credu ein bod wedi bod yn eithaf cyson yn ein dull ni o weithredu: rydym wedi nodi strategaeth drafnidiaeth i Gymru, sydd ag ymrwymiad i newid dulliau teithio, ac mae hynny'n gofyn am newid adnoddau a phwyslais.
Nid ydym yn rhoi'r gorau i adeiladu seilwaith—o ran ei bwynt am yr effaith economaidd—dim ond adeiladu seilwaith gwahanol yr ydym, seilwaith sy'n gallu gwrthsefyll y newidiadau yn sgil newid hinsawdd, y mae pob plaid yn dweud ei bod am fynd i'r afael â nhw. Ond eto, pan ddaw'n fater o wneud y dewisiadau anodd sydd eu hangen i wneud hynny'n real, mae pobl yn ailfeddwl. Ni wnawn ni hynny.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad. Dwi'n hapus i gytuno â phrif egwyddorion y datganiad hwnnw a'r amcanion sydd ynddo fe o ran mynd i'r afael â heriau enfawr newid hinsawdd. Ond mae'n rhaid i fi fynegi fy siom heddiw ar ran pobl Llandeilo gyda'ch datganiad chi, sydd yn atal y gwaith ar adeiladu ffordd osgoi i'r dref. Fel rhywun sydd yn byw rhyw ddwy neu dair milltir o Landeilo ac yn siopa a chymdeithasu yn y dref, dwi'n gwybod yn iawn pa mor siomedig fydd pobl y dref ar glywed y newyddion heddiw.
Fel rydych chi'n gwybod, mae gan Landeilo lefelau uchel iawn o lygredd aer, sydd yn uwch na'r safonau derbyniol. Ac fe glywais i chi'n sôn wythnos diwethaf am bwysigrwydd cael Deddf aer glân, a dwi'n llwyr gytuno â hynny. Ond, mae'r ffordd drwy ganol Llandeilo yn beryglus. Hon yw'r brif ffordd, fel rydych chi'n gwybod, o dde-orllewin Cymru at yr A40, sydd yn mynd ymlaen i ganolbarth Lloegr. A dwi wedi gweld cymaint o weithiau fy hunan lorris a bysys yn treial pasio'i gilydd, un yn gorfod mynd ar ben y pafin er mwyn pasio. Mae pobl Llandeilo ag ofn mynd i'r dref oherwydd y problemau hyn. Ffordd yw hi a gafodd ei chynllunio'n wreiddiol ar gyfer ceffyl a chart, nid ar gyfer HGVs a bysys. A does dim ffordd i ledaenu'r heol yna o gwbl.
Nawr, dwi'n derbyn yn llwyr fod angen inni bwyllo i ystyried sut i leihau ein defnydd o geir a mynd i'r afael â heriau newid hinsawdd, yn arbennig, fel dywedoch chi, mewn perthynas â phrojectau newydd. Ond, dyw ffordd osgoi Llandeilo ddim yn broject newydd.
Dirprwy Weinidog, byddwch yn ymwybodol nad yw'r angen am ffordd osgoi yn Llandeilo yn rhywbeth diweddar; mae pobl Llandeilo wedi bod yn gweiddi am hyn ers dros 50 mlynedd. Mae'r achos yn fy marn i yn glir; mae wedi'i ennill. Yn wir, cytunodd Llywodraeth Cymru yn 2016 i ariannu'r ffordd osgoi hon fel rhan o gytundeb pecyn y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru ar y pryd. Ers hynny, rydym wedi cael nifer o astudiaethau ac ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru, hyd yn oed mor ddiweddar â dwy flynedd yn ôl. Ond yn hytrach na chyflawni, rydym wedi gweld oedi dro ar ôl tro, gyda'r cyhoeddiad y llynedd y byddai'n cael ei ohirio tan 2025. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn siom arall i'r dref a'i phobl unwaith eto.
Felly, y cwestiwn: beth yw eich neges i bobl Llandeilo heddiw, sydd wedi cael eu gadael lawr eto gan y Llywodraeth, a sut ŷch chi'n bwriadu cynllunio i gwrdd â'u gobeithion nhw o safbwynt aer glân yn y dref, a diogelwch i draffig a phobl sydd yn cerdded ar y pafin yn y dref hefyd? Diolch yn fawr.
Diolch. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn gweithredu'n gyson. Rydym yn dweud bod angen i bob cynllun nad yw'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd fod o fewn cwmpas yr adolygiad, oherwydd mae angen i'r adolygiad wneud cyfres o ddyfarniadau ynghylch pryd y mae cynlluniau ffyrdd yn ateb cywir i broblemau yn y dyfodol. Rwy'n credu y byddai'n edrych yn rhyfedd iawn pe byddem wedi hepgor Llandeilo o'r adolygiad Cymru gyfan a byddwn i yn sicr wedi codi rhai cwestiynau.
