Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 23 Mehefin 2021.
Weinidog, mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i'w gwneud yn ofynnol i ladd-dai yng Nghymru gael teledu cylch cyfyng, cam y mae pob plaid wedi'i gefnogi a'i godi gyda chi yn y Siambr hon ers sawl blwyddyn bellach. Mae'r defnydd o'r dechnoleg hon wedi cael ei ystyried ers tro yn gam pwysig tuag at sicrhau bod gennym y lefelau uchaf o ddiogelwch mewn perthynas â lles anifeiliaid yng Nghymru. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pam nad yw teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai eisoes yn orfodol, ac o ystyried yr ewyllys wleidyddol glir o bob ochr, pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi datrys y mater hwn eisoes?