1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 23 Mehefin 2021.
3. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn mabwysiadu'r bleidlais sengl drosglwyddadwy fel system bleidleisio yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn dod i rym? OQ56641
Mae Deddf 2021 yn caniatáu i brif gynghorau ddewis naill ai system y cyntaf i’r felin, neu’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Egwyddor allweddol yn Neddf 2021 drwyddi draw yw y dylid gwneud penderfyniadau’n lleol. Ni ddylai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn y dewis lleol hwnnw drwy geisio sicrhau bod cynghorau’n defnyddio’r naill system neu'r llall.
Wel, os ŷch chi'n disgwyl i awdurdodau lleol wneud hyn o'u gwirfodd, dwi'n meddwl eich bod chi'n twyllo'ch hunan i raddau, Weinidog. Dwi'n meddwl bod angen i'r Llywodraeth yma fod yn rhagweithiol i annog yr awdurdodau lleol i fabwysiadu'r gyfundrefn yma. Felly, ydych chi'n cytuno gyda, er enghraifft, y Gymdeithas Diwygio Etholiadol bod angen gweithio gyda rhai awdurdodau lleol i beilota hyn, efallai? Efallai bod angen creu rhyw fath o gronfa er mwyn rhoi anogaeth iddyn nhw. Mae gwaith addysgu lleol yn angenrheidiol o safbwynt cyfundrefn etholiadol newydd ac yn y blaen a heb fod yr elfennau yma yn eu lle, dyw e jest ddim yn mynd i ddigwydd. Felly, beth dwi eisiau ei glywed ganddoch chi yw: a oes yna fwriad ganddoch chi i fod yn rhagweithiol yn lle eistedd yn ôl, ac yn y pen draw gweld bod yna ddim byd yn digwydd?
Wrth gwrs, mae Deddf 2021 yn dilyn yr un egwyddor ag y gwnaeth Deddf Cymru 2017 pan roddodd yr hawl i'r Senedd ddewis ei system bleidleisio, felly dilyn y broses sefydledig honno y byddem yn ei wneud yma. Ond cefais gyfarfod rhagorol gyda'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn gynharach yr wythnos hon, a dywedasant wrthyf am waith roeddent wedi'i wneud gyda chynghorwyr i ddeall yr awydd am y bleidlais sengl drosglwyddadwy ymhlith cynghorwyr yma yng Nghymru, ac un peth y gwnaethant roi cryn dipyn o sylw iddo oedd y ffaith nad oedd nifer eithaf sylweddol o gynghorwyr yn gwybod nac yn teimlo eu bod yn gwybod digon am y bleidlais sengl drosglwyddadwy nac am y goblygiadau, sut y gallai weithio ac ati, i wneud y penderfyniad hwnnw, felly cytunais fod yna waith y gallem ei wneud ar y cyd i ddarparu gwybodaeth i gynghorwyr ac i gefnogi'r gwaith addysgu y mae'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn awyddus i’w wneud i sicrhau o leiaf y gall cynghorwyr wneud dewis gwybodus am yr opsiynau sydd ar gael iddynt.
Weinidog, yn ystod y cyfrif etholiadol ym mis Mai, bu swyddogion cynghorau a gwirfoddolwyr yn gwirio ac yn cyfrif pleidleisiau ar gyfer pleidlais etholaethol y Senedd, pleidlais ranbarthol y Senedd, etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu, a phleidleisiau ar gyfer isetholiadau cynghorau a chynghorau cymuned. Yn y dyfodol, nid yw'n afrealistig i ddisgwyl senario lle gallai pob un o'r pleidleisiau hyn gael eu cyfrif o dan system bleidleisio wahanol. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod hon yn senario y dylid ei hosgoi, oherwydd nid yn unig y bydd yn arwain at ddryswch ymhlith yr etholwyr, bydd hefyd yn llesteirio ymdrechion i gynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan yn y prosesau democrataidd hynny megis etholiadau cynghorau lleol, lle ceir anhawster eisoes i annog pobl i bleidleisio?
Credaf efallai fod tuedd i orbwysleisio’r cymhlethdodau a'r tebygolrwydd o ddrysu pleidleiswyr, oherwydd fel y dywedwch, mae pleidleiswyr eisoes yn gallu ymdopi ag amrywiaeth o systemau pleidleisio, ac fel rydych wedi disgrifio, mae gan bleidleiswyr wahanol ymagweddau yn etholiadau’r Senedd, etholiadau seneddol y DU, ac etholiadau’r comisiynwyr heddlu a throseddu. Felly, efallai fod y system gyfrif o dan drefn y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn gymhleth, ond yn sicr, nid yw'r broses bleidleisio’n gymhleth o ran gosod eich ymgeiswyr yn eu trefn gan ddefnyddio un, dau, tri ac ati, ac mae'n bwysig fod gan bapurau pleidleisio gyfarwyddiadau clir ar gyfer pleidleiswyr ynglŷn â sut i fwrw eu pleidleisiau. Felly, ni chredaf o reidrwydd y bydd defnyddio nifer o wahanol systemau wrth fwrw eu pleidleisiau y tu hwnt i allu’r pleidleiswyr.
A gaf fi ofyn i'r Gweinidog edrych ar nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd ledled Cymru pan gawsom etholiadau’r Senedd? Ond ni allaf feddwl am system etholiadol waeth na’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog edrych ar faint y wardiau a chanlyniadau etholiadau cyngor yr Alban, a gynhaliwyd o dan drefn y bleidlais sengl drosglwyddadwy? A all y Gweinidog ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd, nid i'r cynghorau yn unig, ynglŷn â sut yn union y mae’r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn gweithio? Oherwydd credaf fod pobl yn sôn llawer am y bleidlais sengl drosglwyddadwy ac mae pawb yn dweud pa mor wych yw hi hyd nes y bydd pobl yn dechrau edrych arni.
O ran etholiadau cyngor yr Alban, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw broblemau rydym wedi'u cael yn 2017 neu 2012, ond mae'n hollol wir fod 2007 yn flwyddyn anodd iawn o ran yr etholiadau hynny, a oedd yn cyfuno etholiadau ar gyfer Senedd yr Alban a llywodraeth leol ar yr un diwrnod. Ond credaf mai'r consensws yw bod y problemau hynny wedi codi'n bennaf oherwydd iddynt gael eu cyfuno ar un papur pleidleisio, a'u bod wedi cyflwyno cyfres o ddatblygiadau arloesol sylweddol ar yr un diwrnod, sef y papur pleidleisio seneddol un ochr, cyfrif electronig a system bleidleisio newydd y bleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer llywodraeth leol. Felly, credaf ei bod yn ddyletswydd arnom i edrych ar brofiadau mewn mannau eraill i ddysgu o'r profiadau cadarnhaol, ond hefyd, yn amlwg, o'r profiadau anos y credaf fod yr Alban wedi llwyddo i'w datrys yn ôl pob golwg.