Sonioch am yr astudiaethau yr ydym wedi mynd drwyddynt. Y ffordd y mae dull WelTAG yn gweithio yw peidio â dechrau'r broses gyda ffordd mewn golwg; bydd yn dechrau'r broses gyda phroblem drafnidiaeth mewn golwg ac yn gweithio drwy'r broblem drafnidiaeth honno. Yn rhy aml, mae awdurdodau lleol wedi mynd drwy'r broses hon—ymwelais â Phendeulwyn ym Mro Morgannwg y bore yma; dyna enghraifft arall, ffordd nad yw'n cael ei datblygu mwyach—lle mae pobl yn dechrau'r broses honno gyda barn a bennwyd ymlaen llaw, 'Rydym eisiau ffordd', heb fynd drwy'r broses yn ddiffuant o fynd i'r afael â'r problemau sy'n gyson â Deddf cenedlaethau'r dyfodol, sy'n gyson â'n hallyriadau newid hinsawdd, i fynd i'r afael â'r broblem. Efallai y gellir ymdrin â'r broblem mewn dulliau eraill heblaw adeiladu ffordd.
Yr hyn yr wyf wedi'i ddweud yn achos Llandeilo yw bod proses cam 2 WelTAG bron â'i chwblhau. Nid wyf yn mynd i atal y broses honno, er bod yr adolygiad yn cael ei wneud; rwy'n mynd i adael iddo gyrraedd y pwynt penderfynu nesaf, ac yna fe fyddwn yn disgwyl rhai argymhellion tymor byr gan WelTAG ynghylch gwelliannau y gellir eu gwneud yn fuan yn Llandeilo i helpu i liniaru'r sefyllfa. Rwy'n gyfarwydd iawn â hi, ac mae gennyf gydymdeimlad mawr â phobl y dref. Mae'n werth nodi nad oes barn unfrydol yn y dref ynghylch pa mor ddymunol yw ffordd osgoi, ond yn sicr mae barn unfrydol bod problem yn y dref, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Felly, rwy'n credu y byddwn yn gadael i WelTAG orffen ei broses, byddwn yn edrych ar yr hyn y mae'n ei gynnig, a byddwn yn cefnogi ac yn ariannu'r rheini. Yna, fel rhan o'r adolygiad ehangach, un o'r cwestiynau i'r panel pan fydd achosion fel Llandeilo—ac mae achosion yn fy etholaeth i lle mae galw am ffyrdd osgoi i fynd i'r afael ag ansawdd aer; achosion, rhaid imi ddweud, yr wyf wedi dadlau yn eu herbyn ar sail newid hinsawdd, a chredaf ei bod yn bwysig bod yn gyson—yw, ai ffordd yw'r ateb cywir mewn achosion o ansawdd aer. Mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn disgwyl i'r panel roi barn arno yn achos Llandeilo.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Nodaf eich sylwadau ar ffyrdd yn y dyfodol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau a phrofion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru y gall y panel eu pennu, felly a allech roi unrhyw gyd-destun ehangach inni, gan ychwanegu at eich atebion cynharach i Delyth Jewell a Cefin Campbell, ynghylch yr hyn y gellid ei ystyried yn ffordd dda sy'n addas ar gyfer buddsoddiad?
Yn ail, nodaf eich sylwadau am wella ac integreiddio'r ddarpariaeth bysiau'n well. A allwch ddarparu rhagor o wybodaeth am sut y gallwn sicrhau ein bod yn cyflawni'r amcan hwn, gan ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig sy'n addas i'r diben mewn gwirionedd ac a fydd yn annog pobl i deithio ar fysiau? Derbyniaf eich pwynt bod y rhan fwyaf o deithiau yng Nghymru dan 5 milltir, ond os yw'r 5 milltir hynny i fyny'r allt, ar ffyrdd serth fel Rhiw'r Mynach yn Aberdâr neu Heol Darran yn Aberpennar, gyda dau neu dri bag o siopa, yna mae mwy o rwystrau i deithio llesol i lawer, ac ymddengys mai bysiau fyddai'r ateb mwyaf priodol.
Ar y pwynt olaf hwnnw, byddwn yn nodi, 50 mlynedd yn ôl, roedd gennym lefelau sylweddol uwch o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, ac nid yw'r bryniau wedi ymddangos yn sydyn yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Credaf mai'r hyn sydd wedi newid yw ein hagweddau, ein disgwyliadau a'n harferion, a dyna'r her i ni, o ran newid ymddygiad. Nid oes un ateb i fynd i'r afael ag allyriadau carbon ym maes trafnidiaeth; mae cyfres o atebion. Rwy'n credu ein bod wedi gweld drwy'r cynnydd mewn gweithio o bell, un ateb nad oeddem yn credu oedd ar gael inni—i leihau'r angen i deithio yn y lle cyntaf, a chreu canolfannau cydweithio fel sydd gennym ar draws y Cymoedd, drwy dasglu'r Cymoedd, fel rhan o'n prosiect ehangach o dreialu gwahanol ddulliau fel nad oes raid i bobl wneud teithiau cymudo hir bob dydd.
