Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 23 Mehefin 2021.
Ar ymweliad diweddar â fferm gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a nifer o ffermwyr, roedd yn ddiddorol nad cytundebau masnach oedd yn peri pryder sylweddol iddynt ond yn hytrach y meysydd rydych chi'n eu rheoli, Weinidog, megis parthau perygl nitradau a bygythiad cynyddol TB i'w da byw ac felly i'w bywoliaeth. Ond ar wahân i hynny, yng ngoleuni'r cyfleoedd y mae'r cytundeb hwn a chytundebau masnach y dyfodol yn eu cynnig, pa ymdrechion ychwanegol rydych yn eu gwneud i hyrwyddo cig eidion a chig oen Cymru dramor?