6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:50, 23 Mehefin 2021

Roedd dadl gyntaf Plaid Cymru yn flaengar; roedd yn dangos y ffordd i wella Cymru, ehangu ein pwerau, nid eu rhoi nhw nôl fel mae'r Torïaid eisiau gwneud. Mae Brexit wedi digwydd, ni mas o'r Undeb Ewropeaidd, pam mae'n rhaid ichi fynd ymlaen ac ymlaen am y peth gymaint, dwi ddim yn gwybod. Ond dyw hynny ddim yn golygu nad ydyn ni'n mynd i ddwyn i gyfrif arweinwyr 'leave' wnaeth wneud pob math o addewidion gwag i bobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig. Wnawn ni ddim anghofio y bws coch gyda'r addewid am fwy o arian i'r gwasanaeth iechyd; wnawn ni ddim anghofio'r addewid y byddai Cymru a chymunedau mwyaf difreintiedig Cymru yn derbyn arian ychwanegol; wnawn ni ddim anghofio'r cynnydd yn y casineb tuag at fewnfudwyr oherwydd ymgyrch 'leave'.