O ran trafnidiaeth gyhoeddus, mae angen cyfres ddeddfwriaethol o gynigion ar waith, mae angen inni edrych eto ar y cymhorthdal a'r trefniadau masnachol, ac mae angen inni edrych ar brisiau tocynnau. Mae angen inni wneud llawer iawn. Mae gan brosiect Fflecsi yr ydym wedi bod yn ei dreialu yng Nghasnewydd, sef bysiau sy'n ymateb i'r galw, botensial gwirioneddol. Un o'r anawsterau sydd gennym o ran bysiau yw bod bysiau wedi dod yn fater o gyfiawnder cymdeithasol yn ogystal â mater newid hinsawdd neu drafnidiaeth. Mae arolygon Trafnidiaeth Cymru yn dangos nad oes gan 80 y cant o deithwyr bysiau ddewis arall heblaw defnyddio'r bws, ac mae arnaf ofn, oherwydd cyfeiriad y polisi trafnidiaeth dros gyfnod hir, fod bysiau wedi dod yn bethau arbennig i bobl nad oes ganddyn nhw'r dewis. Maen nhw wedi bod ar gyfer pobl ar incwm is a phobl hŷn, ac mae angen i fysiau fod ar gyfer pawb. Credaf fod gan y model sy'n ymateb i'r galw gyfle i ddenu pobl newydd i deithio ar fysiau na fyddent fel arall wedi meddwl bod y bysiau ar eu cyfer nhw. Credaf fod hynny'n rhan o'n her ni.
O ran y cwestiwn cyntaf—i gwblhau fy nhaith am yn ôl drwy'r pwyntiau a wnaed—y cwestiwn ynghylch beth yw ffordd dda, fel y dywedodd Vikki Howells, mi gredaf, ni fyddwn i'n ei roi felly. Pryd mae ffordd yn ateb cywir? Nid oes gennyf farn benodedig. Mae'n rhywbeth i'r arbenigwyr ar y panel ei gynnig, oherwydd mae angen help arnom o ran hynny. Dyna pam yr ydym wedi sefydlu'r prosiect hwn. Rwy'n glir bod gan ffyrdd ran i'w chwarae yn ein system drafnidiaeth. Rwy'n credu'n gryf nad ydym wedi bod yn cynnal y ffyrdd presennol sydd gennym yn ddigon da. Unwaith eto, clywodd yr ymchwiliad, y credaf iddi eistedd arno gyda'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn y Senedd ddiwethaf, lawer o dystiolaeth a gwnaeth argymhellion ar gyflwr ein ffyrdd. Rwy'n credu y dylem fod yn gwario mwy o arian ar gynnal a chadw'r hyn sydd gennym, ond yna barhau i adeiladu ffyrdd pan fo hynny'n angenrheidiol. Y cwestiwn pryd y mae hynny'n angenrheidiol yw'r cyngor rwy'n ei geisio gan y panel hwn.
Wrth gwrs, mae tagfeydd traffig ei hun yn llygru, a bydd pobl, sydd â mwy o ddewisiadau nag a oedd ganddyn nhw 50 mlynedd yn ôl, yn parhau i ddefnyddio ceir oherwydd cyfleustra, angenrheidrwydd, tywydd, ardal neu ryddid y ffordd yn unig. Fel y dywedwch, rydych yn mynd i oedi pob cynllun ffordd newydd wrth ichi adolygu eich ymrwymiadau presennol, felly fel y dywedwch, nid cau'r drws yn llwyr yw e'—oedi yw e'. Wrth gwrs, bydd ceir y dyfodol yn gerbydau gwahanol, yn fwy ecogyfeillgar, gyda thechnoleg wahanol iawn, felly nid yw'n fater o gyfnewid, o blaid neu yn erbyn yr amgylchedd. Mae'n dechnoleg wahanol, opsiynau gwahanol, dewisiadau gwahanol yn y dyfodol.
