Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 23 Mehefin 2021.
Esgusodwch y llun aneglur braidd. Gobeithio nad yw'n effeithio ar ansawdd y sain o gwbl. Weinidog, rwy'n croesawu camau gan eich Llywodraeth i wella iechyd a lles anifeiliaid. Mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn cynnal y safonau lles uchaf yma yng Nghymru. Mae un o fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd wedi mynegi pryderon ynghylch cadw da byw mewn lleoliad preswyl. Mae'n siŵr bod cadw a magu da byw yn gofyn am sgiliau a gwybodaeth arbenigol y tu hwnt i'r hyn sydd ei angen i gadw anifeiliaid anwes fel cŵn neu gathod. Mae'r rhai sy'n cadw da byw yn destun gwiriadau lles anifeiliaid a llu o ofynion sy'n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid. A wnaiff eich Llywodraeth sicrhau bod y bobl sy'n cadw da byw mewn mannau preswyl yn ddarostyngedig i'r un gofynion lles anifeiliaid trwyadl â ffermwyr?