Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:36, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Croeso i Samuel Kurtz ar ei benodiad, ac edrychaf ymlaen at eich cael yn gweithio gyferbyn â mi. Ni waeth beth y mae Rebecca yn ei ddweud, rwy'n credu bod hwn yn bortffolio cyffrous iawn hefyd ac rwy'n siŵr y byddwch yn ei fwynhau.

Nac ydy; mae'r polisi hwnnw gennym o hyd. Yn amlwg, rydym wedi cael rhai problemau gyda'n hallforion bwyd môr, ac fe fyddwch yn fwyaf ymwybodol o'r problemau'n ymwneud â molysgiaid dwygragennog byw, a'r anawsterau rydym wedi'u cael ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n sicr yn flaenoriaeth inni ar hyn o bryd oherwydd, yn llythrennol, mae'r diwydiant allforio ar ymyl dibyn. Felly, rydym yn canolbwyntio ar hynny, ond na, mae'r polisi yno o hyd.