Yn 2007, nododd ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru wyth dewis ar gyfer lliniaru tagfeydd traffig yn croesi yn ôl ac ymlaen o Ynys Môn, yn cynnwys pont newydd. Codais hyn gyda'r Prif Weinidog blaenorol bedair blynedd yn ôl yn y fan hon, ym mis Mehefin 2017. Dyma a ddywedais:
'yn amlwg, mae tagfeydd ar bontydd presennol Menai a Britannia wedi bod yn broblem ers blynyddoedd lawer. Bu degawd ers i adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nodi wyth opsiwn, gan cynnwys pont newydd, ond ni aeth hynny ymlaen i gyflawniad. Dywedasoch fis Mai diwethaf'— yn 2016—
'y byddech chi’n addo gwneud y drydedd bont fel eich blaenoriaeth ar gyfer y gogledd pe baech chi’n ffurfio Llywodraeth ac, wrth gwrs, cyhoeddodd eich Llywodraeth cyn y Nadolig'— yn 2016—
'ei bod wedi penodi ymgynghorwyr i edrych ar lwybrau ar gyfer pont newydd arfaethedig i Ynys Môn, a allai ddechrau erbyn 2021 os bydd yn cael ei chymeradwyo.'
Gofynnais iddo
'roi sicrwydd nad ydym ni’n mynd i gael ailadroddiad o 2007 pan gawsom sicrwydd tebyg ar ôl i adroddiad a gomisiynwyd gael ei gynhyrchu ar gyfer Llywodraeth Cymru a’ch bod yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd'.
Atebodd y Prif Weinidog ar y pryd:
'Rydym ni wedi penodi Aecom i gefnogi ein cam nesaf o'r gwaith datblygu. Bydd hynny'n arwain at gyhoeddi llwybr a ffefrir ym mis Mai 2018. Ein nod yw gweld trydedd bont Menai yn agor yn 2022.'
Roedd hynny'n addewid bedair blynedd yn ôl. Pa mor sicr yw addewidion heddiw, neu a oes gennych rywbeth i'w ddweud wrthym am groesfan Menai?
Yn olaf, wrth siarad yn y fan hon fis diwethaf, galwais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei safbwynt presennol ynghylch coridor sir y Fflint ar yr A55/A494/A548. Cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru yn 2017 ei bod wedi penderfynu ar ddewis llwybr coch sir y Fflint i'r A55 yn Llaneurgain. Yn dilyn hynny codais bryderon etholwyr ynglŷn â hyn gyda chyn-Weinidog yr economi droeon, gan dynnu sylw at faterion fel effaith amgylcheddol ar gynefinoedd, dolydd a choetir hynafol. Fis Medi diwethaf, dywedodd eu bod yn bwriadu cynnal rhai ymchwiliadau amgylcheddol ar hyd y llwybr a ffefrir yn nhymor yr hydref 2020. Fis Hydref diwethaf, dywedodd, 'Rydym yn parhau â'r cam datblygu nesaf ar wella coridor sir y Fflint, ac ar hyn o bryd rydym yn caffael cynllunydd i ddatblygu cynllun y cynigion yn fanylach'. Mae'n swnio fel bod llawer o arian wedi'i wario.
Fis Rhagfyr diwethaf, dywedodd wrthyf mai'r llwybr hwn oedd y mwyaf addas ar gyfer yr her a wynebwn yn yr ardal benodol honno o Gymru. Yn bersonol, rwy'n gwrthwynebu'r llwybr coch ac rwy'n ddiolchgar pe bai'r oedi hwn yn arwain at ganslo'r llwybr hwnnw mewn gwirionedd. Ond, serch hynny, yn gynharach eleni cyn yr etholiad, roeddwn yn bresennol mewn sesiwn friffio gyda swyddogion trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, a ddywedodd wrthyf fod rhagolygon traffig Llywodraeth Cymru ar gyfer coridor sir y Fflint wedi cynyddu, i fyny ac i fyny. Nid oeddent yn mynd i fynd tuag yn ôl, pa senario bynnag yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i fodelu. Felly, pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i ddewisiadau eraill i ymdrin â'r cynnydd hwnnw mewn traffig a ragwelir gan Lywodraeth Cymru?
Fel y dywedodd Mark Isherwood, mae wedi gwneud yr achos yn erbyn y llwybr coch yn gyson ac, fel y dywed yr hen ddywediad, ni fydd rhai pobl yn fodlon derbyn 'ie' fel ateb. Rydym bellach wedi ymateb i hynny drwy rewi'r cynllun a'i adolygu. Byddwn i wedi tybio y byddai wedi croesawu hynny. Rwy'n gwybod nad yw'n un i ganmol Llywodraeth Cymru yn rhwydd, ond roeddwn i'n credu bod hynny'n rhywbeth y byddai ychydig yn fwy graslon yn ei gylch. Mae'n iawn; mae'r problemau'n parhau. Mae hyn yn wir ar draws Cymru gyfan. Mae'r ffyrdd hyn wedi'u datblygu oherwydd bod problemau, ac os na fydd ffyrdd yn ateb i bob un ohonyn nhw, yna mae angen inni edrych ar atebion eraill. Dyna'r her sydd ger ein bron, a dyna'n rhannol yr her yr ydym yn mynd i'w roi i'r comisiwn er mwyn cynnig atebion iddo.
