1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 23 Mehefin 2021.
5. Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i gymorth busnes yng Nghymru wrth ddrafftio ei chyllideb ar gyfer 2021-22? OQ56627
Ein pecyn o gymorth i fusnesau yw'r mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU, ac rydym wedi darparu mwy mewn cymorth i fusnesau nag a gawsom gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â’r cymorth yn Lloegr. Rwyf wedi clustnodi hyd at £200 miliwn o gymorth ychwanegol i fusnesau yn 2021-22 i ymateb i newidiadau sy'n esblygu o'r pandemig.
Diolch. O ystyried bod datblygu busnes yn un o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, byddech yn disgwyl i Lywodraeth Cymru gyfrannu peth o’i harian ei hun hefyd yn ychwanegol at y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Er bod y Prif Weinidog yn gwadu hynny, dywedodd perchennog bwyty yng ngogledd Cymru, nad oedd yn gymwys i gael cyllid diweddaraf Llywodraeth Cymru, ei fod wedi eu bradychu. E-bostiodd busnes lletygarwch arall i ddweud: 'Siaradais â Mark Drakeford pan ymwelodd â bragdy Wrexham Lager. Dywedodd wrthyf y byddai grant ailgychwyn ar gael pan fyddai fy nhafarn yn ailagor, grant arall am na allai fy nhafarn agor oherwydd nad oedd ganddi ofod yn yr awyr agored, a grant pellach ar gyfer gweithredu ar 17 Mai. Rwyf newydd wirio gwefan Busnes Cymru a darganfod nad wyf yn gymwys i gael unrhyw grantiau o gwbl'. Darganfu wedi hynny y gallai wneud cais am grant o £2,500, gan ddweud nad yw hynny'n cymharu â’r grant cyfatebol o £8,000 yn Lloegr.
Disgrifiodd un arall gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y grantiau fel slap yn ei wyneb. Dywedodd un arall wrthyf: ‘Cawsom addewid gan Mark Drakeford fod arian wedi'i neilltuo ac y byddai'n cael ei ddosbarthu'n gyflym cyn gynted ag y byddai’r Llywodraeth wedi'i hethol, ond nid ydym wedi derbyn unrhyw gyllid.’ Dywedodd un arall: 'Roedd y rownd ddiweddaraf o grantiau yn ein cefnogi tan ddiwedd mis Mawrth. Mae'r grantiau diweddaraf ar gyfer mis Mai i fis Mehefin. Beth ddigwyddodd i fis Ebrill, pan oeddem yn dal ar gau?' Mae dim ond ailadrodd honiad y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi darparu’r pecyn mwyaf hael o gymorth i fusnesau yn y DU yn sarhad ar y rhain a’r llu o fusnesau eraill sydd wedi cysylltu â mi ac Aelodau eraill. Beth, os unrhyw beth, sydd gennych i'w ddweud wrthynt? Beth rydych chi'n mynd i'w wneud yn ei gylch?
Mae'n rhaid imi ddweud wrth Mark Isherwood ei fod yn fwy na honiad—mae'n ffaith. Llywodraeth Cymru sydd wedi darparu’r pecyn mwyaf hael o gymorth i fusnesau, ac mae busnesau yng ngogledd Cymru wedi derbyn dros £475 miliwn o gymorth drwy’r gronfa cadernid economaidd ers ei sefydlu ym mis Ebrill 2020. A’r cymorth rydym wedi’i roi i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru yw'r mwyaf hael yn y DU, ac mae hynny oherwydd y trefniadau pwrpasol rydym wedi'u rhoi ar waith. Nawr, yn anochel, ni fyddwn yn gallu cyrraedd pob busnes. Fodd bynnag, ni allaf ymateb i fusnesau dienw rydych wedi'u disgrifio yn y Siambr heb wybod yr holl ffeithiau. Ond yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dolen i’r holl gymorth y mae busnesau wedi’i gael yng Nghymru, a chredaf y bydd fy nghyd-Aelodau o’r farn fod hwnnw’n eithaf addysgiadol a chadarnhaol, o ran gallu edrych ar y busnesau sydd wedi derbyn cyllid Llywodraeth Cymru yn eu cymunedau a’u hetholaethau eu hunain. Felly, fel y dywedaf, Llywodraeth Cymru sydd wedi darparu'r pecyn mwyaf hael o gymorth i fusnesau. Fe'i cynlluniwyd i ategu cymorth Llywodraeth y DU drwy'r cynllun ffyrlo, ac rydym yn awyddus iawn i’r cynllun ffyrlo gael ei ymestyn cyhyd ag y bo angen, yn hytrach na’i fod yn dod i ben yn fuan.