Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 29 Mehefin 2021.
Diolch, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod fod awdurdodau lleol wedi gweithio'n eithriadol o galed ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, nid yn unig yn ystod y pandemig, ond cyn y pandemig. Ac maent wedi camu ymlaen i'n helpu ni gyda'n profi, olrhain, diogelu a dosbarthu parseli bwyd. Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn y Siambr ac mae wedi clywed eich cais ac mae'n fodlon darparu datganiad arall.