Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 23 Mehefin 2021.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r gwaith sylweddol a wnaed yn nhymor blaenorol y Senedd mewn perthynas â theledu cylch cyfyng. Roedd gennym ddull gwirfoddol lle'r oeddem yn darparu cyllid sylweddol ar gyfer y lladd-dai llai o faint. Mae gan bob lladd-dy mwy o faint yng Nghymru deledu cylch cyfyng ac maent yn glynu wrth brotocol a ddatblygwyd ac y cytunwyd arno ar y cyd â'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Darparwyd cyllid gennym ar gyfer y rhai llai i helpu i brynu teledu cylch cyfyng. Ni all teledu cylch cyfyng gymryd lle goruchwyliaeth uniongyrchol gan reolwyr lladd-dai; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cofio hynny—neu filfeddygon swyddogol, yn enwedig mewn safleoedd bach. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Ond rydym wedi ymrwymo i'w gwneud yn ofynnol i bob lladd-dy gael teledu cylch cyfyng yn ystod tymor y Llywodraeth hon.