O ran ail groesfan Menai, rhan allweddol o'r achos—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf; trydedd groesfan Menai. Rydym yn cael anhawster dod i gonsensws ar faint o groesfannau sydd ar y Fenai. O ran croesfan Menai—gadewch inni ddweud hynny a bod yn amwys ynglŷn â nifer y darnau—rhan allweddol o'r achos dros hynny yn amlwg oedd ymdrin â'r traffig ar gyfer yr orsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa a ragwelwyd. Fel y gwyddom, yn anffodus nid yw hynny'n mynd i ddigwydd nawr, ac effeithiwyd ar yr achos o blaid y ffordd honno oherwydd y newid hwnnw mewn amgylchiadau. Fel y dywedais yn y datganiad, mae angen adolygu pob cynllun nad yw ar waith ar hyn o bryd, ac mae angen datblygu cyfres o fetrigau i benderfynu ar y rhai a ddylai fynd ymlaen a'r rhai na ddylent fynd ymlaen. Yn y cyfamser, gallwn ailddyrannu rhywfaint o'r arian hwnnw tuag at gynnal a chadw ffyrdd a gwella trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, gellir ymdrin â'r problemau a nodwyd gan Mark Isherwood mewn ffyrdd eraill.
Mae gwaith comisiwn Burns yng Nghasnewydd wedi bod yn eithaf addysgiadol yn hyn o beth. Roedd llawer yn glir iawn o'r farn mai'r unig ateb i ymdrin â'r tagfeydd hynny oedd traffordd drwy wlyptiroedd Gwent, tra bod gwaith manwl comisiwn Burns yn dangos, mewn gwirionedd, y gellir ymdrin â'r traffig hwnnw drwy greu system drafnidiaeth gyhoeddus fodern am hanner y pris. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo drwy fwrdd cyflawni a thrwy gydweithio'n agos â chyngor Casnewydd, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru. Credaf fod hynny'n darparu glasbrint ar gyfer rhannau eraill o Gymru lle ceir tagfeydd, a lle mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis amgen realistig i lawer o'r teithiau hynny—fel y dywedais yn fy natganiad i, nid i bob unigolyn, nid i bob taith, ond i nifer digonol i wneud gwahaniaeth i'r broblem.
Dirprwy Weinidog, fe wyddoch y bydd cynnwys y datganiad hwn yn cael effaith fawr ar drigolion yn fy etholaeth i, yn enwedig y plant, y mae'r llygredd aer yr oedd y buddsoddiad hwn i fod mynd i'r afael ag ef yn effeithio'n sylweddol arnyn nhw. A gaf i ofyn ichi, Gweinidog, pa mor ffyddiog ydych chi y bydd canlyniad yr adolygiad yn mynd i'r afael â hyn ac y bydd unrhyw fesurau yn y dyfodol yn cael effaith fesuradwy ar lygredd aer ar ffyrdd yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Yn ail, Gweinidog, fe wyddoch fod angen i bobl mewn busnesau yn fy etholaeth i deithio ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr i weithio—er mwyn teithio i'r gwaith, a hefyd i gysylltu'n effeithlon â'u cadwyn gyflenwi ar draws y rhanbarth hwnnw. A gaf i ofyn ichi, pa mor ffyddiog yr ydych chi y bydd yr adolygiad hwn yn ateb y cwestiynau sydd gan y busnesau hynny wrth ystyried penderfyniadau buddsoddi pwysig yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
O ran yr effaith ar fusnes, un o'r problemau sydd gan fusnesau yw tagfeydd lle mae gennych chi bobl yn defnyddio ceir i wneud teithiau y mae modd eu gwneud drwy ddulliau eraill, ond yn hytrach maen nhw'n tagu'r rhwydwaith ffyrdd. Felly, os cawn hyn yn iawn, gallwn dynnu traffig nad oes angen iddo fod ar y ffordd oddi yno, lle mae dewisiadau ymarferol eraill. Ailadroddaf y ffigur bod dwy ran o dair o'r holl deithiau ar gyfer pellteroedd o dan 5 milltir; nid y teithiau busnes cymhleth, pellter hir hyn y clywn amdanyn nhw'n aml yw'r rhain. Mae'n ymwneud â rhyddhau'r ffordd ar gyfer y teithiau hynny lle nad oes dewis arall, heb fod traffig y gellid ei ddadleoli'n achosi oedi. Felly, rwy'n credu bod hynny'n beth pwysig i'w ddweud.
