Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 23 Mehefin 2021.
Ar draws fy rhanbarth i, Canol De Cymru, mae etholwyr di-ben-draw wedi bod mewn cysylltiad ar yr union fater hwn, ac mae'n amlwg fod gwasanaethau'n anghyson ledled Cymru. Ac er bod problemau'n gysylltiedig â'r pandemig wedi arwain at lai o wasanaethau a llai o gapasiti, y realiti yw bod y gwasanaethau bysiau yn gwbl annigonol cyn hynny hyd yn oed. Ni ddylid defnyddio COVID fel esgus. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau cynlluniau ac amserlenni manwl gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phryd y bydd gwelliannau'n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl, ac yn bwysicach, fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r rheini.
Os ydych yn berchen ar gar, a'ch bod wedi bwriadu defnyddio bws ar ddiwrnod penodol, mae iddo gael ei ganslo neu ei oedi yn anghyfleus ar y mwyaf. Ond i'r rhai nad ydynt yn berchen ar gar, neu nad ydynt yn gallu gyrru oherwydd oedran neu gyflwr meddygol, ac sy'n dibynnu ar fysiau i gyrraedd y gwaith, i apwyntiadau meddygol, i fynd i siopa, i fynd â'u plant i'r ysgol neu i gymdeithasu, gall effeithio'n ddifrifol ar eu bywydau. Ac er bod problem benodol gyda gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig, credaf fod angen inni fod yn onest fod hon yn broblem eang a hefyd yn effeithio ar bobl sy'n byw yn ein trefi a'n dinasoedd. Os ydym o ddifrif ynghylch mynd i'r afael â newid hinsawdd a chynorthwyo mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ni all hyn barhau.
I ddangos hyn, hoffwn ddefnyddio enghraifft o fy nghymuned fy hun ym Mhontypridd. Rwy'n byw yn ardal Graigwen, sydd 1 filltir o ganol y dref ond i fyny bryn serth iawn. Mae llawer o bobl oedrannus yn byw yn fy nghymuned, ac maent yn gwbl ddibynnol ar y bws i gyrraedd gwasanaethau sylfaenol. Cyn y pandemig, roeddem wedi bod yn galw am welliannau. Roedd y gwasanaeth bws bob awr yn annibynadwy, byddai'n gorffen am 5.30 p.m. bob dydd, nid oedd yn rhedeg ar ddydd Sul na gŵyl y banc ac nid oedd ychwaith yn cyrraedd pen y bryn i wasanaethu'r rhai sy'n byw ar y strydoedd ar ben uchaf yr ystâd. Roedd pobl yn cwyno wrthyf eu bod yn teimlo'n ynysig ac wedi eu cyfyngu i'w cartrefi, ac na allent ddibynnu ar y gwasanaeth bws. Roeddent hyd yn oed yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i dacsi i fynd â hwy i apwyntiadau meddygol pe bai'r apwyntiad yn gwrthdaro ag adeg cludo plant i neu o'r ysgol, ac roeddent yn bryderus pan fyddai'n rhaid iddynt fynd i rywle gan na allent fod yn sicr y byddai bws yn cyrraedd. Mae hyd yn oed y gysgodfan fysiau'n annigonol ac nid yw'n darparu cysgod rhag y glaw.
Fel y dywedais, dyma'r problemau roeddem yn eu hwynebu cyn y pandemig, ac nid ydynt yn unigryw i Graigwen. Mae problemau tebyg hefyd gyda'r gwasanaethau bysiau sy'n gwasanaethu cymunedau eraill ger y dref, megis Cilfynydd a Glyn-coch, sydd wedi gwaethygu'n raddol, gyda gwasanaethau'n cael eu canslo'n aml oherwydd prinder gyrwyr. Yn wir, ar 19 Mehefin, nid oedd gwasanaethau 109, 107 a 105 yn rhedeg o gwbl, heb unrhyw gyfathrebu â theithwyr. Rwyf wedi derbyn cwynion tebyg heddiw am bobl yn cael eu gadael yn yr orsaf fysiau ym Mhontypridd.
Cysylltodd un fam sy'n byw yng Nghilfynydd y bore yma, ar ôl clywed am y ddadl heddiw ar y newyddion, a rhannodd hyn gyda mi:
'Rwy'n dibynnu ar y gwasanaethau bws i gael fy merch i'r ysgol. Yn aml iawn, nid yw'r bysiau'n cyrraedd neu maent yn rhedeg yn hwyr. Arweiniodd hyn at wneud fy merch bron awr yn hwyr i'r ysgol.'
Rhannodd un arall, sydd hefyd yn byw yng Nghilfynydd, stori debyg, gan ddweud:
'Gan fy mod yn fam sengl sy'n gweithio, rwy'n dibynnu ar y bysiau i gyrraedd y gwaith i wneud shifft tra bod fy mhlant yn yr ysgol yn ogystal ag ar y penwythnos. Yn aml iawn, mae'r bws sydd wedi'i amseru i gyrraedd yr ysgol i'w casglu yn cael ei ganslo ac mae fy mhlant yn gorfod aros i mi gyrraedd. Mae hyn wedi golygu fy mod wedi gorfod caniatáu iddynt gerdded adref o'r ysgol yn gynt nag rwy'n gyfforddus i wneud gan nad yw'n bosibl cyrraedd yno mewn pryd oherwydd bod bysiau'n hwyr neu'n cael eu canslo mor aml.'
Rhannodd preswylydd o Lyn-coch ei dibyniaeth ar fws i gyrraedd y gwaith yn Nantgarw, a'i bod, o ganlyniad i fysiau hwyr neu wedi'u canslo wedi bod yn hwyr i'w gwaith ar sawl achlysur dros yr wythnosau diwethaf, gan arwain at lai o gyflog iddi hi a'i dau fab. Mae eraill yn sôn am apwyntiadau meddygol a gollwyd, gan gynnwys brechiadau COVID ac apwyntiadau ysbyty yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, er iddynt adael dwy neu dair awr i wneud yr hyn a ddylai fod yn daith 20 munud ar y mwyaf.
Mae edefyn cyffredin yn rhedeg drwy'r holl ohebiaeth a gefais ar fater bysiau lleol: mae pobl yn teimlo eu bod wedi'u hanghofio, yn ddi-nod ac nad oes neb yn gwrando arnynt. Maent yn bryderus ac yn ynysig. Gall y Llywodraeth newid hyn. Fe ddylai'r Llywodraeth newid hyn. Rhaid wrth weithredu, nid geiriau'n unig, ac mae angen gweithredu yn awr.