2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2021.
4. Beth yw asesiad cyfredol y Prif Weinidog o ledaeniad amrywiolyn Delta yn Ne Clwyd? OQ56670
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r amrywiolyn delta bellach yn gyffredin yn Ne Clwyd ac mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae ein rhaglen frechu yn parhau i gynnig y ffordd orau o fynd i'r afael â lledaeniad.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'n amlwg mai cael eich brechu yn llawn yn erbyn COVID yw amddiffyniad gorau dinasyddion rhag y feirws ofnadwy hwn a'r amrywiolion niferus ohono. A wnewch chi amlinellu sut, yn ogystal â bod ymhlith y gwledydd sy'n perfformio orau yn y byd o ran y dos cyntaf, y mae Cymru mor llwyddiannus wrth gyflymu'r broses o gyflwyno ail ddos y brechiad?
Diolch i Ken Skates am hynny. Mae e'n gwneud pwynt pwysig, wrth gwrs—nad yw un dos yn amddiffyniad digonol rhag coronafeirws, yn enwedig yr amrywiolyn delta newydd. Rydym ni mewn sefyllfa dda iawn yng Nghymru, Llywydd, oherwydd cwblhawyd ein cynnig o'r dos cyntaf o frechlyn i bob oedolyn yng Nghymru yn llawer cynt na'n cynlluniau gwreiddiol, ac yn llawer cynt na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu ein bod wedi gallu newid pwyslais ein rhaglen hyd yn oed yn fwy erbyn hyn i gyflymu'r broses o roi'r ail ddos o'r brechlyn, ac mae'r ffigurau'n galonogol iawn yma yng Nghymru. Mae gennym ni dros naw o bob 10 o bobl eisoes yn cael ail ddos o'r brechlyn ymhlith preswylwyr cartrefi gofal, pobl dros 80 oed, pobl dros 70 oed, gweithwyr gofal iechyd, ac, o yfory ymlaen, credaf y byddwn yn mynd dros 90 y cant o ran pawb yn eu 60au hefyd.
Mae ffigurau heddiw yn dangos bod 87 y cant o bobl rhwng 55 a 59 oed wedi cael y ddau ddos o'r brechlyn yng Nghymru eisoes, a'r hyn yr ydym yn ei wneud gyda'r 0.5 miliwn o ddosau o'r brechlyn y byddwn yn eu darparu dros y pedair wythnos cyn i ni adolygu'r cyfyngiadau coronafeirws nesaf yw lleihau'r amser rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos i ddim mwy nag wyth wythnos i bawb sydd dros 40 oed. Mae hynny'n golygu, erbyn i ni ddod i adolygu ein rheoliadau, y bydd pobl dros 40 oed yng Nghymru mewn sefyllfa dda iawn yn wir i gael yr amddiffyniad llawn y mae brechu yn ei ddarparu.
A byddaf yn adleisio'r hyn a ddywedodd Ken Skates, Llywydd, am bwysigrwydd hynny, a'n harwyddair canolog yma yng Nghymru, nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddod ymlaen i gael brechiad yng Nghymru. Pa un a yw hwnnw'n ddos gyntaf, neu eich bod heb gael yr ail ddos, y cyfan y mae'n rhaid i chi ei wneud yw cysylltu â'ch bwrdd iechyd lleol a gwneir trefniadau i chi ddal i fyny â'r hyn nad ydych chi wedi ei gael. Ac mae hynny'n bwysig iawn i'r unigolyn, ond mae'n bwysig iawn oherwydd po fwyaf o bobl yr ydym wedi'u brechu â dos dwbl, y mwyaf yw'r amddiffyniad sydd gennym ni i gyd rhag y feirws ac unrhyw amrywiolyn yn y dyfodol y gallai ei daflu tuag atom.
Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb i Mr Skates. A gaf i ymuno â chi a'r Aelod dros Dde Clwyd i annog pawb i gael gafael ar y brechlyn hwn cyn gynted ag y bo modd oherwydd, fel y dywedwch, mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth i bawb? Cefais y fraint yn ddiweddar o ymweld â fferyllfa gymunedol yn fy rhanbarth i, lle yr oedd clinig COVID ac yr oedden nhw'n rhoi'r brechlyn COVID i'r rhai a oedd yn gallu cael mynediad i'r fferyllfa gymunedol. Ac fe'm trawodd tra'r oeddwn i yno fod gan fferyllfeydd cymunedol, mewn gwirionedd, ran mor bwysig i'w chwarae, ac efallai rhan fwy i'w chwarae yn y dyfodol wrth weinyddu'r brechlyn COVID-19.
Felly, yn eich dyhead, a dyhead bob un ohonom, i weld cyflwyno'r brechlyn yn cyflymu, yn Ne Clwyd a ledled Cymru gyfan, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda fferyllfeydd cymunedol i weld sut y gallan nhw chwarae fwy byth o ran wrth helpu i gyflymu'r gwaith o roi'r brechlyn yng Nghymru?
Wel, Llywydd, rwyf i'n sicr yn cytuno â'r Aelod ynglŷn â'r rhan y mae fferyllfeydd cymunedol wedi ei chwarae yn yr holl ymdrech frechu. Cryfder y ffordd yr ydym wedi gwneud pethau yng Nghymru yw ein bod ni wedi cael ffordd aml-ddimensiwn o ddarparu'r brechlyn, drwy ofal sylfaenol, drwy fferyllfeydd cymunedol, drwy ganolfannau brechu torfol, drwy ganolfannau brechu symudol.
Yr hyn yr ydym ni wedi ceisio ei wneud yw dau beth, rwy'n credu. Un ohonyn nhw yw graddnodi'r mecanwaith cyflawni i ddaearyddiaeth rhan benodol o Gymru, ac yna, yn ail, graddnodi'r ddarpariaeth i'r gwahanol grwpiau oedran yr ydym yn eu targedu, a darparu cyfleoedd i frechu mewn ffordd sy'n bodloni amgylchiadau bywyd gwahanol grwpiau oedran. Ac yn hynny o beth, mae fferylliaeth gymunedol wedi chwarae rhan bwysig iawn, a gwn y bydd yn rhan o'r repertoire cymysg o ddarparu brechlynnau ar gyfer y dyfodol wrth i ni geisio parhau i sicrhau ein bod yn darparu cynigion brechu mewn ffordd sydd fwyaf cyfleus, fwyaf hygyrch, ac yn fwyaf rhwydd i bobl mewn trefn—ac, unwaith eto, rwy'n diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd, ac ategaf yr hyn a ddywedodd—er mwyn i ni sicrhau bod y nifer fwyaf posibl o bobl yn cael eu brechu yng Nghymru.