O ran ansawdd aer, dyma un o'r materion y bydd yn rhaid i'r Senedd hon ei wynebu: beth sy'n mynd i mewn i Fil aer glân, pa mor uchelgeisiol a beiddgar yr ydym am fod ynglŷn â hynny, pa becyn o fesurau sy'n gwella ansawdd aer. Mae yna weledigaeth ar gyfer adeiladu ffyrdd osgoi ledled Cymru, er mwyn symud y broblem o un lle i'r llall. Nid wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr fod hynny'n ymdrin â mater ansawdd aer. Yn amlwg, wrth i allyriadau pibellau mwg ostwng, wrth i geir gael eu trydaneiddio fwyfwy, bydd hynny'n cael effaith sylweddol ar ansawdd aer lleol yng nghanol trefi, ac mae newid ymddygiad yn rhan bwysig iawn ohono hefyd. Os gallwn sicrhau newid mewn dulliau teithio, gallwn leihau traffig, gallwn leihau llygredd a gallwn leihau tagfeydd. Gallwn wneud hynny'n gyflymach nag y gallwn drwy ymyriadau peiriannau trwm, a gallwn ei wneud yn rhatach, a lluosogi manteision eraill hefyd. Felly, rwy'n credu bod yna gymysgedd cymhleth yma. Rwy'n credu bod y dewis diofyn dibynadwy, sef y ffordd orau o ymdrin ag ansawdd aer yw 'ffordd', yn cael ei ddewis yn rhy aml, ac rwy'n credu bod angen edrych yn fwy manwl ar hyn. A gobeithio mai dyna un o'r pethau y bydd yr adolygiad yn ymdrin ag ef, oherwydd rwy'n cydnabod y pwynt yn llwyr, ac fel y dywedais, rwy'n gyfarwydd ag ef yn fy etholaeth i fy hun. Mae ceir yn llygru. Maen nhw'n lladd. Maen nhw'n cynhyrchu aer sy'n niweidio iechyd pobl, ac mae angen inni fynd i'r afael â hyn. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth yr ydym yn dal i geisio'i ddeall, sut orau i fynd i'r afael â hyn—ac rwy'n gobeithio y bydd yr adolygiad yn ein helpu ni gyda hyn.
Diolch yn fawr iawn Dirprwy Weinidog am eich datganiad y prynhawn yma, a gobeithio nad tagfa draffig a achosodd eich oedi y prynhawn yma, gan y byddai hynny ychydig yn eironig. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi bod angen y rhan fwyaf o'r ffyrdd, ac ni fyddwn yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy wahardd adeiladu ffyrdd yn unig. Er mwyn lleihau allyriadau carbon deuocsid, rhaid inni edrych ar y teithiau sy'n digwydd ar y ffyrdd a, lle bynnag y bo modd, edrych ar deithio llesol.
Collodd fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd lwybr teithio llesol hanfodol pan chwalwyd pont Llannerch yn ystod Storm Christoph, gan ddileu'r unig lwybr teithio llesol hyfyw rhwng Trefnant a Thremeirchion. Dychmygwch y siom pan ddywedodd Llywodraeth Cymru wrth y cymunedau lleol nad oedd arian ar gael i ailosod y bont, sy'n golygu bod yn rhaid i drigolion Trefnant, sy'n mynd tua'r gorllewin ar yr A55, wneud dargyfeiriad o 2 i 3 milltir er mwyn cyrraedd adref, sydd yn ei hanfod yn achosi mwy o lygredd i'r amgylchedd. Dirprwy Weinidog, a wnewch chi ailystyried y penderfyniad hwnnw nawr a sicrhau y rhoir adeiladwaith sy'n fwy abl i wrthsefyll y stormydd difrifol sydd bellach yn fwy tebygol oherwydd newid hinsawdd i gymryd lle Pont Llannerch? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Mae gen i ofn nad ydw i'n gyfarwydd â'r sefyllfa yn Nhrefnant, ond rwy'n hapus iawn i edrych arni a chael sgwrs bellach gyda'r Aelod. Rydym yn darparu'r buddsoddiad mwyaf erioed eleni ar gyfer seilwaith teithio llesol—£75 miliwn, sy'n fwy y pen nag unrhyw ran arall o'r wlad—ac mae arian ar gael eleni, yn barhaus, i awdurdodau lleol wneud cais am gynlluniau a fydd yn creu teithiau lleol fel y gall pobl wneud teithiau bob dydd, o un pen i'r llall, ar droed ac ar feic, ar gyfer yr holl deithiau hynny, y gwyddom amdanyn nhw, o dan 5 milltir, sydd i lawer o bobl yn ddewis amgen realistig, yn enwedig teithiau i'r ysgol. Felly, fel y dywedais, rwy'n hapus i edrych yn fanwl ar y cynllun ac i gael sgwrs bellach.
