Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 1:31, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb a'r cymorth hyd yn hyn? Mae hi wedi bod yn 18 mis anodd dros ben i blant ledled Cymru. Fodd bynnag, bydd y gwahaniaeth rhwng profiadau plant o’r pandemig yn sylweddol. Mae'n amlwg i mi y bydd plant sydd wedi cael sawl profiad niweidiol yn ystod plentyndod wedi wynebu mwy o heriau na llawer o'u cyfoedion. Mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud eisoes ar sefydlu y bydd y trawma hwn yn effeithio arnynt am weddill eu hoes. Mae enghreifftiau da i’w cael o ble y gall dulliau sydd wedi’u llywio gan drawma i gefnogi'r plant hyn gael effaith fuddiol iawn. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi felly pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gynyddu’n sylweddol yr arian sy'n cael ei wario ar fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'u hatal?