Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 29 Mehefin 2021.
Gweinidog, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ceisio sicrhau £5 miliwn o'i gronfeydd wrth gefn ar gyfer yr ardal leol, wrth inni ddod allan o'r pandemig. Rydym ni i gyd yn gwybod bod cynghorau ledled Cymru wedi dangos arweiniad ac arloesedd lleol yn ystod y pandemig, ac, wrth inni ddod allan ohono nawr, a fyddai'r Gweinidog yn trefnu datganiad i'r Senedd archwilio sut y byddai modd manteisio ar gapasiti llywodraeth leol i gydweithio'n agosach er mwyn sbarduno ein hadferiad economaidd? Diolch.