Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 29 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:07, 29 Mehefin 2021

Diolch, Llywydd. Mae adroddiad diweddaraf y Sefydliad Bevan a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn ddigon i sobri unrhyw un. Dwi'n gobeithio y gwnaiff o ddeffro'r Llywodraeth yma i weld dyfnder effaith tlodi ar ein cymunedau ni—problemau sydd wedi dod yn fwy amlwg, wrth gwrs, yn ystod y pandemig yma. Mae o'n dangos yn glir iawn yr anghydraddoldebau dwfn iawn sydd yn ein cymdeithas ni: un o bob 10 cartref heb sicrwydd am ddyfodol y to uwch eu pen nhw; 80,000 wedi cael clywed yn y pandemig bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i gartref newydd. Ond o yfory, mi fydd y polisi 'no evictions' yn dod i ben. O ystyried canfyddiadau'r adroddiad yma, a wnewch chi ailystyried hynny?