Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 23 Mehefin 2021.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid sylweddol i Hybu Cig Cymru. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda hwy i sicrhau ein bod yn gallu hyrwyddo ein cig eidion a'n cig oen ledled y byd. Yn amlwg, ers pandemig COVID-19, nid ydym wedi gallu cynnal y nifer o ymweliadau masnach y byddem yn eu cynnal fel arfer, er ein bod wedi cynnal rhai digwyddiadau rhithwir. Ond gobeithio y gallwn barhau â'r ymweliadau masnach yn y dyfodol, wrth inni allu teithio.
Unwaith eto, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda rhanddeiliaid eraill i wneud hynny, ac rydym hefyd—. Efallai eich bod wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Rhun ap Iorwerth y byddwn, yn ddiweddarach eleni, yn cynnal Blas Cymru a ohiriwyd yn anffodus. Mae hwnnw'n denu miliynau o bunnoedd yn llythrennol, a bydd cig oen a chig eidion Cymreig yn amlwg iawn yno hefyd.