2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 23 Mehefin 2021.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi longyfarch y Gweinidog ar ei hailbenodiad, ac edrychaf ymlaen at weithio tuag at Gymru wledig decach a ffyniannus? Weinidog, mewn digwyddiad yng Nghaerdydd fel rhan o Wythnos Bwyd Môr yn 2016, fe gyhoeddoch chi eich bwriad i ddyblu cynhyrchiant dyframaethu morol erbyn 2020. Gan fod cynllun morol 2019 ac adroddiad dilynol 2020 wedi methu cyfeirio at yr amcan hwn, a chan fod y ffigurau flwyddyn a hanner ar ei hôl hi, a yw'r polisi hwn wedi suddo heb adael ei ôl?
Croeso i Samuel Kurtz ar ei benodiad, ac edrychaf ymlaen at eich cael yn gweithio gyferbyn â mi. Ni waeth beth y mae Rebecca yn ei ddweud, rwy'n credu bod hwn yn bortffolio cyffrous iawn hefyd ac rwy'n siŵr y byddwch yn ei fwynhau.
Nac ydy; mae'r polisi hwnnw gennym o hyd. Yn amlwg, rydym wedi cael rhai problemau gyda'n hallforion bwyd môr, ac fe fyddwch yn fwyaf ymwybodol o'r problemau'n ymwneud â molysgiaid dwygragennog byw, a'r anawsterau rydym wedi'u cael ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n sicr yn flaenoriaeth inni ar hyn o bryd oherwydd, yn llythrennol, mae'r diwydiant allforio ar ymyl dibyn. Felly, rydym yn canolbwyntio ar hynny, ond na, mae'r polisi yno o hyd.
Diolch. Un mater sy'n parhau i achosi straen a gofid i ffermwyr ledled Cymru yw TB buchol, sy'n fater y mae Gweinidogion olynol wedi methu mynd i'r afael ag ef yn iawn. Yr wythnos diwethaf, wrth ymateb i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders, rhoddodd y Prif Weinidog y bai ar ffermwyr Cymru am ledaenu TB, gan ddweud,
'y rheswm pam mae statws ardal isel wedi symud i fyny yw oherwydd mewnforio TB gan ffermwyr sy'n prynu gwartheg heintiedig a dod â nhw i'r ardal.'
Achosodd y datganiad hwn ddicter ymhlith ffermwyr yma yng Nghymru, sy'n gwneud popeth y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ei wneud er mwyn mynd i'r afael â TB buchol. Gwyddom fod angen prawf cyn symud clir cyn y gellir symud gwartheg. Ddoe, cafodd y Prif Weinidog a chithau a minnau lythyr gan y Gymdeithas Cig Eidion Genedlaethol, a alwodd ar y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i
'ddysgu'r ffeithiau gwyddonol a phrofedig sy'n ymwneud â TB buchol ac yna ymddiheuro i'r diwydiant am y niwed a achoswyd gan eich datganiad anghywir.'
Weinidog, a wnewch chi naill ai gynnig yr ymddiheuriad hwn i ddiwydiant amaethyddol Cymru, neu a ydych am gofnodi eich cymeradwyaeth i'r safbwyntiau a rannwyd gan y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf?
Rwy'n credu ei fod yn un o'r llythyrau mwyaf haerllug imi fod yn ddigon anffodus i'w dderbyn, a bod yn berffaith onest gyda chi. Credaf fod yr hyn a ddywedwch yn anghywir ynglŷn ag ystadegau. Os edrychwch ar y duedd sy'n sicr wedi bod yn digwydd dros y 33 mis diwethaf, rwy'n credu, rydym wedi gweld gostyngiad yng nghyfanswm 12 mis y buchesi ag achosion newydd ac rydym wedi cael gostyngiad o 2 y cant yn nifer yr achosion newydd yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2021. Ac yn amlwg, yn ôl y wybodaeth a gawsom, mae'n ymddangos bod y cynnydd mewn TB yn ardaloedd dyffryn Conwy, sir Ddinbych a Phennal, sef yr ardaloedd y tynnodd Janet Finch-Saunders sylw'r Prif Weinidog atynt rwy'n credu, wedi'u hachosi i gychwyn gan symudiadau i'r ardal o ddaliadau mewn ardaloedd lle ceir mwy o achosion o TB, ac yna gan symudiadau lleol o fewn yr ardal honno, yn enwedig o fewn daliadau o dan yr un rheolaeth fusnes.
