Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 23 Mehefin 2021.
Mae eraill wedi dadlau y prynhawn yma dros yr egwyddor o fysiau ac ariannu gwasanaethau bysiau, a threfnu a rheoli gwasanaethau bysiau. Ategaf bopeth a ddywedwyd wrth agor y ddadl hon gan fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies; rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cydnabod lle bysiau mewn polisi trafnidiaeth gyhoeddus ehangach. Yr hyn yr hoffwn ei wneud yw ceisio disgrifio sut y byddai hynny'n cael ei gynnwys o fewn ymagwedd ehangach y Llywodraeth. Ac rwy'n falch fod y Gweinidog yma—yn gorfforol yma, mewn gwirionedd—y prynhawn yma i allu gwrando ar y ddadl hon ac ymuno â'r ddadl.
O ran sut rydym yn darparu bysiau a gwasanaethau bysiau, mae'n amlwg y bydd newidiadau sylweddol ac mae angen newidiadau sylweddol am y rhesymau y mae llawer o bobl eisoes wedi'u rhoi; ni allwn barhau i reoli ein gwasanaethau heddiw ac yfory yn y ffordd y gwnaethom rai degawdau yn ôl. Ond mae angen inni fod yn ymwybodol hefyd o anghenion y bobl rydym yn eu gwasanaethu. Os edrychwch ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yng Nglynebwy dros y pythefnos diwethaf, byddwch wedi gweld gwasanaeth Fflecsi yn cael ei gyflwyno, lle rydych yn ffonio ac yn gwneud apwyntiad gydag ap i ddal bws ac yn y blaen, a chefnogais hynny. Hoffwn weld y gwasanaethau hyn yn cael eu hymestyn a'u datblygu, ond mae'n rhaid ei ddarparu. Ac nid yr anhrefn a welsom yng Nglynebwy dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf yw'r gwasanaeth y mae pobl Glynebwy ei angen. Lle rydym yn darparu gwasanaethau, mae angen inni sicrhau ein bod yn deall profiadau bywyd a phrofiadau byw y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny. Os ydych yn mynd â'ch plentyn i'r ysgol yng Nglynebwy, nid bws ymhen awr sydd ei angen arnoch, mae angen bws arnoch yn awr ac yna mae angen i chi ddychwelyd mewn hanner awr neu 20 munud. A dyna mae gwasanaeth bws trefol llawer byrrach yn gallu ei wneud. Efallai fod angen inni ystyried darparu gwasanaethau Fflecsi a bob dim ar rwydwaith gwasanaeth ehangach a mwy nag a geir o fewn amgylchedd tref fach, lle mae angen gwasanaethau bysiau ar gyfer teithiau byr sy'n deithiau mwy mynych, ond nid teithiau hwy, ac mae angen ichi ddychwelyd o fewn awr, a phethau felly. Felly, mae angen inni ddeall profiad byw pobl.
Wedyn, mae angen i'n Llywodraeth siarad â hi ei hun a chyda ni, gyda'n gilydd. Bydd y rheini ohonoch a oedd yn y Senedd ddiwethaf wedi diflasu arnaf yn sôn am yr angen—[Torri ar draws.] [Chwerthin.] A bod yn deg, roeddech wedi diflasu cyn imi godi ar fy nhraed. Ynglŷn â'r angen am wasanaethau i gysylltu lleoedd fel Blaenau Gwent ag ysbyty newydd y Faenor yng Nghwmbrân. A bydd llawer o bobl yma wedi clywed Gweinidogion yn ymateb gan ddweud y byddai hynny'n digwydd. Afraid dweud bod yr ysbyty wedi'i adeiladu, mae'r ysbyty wedi agor ac nid oes gennym wasanaethau bws i gysylltu'r bobl â'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom. Ac mae rhannau o fy etholaeth yn dal heb eu cysylltu â'r adnodd newydd gwych hwnnw.
Felly, mae gennych un rhan o'r Llywodraeth yn dweud, 'Byddwn yn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ac rydym am i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym am i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn wasanaeth y bydd pobl yn ei ddewis yn hytrach na'r car preifat', ac mae gennym ran arall o'r Llywodraeth yn darparu cyfleusterau newydd gwych sydd y tu hwnt i gyrraedd trafnidiaeth gyhoeddus a'r tu hwnt i gyrraedd y bobl sydd angen y gwasanaethau hynny. Ac mae angen cydgysylltu hynny. Mae arnaf ofn nad oes gennyf lawer o amynedd na chydymdeimlad â'r Llywodraeth ar hyn, oherwydd dywedwyd wrthynt amdano a dywedwyd wrthynt amdano bum mlynedd yn ôl. Ac er inni gael nifer o Weinidogion yn gwneud areithiau huawdl iawn—ac rydym yn edrych ymlaen at eich un chi y prynhawn yma, Weinidog—yr hyn na chawsom oedd gwireddu'r polisi ar lawr gwlad, ac o ganlyniad, rwy'n siarad ag etholwyr wythnos ar ôl wythnos am y methiant i ddarparu'r cysylltedd y maent ei angen ac y mae ganddynt hawl i'w ddisgwyl.
Rwyf am gloi drwy ddweud hyn: roedd dadreoleiddio bysiau gan Lywodraeth Thatcher yn y 1980au yn drychineb llwyr i bobl dlawd a bregus yn y wlad hon. Roedd yn drychineb llwyr i wasanaethau bysiau ac i gwmnïau bysiau hefyd. Rydym wedi gweld dinistrio gwasanaeth cyhoeddus o ganlyniad i bolisi Llywodraeth, Llywodraeth y DU, ac mae'n iawn ac yn briodol yn awr inni ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael inni er mwyn adfer gwasanaethau bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i wasanaethu anghenion pobl. Yr eironi yw, nid yn unig fod y Llywodraeth Dorïaidd, Llywodraeth Thatcher, wedi dinistrio'r gwasanaeth cyhoeddus, fe wnaethant ddinistrio sylfaen y diwydiant ei hun hefyd. Pe bai Darren yn mynd ar Google, byddai'n gwybod nad yw cwmnïau bysiau eu hunain yn gynaliadwy fel y mae pethau. Mae arnom angen gwasanaeth cynaliadwy. Mae arnom angen gwasanaeth sy'n cynnig cysylltedd. Ac mae arnom angen gwasanaeth, fel y dywedwyd yn gynharach, sy'n darparu cyfiawnder cymdeithasol i bobl ledled y wlad hon.