1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 23 Mehefin 2021.
1. Pa adnoddau sydd wedi'u dyrannu yng nghyllideb 2021-22 Llywodraeth Cymru i helpu pobl â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghymru? OQ56620
Mae ein cyllideb yn cefnogi ystod o fuddsoddiadau er mwyn atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond gwnaethom ddyrannu £1 filiwn ar gyfer 2021-22 ar gyfer cymorth wedi'i dargedu. Bydd hanner y cyllid yn cefnogi'r hyb cymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i Gymru a bydd yr hanner arall yn cefnogi gweithgarwch i atal, lliniaru ac ymdrin ag effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn enwedig ar lefel gymunedol.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb a'r cymorth hyd yn hyn? Mae hi wedi bod yn 18 mis anodd dros ben i blant ledled Cymru. Fodd bynnag, bydd y gwahaniaeth rhwng profiadau plant o’r pandemig yn sylweddol. Mae'n amlwg i mi y bydd plant sydd wedi cael sawl profiad niweidiol yn ystod plentyndod wedi wynebu mwy o heriau na llawer o'u cyfoedion. Mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud eisoes ar sefydlu y bydd y trawma hwn yn effeithio arnynt am weddill eu hoes. Mae enghreifftiau da i’w cael o ble y gall dulliau sydd wedi’u llywio gan drawma i gefnogi'r plant hyn gael effaith fuddiol iawn. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi felly pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gynyddu’n sylweddol yr arian sy'n cael ei wario ar fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'u hatal?
Diolch am godi'r mater pwysig hwn, a gwn ei fod yn achos pryder enfawr i fy nghyd-Aelodau, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’i thîm yn benodol. Mae cyllideb 2021-22 yn cynnwys £0.5 miliwn arall i gefnogi gwaith i atal, lliniaru ac ymdrin ag effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac mae hyn yn ychwanegol at y cyllid blaenorol. Bydd penderfyniadau ynglŷn â sut y bydd y swm penodol hwn yn cael ei ddyrannu’n cael eu llywio gan y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gan yr hyb cymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sy’n ceisio mapio'r ddarpariaeth bresennol. A bydd y grŵp gorchwyl a gorffen arbenigol ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd yn cyfrannu at y gwaith hwnnw, i'n helpu i ddatblygu canfyddiadau adolygiad polisi profiadau niweidiol yn ystod plentyndod Llywodraeth Cymru. Felly, gwn fod cyngor yn cael ei baratoi ar gyfer fy nghyd-Aelodau ar hyn o bryd, a chyflwynir y cyngor hwnnw iddynt cyn diwedd mis Awst 2021, er mwyn nodi’r ffordd orau o ddefnyddio’r cyllid ychwanegol hwnnw.
Weinidog, er fy mod yn croesawu unrhyw adnoddau a glustnodir i helpu'r rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae'n gwbl amlwg nad yw Cymru'n gwneud digon i leihau adfyd yn y lle cyntaf. Er nad yw’n brofiad niweidiol yn ystod plentyndod ynddo'i hun, gwyddom fod tlodi'n ffactor ychwanegol sy'n peri straen a all arwain at esgeuluso neu gam-drin plentyn. Yn anffodus, mae bron i 30 y cant o'n plant yn byw mewn tlodi, a methodd Llywodraeth Cymru yn llwyr â chyflawni eu targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Weinidog, beth y mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud i drechu tlodi plant, a phryd y byddwch yn cyflawni eich targed i’w ddileu? Diolch yn fawr iawn.
Wel, yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, gwnaethom nodi ystod eang o gamau y byddwn yn eu cymryd i drechu ac atal tlodi plant. Fe fyddwch wedi gweld ein cyllid ychwanegol ar gyfer prydau ysgol am ddim, er enghraifft, a Chymru oedd y wlad gyntaf yn y DU, wrth gwrs, i gyhoeddi y byddai prydau ysgol am ddim yn parhau drwy wyliau’r ysgol, tan y Pasg yn 2022. Ac mae gwaith yn mynd rhagddo gennym i edrych yn agosach ar brydau ysgol am ddim a'n polisi yn y cyswllt hwnnw, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer plant sydd ei angen fwyaf.
Fe fyddwch hefyd yn deall ein bod wedi bod yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud mewn perthynas â'n cynllun mynediad at y grant datblygu disgyblion, er mwyn ei ehangu i gynnwys nifer ehangach o blant a theuluoedd yma yng Nghymru. Felly, rydym yn edrych ar y cynlluniau sydd gennym ar hyn o bryd a beth arall y gallwn ei wneud yn y maes pwysig hwn. Ac fel y dywedwch, nid yw tlodi ynddo'i hun yn un o'r profiadau niweidiol rydym yn meddwl amdanynt wrth sôn am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond yn sicr, mae'n fater cwbl allweddol ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef ochr yn ochr â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.