Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 23 Mehefin 2021.
Ychydig iawn o fudd a gawn o gynhyrchu bwyd y tu hwnt i werthu'r deunyddiau crai. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen inni ddatblygu'r diwydiant prosesu bwyd yng Nghymru, ac a wnaiff y Gweinidog edrych ar safle Felindre yn etholaeth fy nghyd-Aelod Rebecca Evans fel lleoliad ar gyfer prosesu bwyd gan nifer fawr o gwmnïau fel y caiff yr elw a wneir o brosesu bwyd ei gadw yng Nghymru yn hytrach na chael ei allforio allan?