Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 23 Mehefin 2021.
Roedd Gwynfor Evans yn dangos mwy o weledigaeth nôl yn y 1960au nag ydyn ni'n gweld draw yn fanna gyda'r Torïaid. Roedd e'n disgrifio Cymru fel labordy—siawns inni ddangos sut i wneud pethau a'r byd yn ein dilyn ni.
Mae nifer o newidiadau pwysig wedi digwydd yn y lle hwn, newidiadau cymdeithasol, pethau byddem ni ddim yn dychmygu a fyddai'n bosibl 20 mlynedd yn ôl: gwahardd ysmygu mewn tafarndai, taliadau bagiau plastig, caniatâd tybiedig ar drawsblannu organau a dileu'r amddiffyniad—hyd yn oed roeddech chi'n moyn ei gadw fe—dileu'r amddiffyniad o gosb resymol ar blant.