Cymorth Busnes

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:12, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Ein pecyn o gymorth i fusnesau yw'r mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU, ac rydym wedi darparu mwy mewn cymorth i fusnesau nag a gawsom gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â’r cymorth yn Lloegr. Rwyf wedi clustnodi hyd at £200 miliwn o gymorth ychwanegol i fusnesau yn 2021-22 i ymateb i newidiadau sy'n esblygu o'r pandemig.