Part of the debate – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 29 Mehefin 2021.
Mae Paul Davies wedi ei enwebu. A oes enwebiad arall gan y grŵp Ceidwadol ar gyfer y Cadeirydd hwn? Nid wyf i'n gweld enwebiad arall. A oes gwrthwynebiad i'r enwebiad hwnnw? Ni welaf unrhyw wrthwynebiad, ac felly mae Paul Davies wedi ei ethol i gadeirio Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.