Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 23 Mehefin 2021.
Cyn inni symud ymlaen, a gaf fi ddweud fy mod wedi sylwi ar dueddiad i chwifio baneri y tu ôl i’r Aelodau ar Zoom yr wythnos hon? Mae'n edrych fel pe bai'r gyfradd R ar faneri yn fwy nag 1 ar hyn o bryd. Felly, o'r wythnos nesaf ymlaen, dim mwy o faneri. Fel arall, byddaf yn cael fy nhemtio i chwifio baner gweriniaeth drofannol annibynnol Ceredigion y tu ôl i mi yma. [Torri ar draws.] Yn union. Felly, symudwn ymlaen i wythnos ddi-faner yr wythnos nesaf, os gwelwch yn dda.