Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 23 Mehefin 2021.
Weinidog, yn ystod y cyfrif etholiadol ym mis Mai, bu swyddogion cynghorau a gwirfoddolwyr yn gwirio ac yn cyfrif pleidleisiau ar gyfer pleidlais etholaethol y Senedd, pleidlais ranbarthol y Senedd, etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu, a phleidleisiau ar gyfer isetholiadau cynghorau a chynghorau cymuned. Yn y dyfodol, nid yw'n afrealistig i ddisgwyl senario lle gallai pob un o'r pleidleisiau hyn gael eu cyfrif o dan system bleidleisio wahanol. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod hon yn senario y dylid ei hosgoi, oherwydd nid yn unig y bydd yn arwain at ddryswch ymhlith yr etholwyr, bydd hefyd yn llesteirio ymdrechion i gynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan yn y prosesau democrataidd hynny megis etholiadau cynghorau lleol, lle ceir anhawster eisoes i annog pobl i bleidleisio?