Gwella Lles Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 23 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:00, 23 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ni chaiff neb gadw unrhyw anifail gwyllt peryglus, ac mae hynny'n cynnwys llawer o brimatiaid, heb gael trwydded gan ei awdurdod lleol yn gyntaf o dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976. Fel rhan o hynny, byddai awdurdodau lleol, yn amlwg, yn archwilio safleoedd ac yn ystyried gofynion lles. Rydym yn gweithio gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru i ddrafftio cod ymarfer newydd yma yng Nghymru ar gyfer primatiaid, sy'n disgrifio eu hanghenion cymhleth. Yn anffodus, cafodd y gwaith ei oedi yr haf diwethaf, rwy'n credu, oherwydd pandemig COVID-19. Bydd y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), sy'n Fil gan Lywodraeth y DU, yn gwahardd cadw, bridio, gwerthu a throsglwyddo primatiaid yn Lloegr heb drwydded primatiaid benodol. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU fel y gallwn ymestyn y ddarpariaeth honno yma yng Nghymru. Gosodais femorandwm cydsyniad deddfwriaethol yr wythnos hon mewn perthynas â hynny.