2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2021.
6. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i fusnesau y mae ymbellhau cymdeithasol wedi effeithio arnynt yn ystod y pandemig? OQ56712
Wel, diolch i'r Aelod am hynny, Llywydd. Drwy gydol y pandemig, rydym wedi darparu £5.7 miliwn o gyllid i gefnogi busnesau canol trefi yn uniongyrchol i wneud addasiadau i fodloni gofynion ymbellhau cymdeithasol.
Diolch, Prif Weinidog. Mae llawer o fusnesau wedi ailagor yn dilyn y cyfyngiadau symud diwethaf. Maen nhw wedi gwneud hynny gyda llai o gapasiti. Mae hyn yn ddieithriad yn golygu llai o incwm. Rwyf wedi cael sylwadau gan stiwdio ioga yn Nwyrain De Cymru sydd wedi ailagor yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, ond dim ond traean o'u cleientiaid arferol maen nhw'n gallu eu croesawu drwy'r drws. Mae eu gorbenion yn aros yr un fath. Cawsant fenthyciad adfer y llynedd, a chawsant gymorth gan y Llywodraeth ym mis Mawrth eleni. O ganlyniad i hyn i gyd, maen nhw ar fin cau, gyda dim ond £100 yn eu cyfrif busnes ddiwedd yr wythnos diwethaf. Mae lleoedd sy'n annog ffordd iach ac egnïol o fyw yn hanfodol ar gyfer llesiant ac iechyd corfforol a meddyliol da. Sut y bydd y Llywodraeth yn cefnogi busnesau fel y stiwdio ioga yn fy rhanbarth i, i oroesi'r heriau economaidd a ddaw yn sgil ymbellhau cymdeithasol?
Wel, Llywydd, a gaf i gydnabod yn llwyr yr heriau sy'n cael eu hachosi i fusnesau na allant weithredu yn y ffordd y bydden nhw wedi'i wneud oni bai am yr angen i amddiffyn eu defnyddwyr rhag y risgiau y mae'r coronafeirws yn eu hachosi i staff ac i ddefnyddwyr fel ei gilydd? Rwy'n falch bod y busnes wedi gallu elwa ar rywfaint o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr Aelodau wedi gweld bod Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi swm ychwanegol o arian yn benodol i helpu'r busnesau hynny sy'n parhau naill ai i beidio â gallu gweithredu o gwbl, neu i weithredu dan yr amgylchiadau y mae Mr Griffiths newydd eu hamlinellu. A bydd mwy o help gan Lywodraeth Cymru wrth i'r argyfwng hwn barhau ac wrth i fusnesau geisio dychwelyd at allu masnachu yn y ffordd yr oedden nhw'n gallu'i wneud ar un adeg. Yn y cyfamser, i fynd yn ôl at gwestiwn gwreiddiol yr Aelod, mae'r holl fuddsoddi ychwanegol hwnnw y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu yn golygu, drwy'r addasiadau ffisegol hynny—y seddi awyr agored, yr awniadau, yr addasiadau ar y stryd, y llefydd gweini awyr agored, y cysylltiadau trydanol—yr holl bethau niferus hynny yr ydym wedi gallu cynorthwyo busnesau â nhw yng Nghymru, gan gynnwys yn rhanbarth yr Aelod ei hun, yn golygu bod busnesau wedi gallu addasu i'r amgylchiadau newydd hynny ac o leiaf fasnachu i'r graddau mwyaf posibl sy'n gymesur â'r peryglon parhaus y mae'r coronafeirws yn eu darparu.
Diolch i'r Prif Weinidog.