Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 23 Mehefin 2021.
Cefais fy nghalonogi'n fawr gan faint o gonsensws a geir, ynghylch pwysigrwydd bysiau ac ynghylch rhai o'r mesurau y mae angen inni eu rhoi ar waith gyda'n gilydd i wella'r sefyllfa. Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies ar y dechrau, mae angen inni adfer diben cyhoeddus trafnidiaeth gyhoeddus, ac roeddwn yn meddwl bod hwnnw'n sylw pwerus a craff iawn. A nododd Heledd Fychan yn rymus iawn sut y mae rhai pobl yn cael cam ar hyn o bryd gan wasanaeth nad yw bob amser yn gweithio ac yn sicr nid yw bob amser yn hawdd. Fel y dywedais yn glir ddoe, er mwyn mynd i'r afael â mater hollbwysig newid hinsawdd mae angen inni sicrhau mai'r peth iawn i'w wneud yw'r peth hawsaf i'w wneud, ac ar hyn o bryd nid yw'n hawdd. Mae'n llawer haws os oes gennych gar, a chofiwch nad oes gan oddeutu 20 y cant o aelwydydd gar, ond os oes gennych gar dyna'r ffordd symlaf o deithio. Os ydym i gyd yn ddiffuant yn ein hamcanion i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, rhaid inni newid hynny, felly y ffordd amlwg, hawdd o deithio ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau bob dydd yw trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym ymhell o gyrraedd hynny, a chredaf fod angen inni i gyd fod yn onest ynglŷn â hynny. Mae llawer o resymau cymhleth pam ein bod ymhell o hynny, ac maent wedi cael eu gwyntyllu gan lawer o bobl yn y ddadl hon.
Mae gennym system sy'n gymhleth iawn. Roedd y preifateiddio ar ddechrau'r 80au yn drychineb, ac mae wedi gwneud pethau'n anodd iawn eu cydlynu. Mae'r system drafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain yn gweithio am ei bod yn cael ei rheoleiddio. Y tu allan i Lundain anaml y mae'n gweithio, oherwydd nid yw'n cael ei rheoleiddio. Nid yw mor gymhleth â hynny. Roeddem wedi gobeithio cyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd ddiwethaf i gyflwyno masnachfreinio i Gymru. Nid oedd modd inni wneud hynny, ond rydym yn benderfynol o'i wneud yn y Senedd hon, a byddwn yn cyhoeddi cynllun yn ddiweddarach eleni ar sut y bwriadwn wneud hynny. Rwyf am inni weithio gyda'n gilydd, o gofio'r uchelgais a rennir yn y Siambr hon, i'w wneud yn gynllun mor uchelgeisiol ag y gallwn, nid i wneud y lleiafswm y mae angen inni ei wneud, ond i weld a allwn ymestyn i sicrhau system drafnidiaeth gyhoeddus ddi-dor o un pen i'r llall sy'n gweithio i'r rhan fwyaf o bobl.
Hoffwn adleisio'r sylwadau yn y Siambr ynglŷn â sut roedd trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau bysiau yn arwyr tawel y pandemig, a theyrnged Vikki Howells yn arbennig i'r gyrwyr bysiau a alluogodd weithwyr allweddol, staff y GIG a phlant i ddychwelyd i'r ysgol—ni allem fod wedi'i wneud hebddynt. Rwy'n credu ei bod hefyd yn iawn inni gydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn camu i mewn i achub diwydiant, fel y dywedodd Hefin David fod Nigel Winter o Stagecoach wedi'i nodi. Rwy'n talu teyrnged i fy nghyd-Aelod Ken Skates, a welaf ar y sgrin, sydd wedi gweithio'n agos gyda'r diwydiant bysiau gyda mi drwy'r pandemig i sicrhau bod y pecyn o fesurau yno i atal yr ecosystem hanfodol hon rhag diflannu o flaen ein llygaid.