Diolch, ond mae'r canlyniadau negyddol ffug sy'n deillio o'r prawf croen TB buchol presennol yn dangos, os yw symud yn digwydd o dan bolisi Llywodraeth Cymru, fod y polisi'n methu yma.
Cyhoeddwyd yn ddiweddar, fodd bynnag, fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwario'r swm enfawr o £136,000 ar eu harwydd Caerfyrddin Hollywood-aidd ar ochr y gerbytffordd A40 tua'r dwyrain gydag arian yn dod o gynllun datblygu gwledig Llywodraeth Cymru. Mae hyn, ynghyd â chanfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru nad oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi camau priodol ar waith i sicrhau gwerth am arian yn niffyg cystadleuaeth, yn dangos nad yw'r cynllun datblygu gwledig yn addas at y diben ar ei ffurf bresennol. Weinidog, a allwch chi gadarnhau mai bwriad Llywodraeth Cymru yw ymrwymo i adolygiad annibynnol llawn o'r cynllun datblygu gwledig er mwyn sicrhau nad yw prosiectau rhodres a ffafriaeth bellach yn cymylu barn y Llywodraeth ynghylch gweinyddu grantiau'r cynllun datblygu gwledig?
Nid oes unrhyw gynlluniau i gynnal adolygiad pellach o gynlluniau datblygu gwledig 2014-20. Mae swyddogion wedi cydnabod nad oedd y dull o brofi gwerth am arian nifer o brosiectau hanesyddol y cynllun datblygu gwledig yn arfer gorau. Felly, credaf na fydd adolygiad pellach o hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Cefin Campbell.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ac a gaf innau eich llongyfarch chi hefyd ar eich ail apwyntiad fel y Gweinidog? A dwi'n edrych ymlaen at ddatblygu perthynas adeiladol gyda chi dros y blynyddoedd nesaf. Dwi innau hefyd yn mynd i barhau gyda thema'r RDP, os caf i? Mae llawer o sylw wedi cael ei roi dros y misoedd diwethaf i ariannu'n llawn y cynllun datblygu gwledig, ac mae'r cynllun, fel rydym ni i gyd yn gwybod, yn hollbwysig i Gymru wledig, gan gefnogi ffermydd yn uniongyrchol a hefyd i ddatblygu projectau economaidd ac amgylcheddol.
Er hyn, mae yna gonsýrn ymhlith y sector fod Llywodraeth Cymru yn mynd i fethu â gwario cyllideb y cynllun hwn yn llawn erbyn diwedd y cyfnod ariannu yn 2023. Yn seiliedig ar y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd, dim ond ychydig dros 60 y cant o gyllid y cynllun hwn sydd wedi ei wario hyd yn hyn. Os yw'r Llywodraeth am wario'r holl arian sydd yn y gronfa, sef £838 miliwn erbyn Rhagfyr 2023, bydd yn rhaid sicrhau cynnydd sylweddol yn y gyfradd gwariant misol o £6 miliwn i £10 miliwn, sydd yn dipyn o naid. Felly, pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu rhoi yn eu lle i sicrhau bod yr holl arian hwn yn cael ei wario er mwyn cefnogi'n hardaloedd gwledig? Ac a ydy'r Gweinidog yn derbyn, os nad yw Llywodraeth Cymru yn gwario'r arian yn llawn, y bydd hyn yn rhoi esgus arall i Lywodraeth San Steffan i roi llai o gyllideb i amaethyddiaeth yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod, gan beryglu sefydlogrwydd economaidd a hyfywedd ein diwydiant amaeth?
Diolch. Hoffwn eich croesawu i'ch rôl fel llefarydd yr wrthblaid, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda chithau hefyd. Rydym yn parhau i wneud cynnydd da iawn mewn perthynas â chyflawni rhaglen ein cynllun datblygu gwledig. Mae dros £512 miliwn eisoes wedi'i wario. Fel y dywedwch, mae £362 miliwn pellach i'w wario dros y tair blynedd nesaf, ac yn sicr rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â fy swyddogion sy'n monitro'r cynllun datblygu gwledig, ac ar hyn o bryd rydym yn hyderus iawn y bydd y cyllid hwnnw'n cael ei wario.
