Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 29 Mehefin 2021.
Wel, Llywydd, wrth gwrs fy mod i'n cytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am y ffordd y mae'r pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau a oedd eisoes yn llawer rhy amlwg yn ein cymdeithas, ac mae'r Llywodraeth hon yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i bwyso yn ôl yn erbyn llif cynyddol anghydraddoldeb yma yng Nghymru. Ond mae'n llanw sy'n codi oherwydd y camau sy'n cael eu cymryd mewn mannau eraill.
Pan gyfarfûm â Changhellor y Trysorlys rai wythnosau yn ôl, achubais ar y cyfle i bwyso arno am yr angen i beidio â gostwng yr £20 yr wythnos y mae teuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol yn ei gael yng Nghymru, mewn ymateb i'r pandemig. Estynnodd y Canghellor hynny yn ei gyllideb ym mis Mawrth hyd at ddiwedd mis Medi, ond mae'r wythnosau hynny yn prysur ddiflannu, ac unwaith eto mae'r teuluoedd hynny yn wynebu'r posibilrwydd, yn y dyfodol agos o golli £1,000 mewn blwyddyn—£1,000 sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr bob wythnos i'r plant sy'n byw yn y teuluoedd hynny. Pwysleisiais y pwynt hwnnw mewn modd mor rymus ag y gallwn gyda'r Canghellor.
O ran troi allan, gadewch i mi egluro i'r Siambr—a chaiff hyn ei nodi'n fanylach gan fy nghyd-Weinidog Julie James—mai rheoliadau coronafeirws yw'r rheoliadau sydd wedi atal troi allan. Mae'n rhaid eu cyfiawnhau yn ôl y gyfraith ar sail y pandemig, ac wrth i rannau eraill o'n cymdeithas weld mwy o normalrwydd yn cael ei adfer, yna mae'n rhaid adfer mwy o normalrwydd mewn rhannau eraill o fywyd Cymru. Pe na byddem wedi gwneud hynny, rwy'n credu nad oes amheuaeth o gwbl y byddai Llywodraeth Cymru wedi cael ei herio yn y llysoedd gan landlordiaid sydd â buddiant dilys mewn amddiffyn eu buddiannau eu hunain yn y cytundeb rhwng landlord a thenant.
Nawr, rydym ni wedi gwneud llawer iawn yn ystod y pandemig i gryfhau'r cymorth sydd ar gael i denantiaid: ymestyn cyfnodau rhybudd, darparu taliadau tai dewisol ychwanegol, ariannu llinell gymorth dyledion y sector rhentu preifat a'r canolfannau cyngor ar bopeth, yn ogystal â'r miliynau ar filiynau sylweddol iawn o bunnoedd yr ydym ni wedi'u gwario drwy awdurdodau lleol i fynd ati i ymdrin â phroblemau digartrefedd a sefydlogi sefyllfa tai pobl. Wrth i'r amser ddod pan fo rhaid dileu'r rheoliadau hynny, bydd y Gweinidog yn nodi rhagor o gymorth y byddwn ni yn ei roi i denantiaid yn y sefyllfa honno er mwyn lleihau'r risgiau sydd gan bobl o fod yn ddigartref a gorfod cael eu hailgartrefu mewn ffyrdd eraill gan awdurdodau statudol.