Rydym wedi rhoi arian sylweddol i mewn, a thrwy roi'r arian hwnnw i mewn rydym wedi gwella cysylltiadau, rydym wedi gwella'r trefniadau sylfaenol, ac rydym bellach mewn sefyllfa lawer cryfach na phan aethom i mewn, ac mae gennym gysylltiadau a chontractau ar waith gyda gweithredwyr masnachol, sy'n ein rhoi mewn sefyllfa well o lawer yn fy marn i i wireddu'r uchelgais y byddwn yn ei nodi yn ddiweddarach eleni yn ein strategaeth fysiau.
Fel y dywedwyd, bysiau yn aml yw'r darn o'r system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael ei esgeuluso. Hwy sy'n cario'r nifer fwyaf o deithwyr o bell ffordd, ond nid hwy fu'r flaenoriaeth i bawb. Gwnaed llawer o sylwadau yma, 'Wel, Llywodraeth Cymru sydd ar fai am hyn'—byddwn yn eich annog i edrych ar draws y DU a gweld a yw'r gwasanaeth bysiau'n well, a byddwn yn eich annog i edrych ar eich maniffestos eich hun dros lawer o etholiadau i weld a oeddech yn galw am fwy o weithredu ar fysiau, a'r gwir yw nad oeddech. Credaf fod pob un ohonom wedi esgeuluso bysiau, gan fod costau i'r system drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae angen i hynny newid.
Fel y nodwyd, mae'n ffaith bod hon yn ddadl cyfiawnder cymdeithasol. Nid oes gan 80 y cant o deithwyr bysiau ddewis arall, ond yn yr un ffordd, nid yw 50 y cant o bobl byth yn teithio ar fws. Felly mae ymraniad cymdeithasol go iawn yma rhwng y ddelwedd o fysiau fel pethau nad ydynt ar gyfer pobl fel ni, ac mae angen inni wrthsefyll y ffordd y gwelir bysiau fel pethau ar gyfer eraill. Rhaid i fysiau fod i bawb. Rhaid iddynt fod yn ddeniadol i bawb a rhaid iddynt weithio i bawb, a hyd nes y byddwn yn gwneud hynny, ni fyddwn yn trawsnewid y ffordd y mae bysiau'n gweithio yn y ffordd rydym i gyd am ei gweld ac y mae angen inni ei gweld os ydym am fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae hynny'n mynd i alw am fuddsoddiad, ond mae hefyd yn mynd i alw am ddewisiadau gwleidyddol anodd yma ac mewn llywodraeth leol. Mae'n mynd i alw ar awdurdodau lleol i fod yn barod i ailddyrannu gofod ffordd i ffwrdd oddi wrth geir tuag at gyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus a rennir, ac roeddwn yn falch iawn o glywed Natasha Asghar yn gwneud y pwynt hwnnw yn ei datganiad agoriadol. A gobeithio y bydd hi a'i chyd-Aelodau'n mynd ar berwyl hynny oherwydd nid yw'n mynd i fod yn hawdd, gan y bydd y bobl a fydd yn teimlo'r anghyfleustra neu sy'n teimlo wedi'u datgysylltu gan hynny yn griddfan mewn poen. Ond dyna sydd angen i ni ei wneud, oherwydd yr hyn y mae gweithredwyr bysiau wedi'i ddweud dro ar ôl tro wrth yr ymchwiliadau niferus a ddisgrifiwyd gan Hefin David yw mai un o'r prif rwystrau y mae gweithredwyr bysiau yn eu hwynebu i ddenu mwy o ddefnydd yw dibynadwyedd ac amser teithio. Mae hynny'n ymwneud â gwneud bysiau'n ffordd gyflymaf, yn ffordd hawsaf o deithio. Golyga roi'r flaenoriaeth i fysiau yn hytrach na cheir wrth gynllunio ffyrdd ac o ran blaenoriaethau goleuadau traffig. Dyna beth sydd angen inni ei wneud. Y cwestiwn i bob un ohonom: a ydym yn ddigon dewr i'w wneud? Rwy'n ddigon dewr ac rwy'n gobeithio y byddwch chi gyda mi pan ddaw'r adeg i wneud hynny.