Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:47, 23 Mehefin 2021

—yn Gymraeg: yn amlwg, prif ffocws gwaith y Llywodraeth a'r Senedd yn ystod y blynyddoedd nesaf mewn perthynas â materion gwledig fydd cyflwyno Bil amaeth newydd i Gymru. Mae'r heriau lu sy'n wynebu ardaloedd gwledig Cymru a'r sector amaeth yn golygu ei bod yn bryd llunio cyd-destun newydd i amaethyddiaeth yng Nghymru a sicrhau dyfodol llawer mwy ffyniannus i ffermio. Rhaid i hynny ddigwydd mewn ffordd sydd yn rhoi gwytnwch i'n ffermydd teuluol wrth wraidd adfywiad y diwydiant. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod rhaid inni fel Senedd gefnogi ffermwyr Cymru yn eu nod o fod yn un o'r sectorau amaethyddol mwyaf amgylcheddol gynaliadwy yn y byd. Ond rhaid inni gydnabod hefyd, er mwyn i'r ffermydd fod yn amgylcheddol gynaliadwy, fod rhaid iddyn nhw hefyd fod yn economaidd gynaliadwy. Felly, gyda'r angen am amser i ddatblygu, treialu, modelu ac asesu effaith briodol cyfraniad y cynlluniau arfaethedig sydd gyda chi ar gyfer lles economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru, a yw'r Gweinidog yn cytuno y dylid diogelu'r taliad sylfaenol ar lefelau cyllidol presennol—yn enwedig yng nghyd-destun ein hadferiad ar ôl COVID a pholisïau masnachol niweidiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel rŷn ni wedi clywed yn barod—er mwyn rhoi mwy o sefydlogrwydd economaidd i'r diwydiant yn ystod yr amser heriol hwn?