Iawn. Diolch yn fawr iawn. Rwy'n gobeithio byddwch chi ddim fel John Redwood yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni'n anfon arian Cymru yn ôl i'r Trysorlys.
Yr ail gwestiwn: plannu coed ar dir fferm. Mater pwysig arall i'n cymunedau gwledig yw cynlluniau plannu coed ar dir fferm. Yn ddiweddar, fe gwrddais i â chynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Myddfai yn sir Gâr a rhai o'r ffermwyr lleol o'r ardal honno i glywed tystiolaeth gynyddol o ffermydd cyfan, cymaint â 300 erw, yn cael eu prynu gan bobl fusnes cyfoethog a chwmnïau rhyngwladol mawr ar gyfer plannu coed ar gyfer carbon offsetting. Ac roedden nhw'n rhoi enghreifftiau i fi o ffermydd yn sir Gâr, Ceredigion a de Powys sydd wedi cael eu prynu yn ddiweddar at y pwrpas yma. Ac mae'n debyg bod arian cynllun Glastir yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r cynlluniau, ac mewn un achos roedd hyn wedi atal ffermwr ifanc oedd wedi bwriadu symud yn ôl i brynu tir drws nesaf i fferm y teulu, roedd e wedi cael ei atal rhag gwneud hyn oherwydd bod y fferm yma wedi cael ei phrynu at bwrpas carbon offsetting.
Rwy'n siwr eich bod chi'n cytuno, unwaith y bydd ein ffermydd teuluol fel hyn wedi cael eu colli a'u gorchuddio gan goed, fyddan nhw ddim yn cael eu dychwelyd i ddefnydd amaeth. Ac mae hyn yn drychineb wrth gwrs, nid yn unig i gynhyrchu bwyd yng Nghymru ond hefyd i gynaliadwyedd ein cymunedau gwledig, wrth iddo arwain at fwy o ddiboblogi gwledig ac effaith niweidiol ar gynaliadwyedd ein hysgolion gwledig a gwasanaethau gwledig yn ogystal.
Nawr does neb yn amau pwysigrwydd plannu coed, wrth gwrs, i gyflawni ein polisïau amgylcheddol, ond rhaid gwneud hyn tra'n diogelu hyfywedd ein busnesau amaethyddol. Felly, y cwestiwn i'r Gweinidog yw hwn: a ydych chi'n cytuno â mi, felly, ei bod hi'n gwbl hurt bod cwmnïau a chyfoethogion o'r tu allan i Gymru, er enghraifft, yn gallu cael gafael ar daliadau cymorth ffermio drwy'r cynllun Glastir i blannu coed pan ddylai'r polisi hwnnw sicrhau bod yr arian yn aros yng Nghymru? Ac a ydy'r Llywodraeth yn fodlon sicrhau mai dim ond ffermwyr actif sy'n gallu cael gafael ar daliadau cymorth trwy'r cynllun hwn a bod angen capio canran yr erwau fferm y gellir eu neilltuo ar gyfer plannu coed a bod angen caniatâd cynllunio ar gyfer gwneud hynny? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Rydych wedi codi nifer o bwyntiau pwysig, ac mae'r cyntaf, rwy'n credu, yn ymwneud â ffermwr ifanc yn methu rhentu na phrynu tir fferm na fferm. Ac rwyf wedi gwneud cryn dipyn o waith gyda ffermwyr ifanc, ynghyd â Llyr Huws Gruffydd, pan oedd yn eich rôl chi, i sicrhau eu bod yn cael cyfle i ddechrau eu fferm eu hunain, neu os na allant brynu un, eu bod yn cael cyfle o leiaf i rentu un. Felly, credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn. Ac rwy'n credu bod diogelu ein ffermydd yn rhywbeth sydd, yn amlwg, yn hanfodol yn fy rôl i. Ac yn y dyfodol, wrth inni ddatblygu ein polisi amaethyddol, unwaith eto, efallai eich bod yn ymwybodol fod y geiriau 'ffermwr gweithredol' yn ymddangos yn aml, os edrychwch ar y Papur Gwyn a gyhoeddais yn ôl ym mis Rhagfyr, ac mae sicrhau mai ffermwyr gweithredol sy'n cael eu gwobrwyo am y gwaith yn uchel iawn yn y rhestr o flaenoriaethau ynddo.