Gweinidog, rwyf mor falch ag unrhyw un arall bod Llywodraeth Cymru yn rhoi newid yn yr hinsawdd wrth wraidd ei rhaglen lywodraethu. Rhaid i benderfyniadau a wneir heddiw ystyried yr effaith y byddant yn ei chael ar genedlaethau yfory. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau bod pob agwedd a goblygiadau'n cael eu hystyried wrth benderfynu a fydd prosiectau adeiladu ffyrdd yn mynd rhagddynt, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Jack Sargeant yn gynharach. Yn benodol, mae iechyd y cyhoedd, yng ngoleuni lefelau ansawdd aer gwael mewn ardaloedd preswyl, yn bryder i mi—er enghraifft, ar hyd yr A494 yn sir y Fflint. A fydd pryderon iechyd y cyhoedd yn ganolog i'r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol?
Pryder arall i mi, yn dilyn y datganiad hwn, yw ein bod ar hyn o bryd mewn sefyllfa lle nad yw'r ffyrdd presennol yn addas at y diben, yn dilyn toriadau ariannol cyhoeddus i awdurdodau lleol o ganlyniad uniongyrchol i'r 10 mlynedd diwethaf o gyni'r Torïaid. Gwn fod gan sir y Fflint ôl-groniad o £40 miliwn, ac mae ôl-groniad Wrecsam ar gyfer atgyweirio ffyrdd yn £60 miliwn, felly mae angen i'r £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru, er iddo gael ei groesawu'n fawr y llynedd, gynyddu'n sylweddol, dim ond i ymwneud â'r gwaith cynnal a chadw ffyrdd presennol. Mae angen buddsoddi yn ein priffyrdd ledled y gogledd, ynghyd â theithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.
A wnaiff y Gweinidog ymrwymiad y bydd cyllid sydd wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau adeiladu ffyrdd yn y gogledd, gan gynnwys llwybr coch coridor sir y Fflint a thrydedd groesfan Menai, yn dal i gael ei fuddsoddi yn y gogledd, boed hynny ar gyfer buddsoddi mewn cynnal a chadw ac addasu priffyrdd presennol neu ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus? A wnewch chi roi gwybod imi os gwelwch yn dda a fyddech yn ystyried gwneud yr A470 yn gefnffordd yn sgil y ffaith nad yw coridor sir y Fflint, y llwybr coch yn mynd yn ei flaen? Diolch.
Diolch. Rwy'n sicr yn cytuno bod angen inni wario mwy o arian yn cynnal y rhwydwaith priffyrdd. Y rhwydwaith priffyrdd yw'r ased mwyaf sydd gan Lywodraeth Cymru, y rhwydwaith yn ein perchnogaeth ni ein hunain, ac yn amlwg, mae hynny hefyd yn berthnasol i'r rhwydwaith ffyrdd sy'n eiddo i lywodraeth leol hefyd. Rwy'n credu bod angen inni wario mwy o arian ar ofalu amdano. Dyna un o'r canlyniadau a fydd, gobeithio, yn deillio o'r cyhoeddiad heddiw ac o'n hymrwymiad yn strategaeth drafnidiaeth Cymru. Felly, rwy'n cytuno yn llwyr ar hynny.
Gobeithio fy mod wedi ymdrin â llawer o'r pwyntiau y mae Carolyn Thomas yn eu gwneud wrth ymateb i Jack Sargeant ac i eraill. Rydym wedi ymrwymo i helpu pobl i deithio mewn ffyrdd sydd yn fanteisiol i'w hiechyd a'r amgylchedd, sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd ond sydd hefyd yn ateb y dibenion eraill y mae trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth yno i'w cyflawni. Ond ni all yr un ohonom osgoi'r ffaith bod trafnidiaeth yn cyfrif am 17 y cant o'n holl allyriadau carbon, ac os yw pawb yn y Siambr hon wedi ymrwymo i gyflawni sero net erbyn 2050 ar yr hwyraf, mae'n rhaid i'r 17 y cant hynny fod yn rhan o'r gymysgedd ohonom sy'n penderfynu ar y ffordd orau o wario'r hyn sydd gennym wrth gefn. Ac nid yw'r wyddoniaeth ond yn mynd i fod yn fwy heriol, gadewch i ni fod yn glir ynglŷn â hynny. Mae'n ddigon posibl y bydd yn rhaid dod â tharged 2050 ymlaen mewn ymateb i'r wyddoniaeth honno, ac mae angen i ni fod yn barod i wynebu'r ffaith y bydd angen i benderfyniadau trafnidiaeth a'r ffordd yr ydym bob amser wedi gwneud pethau, newid yng ngoleuni'r wyddoniaeth honno a'r dystiolaeth honno. A dyna y mae'r adolygiad hwn i fod i roi cychwyn arno, er mwyn inni allu cael trafodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwneud dewisiadau gwybodus ynghylch pryd mai'r dewis cywir yw ffordd a phryd mai'r dewis cywir yw rhywbeth arall.
Diolch am y stori newyddion da y gellir yn amlwg ei chyflawni, oherwydd bod dwy ran o dair o'r holl deithiau yn llai na phum milltir, mae hyn yn golygu y gall y rhan fwyaf ohonom feicio'r daith fer honno, ac i'r rheini sy'n byw yn ucheldiroedd fy etholaeth, mae gennym feiciau trydan erbyn hyn, nad oedd gennym 50 mlynedd yn ôl, felly dyna stori newyddion da arall.
