Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 1:33, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, er fy mod yn croesawu unrhyw adnoddau a glustnodir i helpu'r rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, mae'n gwbl amlwg nad yw Cymru'n gwneud digon i leihau adfyd yn y lle cyntaf. Er nad yw’n brofiad niweidiol yn ystod plentyndod ynddo'i hun, gwyddom fod tlodi'n ffactor ychwanegol sy'n peri straen a all arwain at esgeuluso neu gam-drin plentyn. Yn anffodus, mae bron i 30 y cant o'n plant yn byw mewn tlodi, a methodd Llywodraeth Cymru yn llwyr â chyflawni eu targed i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Weinidog, beth y mae eich Llywodraeth yn mynd i'w wneud i drechu tlodi plant, a phryd y byddwch yn cyflawni eich targed i’w ddileu? Diolch yn fawr iawn.