Mae plannu coed yn amlwg yn bwysig iawn. Os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau allyriadau carbon, os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau newid hinsawdd, mae angen inni blannu mwy o goed. Rwyf bob amser wedi dweud—ac mae plannu coed bellach yn rhan o'r weinyddiaeth ar newid hinsawdd—pan oeddwn yn gyfrifol amdano, nad oeddem yn plannu digon o goed. Felly, mae'n bwysig inni blannu coed, ond yn amlwg, mae pwy sy'n cael y cyllid ar gyfer gwneud hynny hefyd yn bwysig.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr fod plannu coed yn bwysig, ond mae'n ymwneud â phlannu'r goeden gywir yn y lle cywir ac am y rheswm cywir.
Felly, fy nghwestiwn olaf—
—yn Gymraeg: yn amlwg, prif ffocws gwaith y Llywodraeth a'r Senedd yn ystod y blynyddoedd nesaf mewn perthynas â materion gwledig fydd cyflwyno Bil amaeth newydd i Gymru. Mae'r heriau lu sy'n wynebu ardaloedd gwledig Cymru a'r sector amaeth yn golygu ei bod yn bryd llunio cyd-destun newydd i amaethyddiaeth yng Nghymru a sicrhau dyfodol llawer mwy ffyniannus i ffermio. Rhaid i hynny ddigwydd mewn ffordd sydd yn rhoi gwytnwch i'n ffermydd teuluol wrth wraidd adfywiad y diwydiant. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod rhaid inni fel Senedd gefnogi ffermwyr Cymru yn eu nod o fod yn un o'r sectorau amaethyddol mwyaf amgylcheddol gynaliadwy yn y byd. Ond rhaid inni gydnabod hefyd, er mwyn i'r ffermydd fod yn amgylcheddol gynaliadwy, fod rhaid iddyn nhw hefyd fod yn economaidd gynaliadwy. Felly, gyda'r angen am amser i ddatblygu, treialu, modelu ac asesu effaith briodol cyfraniad y cynlluniau arfaethedig sydd gyda chi ar gyfer lles economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru, a yw'r Gweinidog yn cytuno y dylid diogelu'r taliad sylfaenol ar lefelau cyllidol presennol—yn enwedig yng nghyd-destun ein hadferiad ar ôl COVID a pholisïau masnachol niweidiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel rŷn ni wedi clywed yn barod—er mwyn rhoi mwy o sefydlogrwydd economaidd i'r diwydiant yn ystod yr amser heriol hwn?
Diolch. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cynnal taliadau cynllun y taliad sylfaenol ar yr un lefel ar gyfer 2021. Os cawn y cyllid y dylem ei gael gan Lywodraeth y DU, byddwn yn ceisio gwneud hynny ar gyfer 2022 hefyd. Wrth inni ddatblygu'r cynllun ffermio cynaliadwy sydd wedi'i nodi yn y Papur Gwyn ac wrth inni gyflwyno'r Bil amaethyddiaeth, rwyf wedi dweud yn glir iawn na fyddwn yn cyflwyno'r cynllun newydd hyd nes ei fod yn gwbl barod. Felly, ni fydd unrhyw bryder ynghylch disgyn drwy'r bylchau nac unrhyw beth felly, oherwydd rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod y cynllun hwnnw wedi'i sefydlu ac yn weithredol. Ac rydym wedi cael dau ymgynghoriad. Rydym bellach wedi cael y Papur Gwyn, felly, dros dair blynedd, mae gennym ymatebion sylweddol i ymgynghoriadau y gallwn weithio arnynt gyda dadansoddiad manwl yn parhau ar hyn o bryd. Ond rwy'n credu, er mwyn rhoi'r sicrwydd y credaf fod ffermwyr ei angen yn y cyfnod ansicr hwn, cyn belled â'n bod yn cael yr un cyllid gan Lywodraeth y DU, byddwn yn gwneud hynny ar gyfer 2022.