Hoffwn eich holi am rywbeth ychydig yn wahanol, sef bod llawer o sôn wedi bod yn ystod y 48 awr ddiwethaf am brinder gyrwyr lorïau ledled Prydain a'r 13,000 o yrwyr lorïau sydd ar goll sydd wedi mynd yn ôl i rannau eraill o Ewrop oherwydd yr amgylchedd gelyniaethus a grëwyd gan Lywodraeth y DU nad yw'n credu bod y rhain yn bobl sy'n llenwi bylchau sgiliau hanfodol. Yn amlwg, mae cerbydau nwyddau trwm yn swnllyd, yn beryglus ac yn gostus o ran cynnal a chadw ffyrdd, ac yn sicr nid yw hynny'n cael ei adlewyrchu yn nhreth cerbydau nwyddau trwm. Felly, tybed a fydd y panel adolygu ffyrdd arbenigol yn edrych ar sut yr ydym yn defnyddio ffyrdd i ddosbarthu nwyddau ac a allem greu rhwydwaith dosbarthu prif ganolfan a lloerennau mwy rhesymegol er mwyn i'r cerbydau nwyddau trwm allu gollwng eu nwyddau mewn cyfnewidfeydd ffyrdd pwysig neu farchnadoedd cyfanwerthu er mwyn i gerbydau trydan bach allu cwblhau rhan olaf y daith, neu, yn wir, feiciau mewn rhai achosion. Tybed a allech chi ddweud wrthym ni a yw hynny'n rhywbeth y gallech chi ddechrau ei sefydlu fel mater o frys.
Diolch. Nid yw hynny'n dod o fewn cylch gwaith yr adolygiad o ffyrdd, ond mae'n dod o fewn strategaeth drafnidiaeth Cymru a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth, ac rydym yn edrych ar y rhwydwaith dosbarthu milltir olaf hwnnw a'r potensial i wneud pethau'n wahanol. Ac fel rhan o'r cyllid eleni, rydym yn ariannu prosiect treialu sy'n defnyddio beiciau trydan, beiciau cargo yn Abertawe, Aberystwyth, y Drenewydd ac yng Nghaerdydd—yn enwedig beiciau wedi'u haddasu—i weld pa ran y gallan nhw ei chwarae. Oherwydd ceir tystiolaeth sylweddol i ddangos y gallan nhw gael effaith wirioneddol wrth fynd i'r afael ag ansawdd aer mewn trefi a dinasoedd ac effeithlonrwydd busnesau, oherwydd gallwch gyflawni'n llawer cyflymach gan ddefnyddio beic cargo trydan am y filltir olaf na phe baech yn rasio o amgylch y ddinas mewn fan wen. Felly, rwy'n credu bod beiciau trydan yn chwyldroadol, mewn trefi a dinasoedd o ran dosbarthu, ond hefyd mewn ardaloedd gwledig ar gyfer mathau eraill o deithiau.
Ac un peth nad ydym wedi'i drafod heddiw yn fanwl yw goblygiad y cyhoeddiad heddiw i ardaloedd gwledig. Ac rwy'n glir iawn bod angen i ardaloedd gwledig fod yn rhan o'r ateb. Bydd y dull y mae angen inni ei ddilyn mewn ardaloedd gwledig yn wahanol i'r dull a ddilynwn mewn ardaloedd trefol. Er hynny, mae'n amlwg bod modd cyflawni newid dulliau teithio mewn ardaloedd gwledig hefyd.
Gwnaethom rywfaint o waith, y gwnes i ei gyflwyno i arweinwyr awdurdodau lleol o ardaloedd gwledig ym mis Mawrth, fel rhan o strategaeth drafnidiaeth Cymru, yn edrych ar wledydd Ewrop a'u hardaloedd gwledig. Buom yn edrych ar sut y maen nhw, mewn amgylchiadau tebyg iawn—yn wir, weithiau'n fwy tenau eu poblogaeth na'n rhai ni—mewn rhai enghreifftiau, yn cael enghreifftiau llawer uwch o ddefnyddio bysiau, gwasanaethau llawer amlach, llawer mwy o ddefnydd o deithio llesol, yn rhannol drwy feiciau trydan, ond hefyd drwy lwybrau ar wahân. Felly, yn bendant mae elfen wledig i'n huchelgais o gyflawni newid dulliau teithio. Mae'n rhaid cael un. Mae'n un gwahanol, ond mae'r un mor bwysig, ac rydym wedi ymrwymo i wneud hynny hefyd.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog, a dyna'n gwaith ni wedi ei gwblhau am y diwrnod heddiw.