Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 23 Mehefin 2021.
Am ben-blwydd trychinebus. Ni ddefnyddiaf fy nghyfraniad heddiw i ailadrodd y celwyddau a ddywedwyd yn ystod refferendwm 2016—maent wedi'u cofnodi'n gyhoeddus—ond rwy'n gresynu at gywair ail hanner cynnig y Ceidwadwyr gyda'i ffocws ar gyfleoedd, gan anwybyddu'n gyfleus y cipio pŵer gan San Steffan o dan Ddeddf y farchnad fewnol, a chynlluniau olynol yr UE yr eglurais i'r Siambr yr wythnos diwethaf eu bod fel pe baent wedi'u creu i gyfoethogi ardaloedd sy'n cefnogi'r Torïaid ar draul ein cymunedau ni. Dim sôn am y toriadau sy'n bygwth ein sector celfyddydau, gallu ein myfyrwyr i astudio, ffurfio cysylltiadau a ffynnu dramor—maent oll wedi'u colli.
Pan ddeuthum i'r Senedd hon am y tro cyntaf a dod yn llefarydd ar Brexit, roedd yn ymddangos bod ein holl sylw'n cael ei roi i gytundebau masnach, newyddion am y negodiadau, a chloch y pleidleisiau'n atseinio yr holl ffordd o San Steffan i'n Senedd ni. Cawn fy mlino gan yr ymwybyddiaeth o'r cyfan nad oedd yn cael ein sylw—y pethau y gellid, y byddid, y dylid, a allai fod wedi digwydd ond na ddigwyddodd am fod Brexit yn mynd â'n holl sylw. Yn awr, mae saga druenus Brexit yn rhy aml wedi ei chyfyngu i ddatganiadau ysgrifenedig. Mae diweddariadau sy'n effeithio ar fywoliaeth a chyfleoedd bywyd dinasyddion yn cael eu gwthio i dudalennau ysgrifenedig, na chânt eu lleisio na'u craffu.
Nid wyf yn beio Llywodraeth Cymru, a dyn a ŵyr, mae COVID wedi gorfod mynd â chymaint o'n sylw, ond Lywydd, y tu allan i'r Siambr mae'n dal i fod ymdeimlad o'r hyn a allai fod wedi bod, nid ar ffurf amser deddfwriaethol na blaenoriaeth Llywodraeth mwyach efallai, ond ar ffurf bywydau ar stop, dinasyddion yr UE sydd wedi byw ers blynyddoedd yn ein plith yn gorfod ailymgeisio am eu hawl i breswylio, ymdeimlad o ryngberthyn tynn a dyheadau a rennir yn cael eu gwthio i'r cyrion, a gorwelion yn crebachu ac yn cyfyngu. Ac ar draws y môr, mae anghytgord a thensiwn yng Ngogledd Iwerddon yn cynyddu, wedi'i gymell gan Weinidogion San Steffan na wnaethant drafferthu poeni am yr effaith y byddai eu laissez-faire, eu braggadocio diog yn ei chael ar yr hyn sy'n llythrennol yn fater o fywyd a marwolaeth.
Lywydd, mae'r cynnig yn siarad am gyfleoedd. Rwy'n siarad am gyfleoedd a gollwyd—cost cyfle biwrocratiaeth, llenwi ffurflenni, y ffyrdd nas teithiwyd oherwydd eu bod wedi'u cau bellach. Yn 'Hard Border' mae'r bardd Clare Dwyer Hogg yn ein hatgoffa bod
'cyfle a gobaith yn dod ar ffurf pethau fel ager a mwg.'
Nid yw pob un o effeithiau Brexit mor ddiriaethol â rhesi o lorïau ar draffordd. Hoffwn atgoffa'r Siambr o'r teithiau nas teithiwyd, y cariad nas profwyd, yr heriau a gollwyd cyn y gellid eu hwynebu, llwyddiannau a phrofiadau y gallem fod wedi'u rhannu; y pethau a allai fod wedi bod yn gwasgaru ac yn diflannu fel mwg yn y gwynt.