5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwasanaethau bws

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:55, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Cyn y pandemig COVID, roedd y defnydd o wasanaethau bysiau a mynediad atynt eisoes ar lwybr tuag at i lawr. Awgrymodd dadansoddiad yn 2018 fod y pellter a deithiwyd gan wasanaethau bysiau lleol wedi gostwng 20 y cant mewn 10 mlynedd. Yn wir, Cymru sydd wedi gweld y gostyngiad canrannol mwyaf mewn milltiroedd bysiau rhwng 2006-07 a 2016-17 o'i gymharu â gwledydd eraill y DU. Mae honno'n ffaith anffodus iawn. Felly, rwyf wrth fy modd fod yna gonsensws trawsbleidiol ar yr angen i ymgysylltu'n ystyrlon â'n cymunedau ledled Cymru ar strategaeth newydd ac i ail-lunio gwasanaethau bysiau i ddiwallu anghenion trafnidiaeth.

Mae darparwyr trafnidiaeth eu hunain yn sicr wedi ysgwyddo eu cyfrifoldeb yn ystod y pandemig hwn, ac rwy'n falch iawn o fy ngweithredwyr bysiau yn Aberconwy. Mae Alpine Travel wedi bod yn cynnig gwasanaeth trafnidiaeth cymunedol am ddim i alluogi pobl agored i niwed i gyrraedd y siopau, ac maent wedi bod yn barod eu cymwynas, yn casglu presgripsiynau er enghraifft. Dyna un enghraifft o'r angerdd sydd gan ein gweithredwyr bysiau yng ngogledd Cymru dros gysylltu cymunedau. Felly, credaf ei bod yn iawn inni roi'r gorau i ddifrïo'r sector hwnnw a siarad ar eu rhan mewn gwirionedd. Y Llywodraeth hon yng Nghymru sydd wedi gwneud cam â hwy, nid hwy eu hunain, na'r cymunedau.

Mae'r £37.2 miliwn yn y cytundeb gwasanaethau bysiau yn ddechrau da. Rwy'n croesawu'r ffaith bod gan y cynllun delerau sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion a blaenoriaethau lleol, gan gynnwys cefnogi teithiau dysgwyr i'r ysgol, cynyddu gwasanaethau mewn sefyllfaoedd lle mae'r galw'n fwy na'r capasiti, a chefnogi integreiddio ar draws y dulliau teithio. Yn wir, yn fy etholaeth i a'r etholaeth nesaf, gallai fod o fudd i ddyffryn Conwy a pharc cenedlaethol Eryri. Fel y mae llawer o'r Aelodau yma'n gwybod, caiff yr ardal ei llethu gan ymwelwyr sy'n teithio yn eu ceir eu hunain. Rwyf wedi ymgyrchu ers tro byd dros wasanaeth rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Manceinion i Flaenau Ffestiniog, ac integreiddio amserlennu gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau fel y gall twristiaid fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd o ddinasoedd i'r copa uchaf yng Nghymru a Lloegr.

Wrth gwrs, byddai hyn yn cyd-fynd â blaenoriaeth 2 'Llwybr Newydd' a'r ymrwymiad i ymestyn cyrhaeddiad daearyddol trafnidiaeth gyhoeddus i bob cymuned, yn enwedig yn y Gymru wledig. Yn wir, mae Aberconwy yn enghraifft wych o sut y gellir moderneiddio gwasanaethau, a sut y gwnaed hynny, i ateb y galw ar draws cymunedau gwledig. Mae gennym wasanaeth bws Fflecsi dyffryn Conwy. Yr hyn y mae'r ddarpariaeth hon yn ei wneud yw addasu llwybr y daith i godi a gollwng teithwyr yn unrhyw le o fewn parth dynodedig y Fflecsi. Nid wyf yn amau y byddai'n effeithio'n gadarnhaol ar genhadaeth pawb ohonom i gyflawni sero net.

Yn ddiweddar, cefais y pleser o ddysgu am y camau y mae Llew Jones International o Lanrwst yn eu cymryd i ddarparu teithiau glân, cynaliadwy a fforddiadwy. Er enghraifft, mae ganddynt ddau gerbyd hybrid sy'n lleihau'r defnydd o ddiesel oddeutu 65 y cant. Mae ganddynt gynlluniau cyffrous eraill, megis creu llwybr cyntaf TrawsCymru yng Nghonwy, a fydd â dau gerbyd cwbl drydanol. Gellid grymuso eu hymgyrch werdd drwy gynllun sy'n helpu gweithredwyr i fuddsoddi mewn bysiau trydan.

Nodais fod 'Llwybr Newydd' yn cynnwys ymrwymiad i addasu'r seilwaith presennol i newid hinsawdd drwy fynd i'r afael â materion fel llifogydd. Mae'r nod hwn yn ganmoladwy, ac rwyf am fanteisio ar y cyfle heddiw i dynnu sylw at y gwaith gwych a wnaed gan Network Rail i wella gallu gorsaf reilffordd Dolgarrog i wrthsefyll llifogydd. Os caf aros gyda'r enghraifft honno, gan fod cysgodfan fysiau ger yr orsaf hefyd, ac ar hyn o bryd rwy'n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ailagor y bont yn ddiogel, mae'n hanfodol uwchraddio'r llwybr sy'n arwain at y ganolfan drafnidiaeth fach. Byddai hyn yn cyd-fynd â'r ymrwymiad yn 'Llwybr Newydd' i uwchraddio'r seilwaith presennol i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol o ran hygyrchedd a diogelwch, ac mae'n dangos pa mor bwysig yw helpu trigolion i ddefnyddio cysgodfannau bysiau yn ogystal â bysiau.

Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y strategaeth yn cyflawni gwelliannau i wasanaethau bysiau a newidiadau cadarnhaol hefyd ar gyfer cerdded a beicio, gan fod y rheini ar frig eich hierarchaeth yn ogystal. Mae'n bryd gweld olwynion y strategaeth hon yn troi, felly rwy'n cefnogi galwadau am amserlenni ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag unrhyw un sydd am adfer darpariaeth dda o fysiau cymunedol ym mhob un o'n hetholaethau. Diolch.